Os derbynnir eich cais i astudio, byddwn yn eich gwahodd i ddod am gyfweliad. Bydd cynnig i astudio gyda ni yn cael ei wneud i chi dim ond ar ôl cyfweliad llwyddiannus.
Rhoddir pob gwahoddiad i ddod am gyfweliad trwy UCAS. Ceir gwybodaeth bwysig am y cyfweliad isod.
Bydd pob diwrnod cyfweld yn cael ei gynnal ar gampws ym Mangor, a fydd yn rhoi cyfle i chi roi'r cyfrif gorau o'ch sgiliau, profiadau blaenorol a chymeriad, ac yn ein helpu ni i'ch adnabod yn well ac i benderfynu a fyddwch yn ffynnu ym Mhrifysgol Bangor. Bydd cyfarfod â'r tîm academaidd a bod ar y campws hefyd yn eich galluogi i weld rhai o'n cyfleusterau, deall cymaint â phosib am sut rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr a beth mae'n ei olygu i ddod yn fydwraig fyfyrwraig Prifysgol Bangor.
- Dyddiadau: Dydd Llun 7 Ebrill – Dydd Gwener 11 Ebrill
- Lleoliad: Ysgol Gwyddorau Iechyd, Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF
Bydd angen i chi gyrraedd erbyn 08:45yb ar gyfer y cyfweliadau boreol, ac erbyn 12:45yp ar gyfer y cyfweliadau prynhawnol. Byddwn yn anfon gwybodaeth am eich dyddiad a'ch amser cyfweliad drwy UCAS.
Ymatebwch i'ch gwahoddiad am gyfweliad trwy UCAS o fewn pythefnos trwy un o'r opsiynau canlynol:
- Cofrestrwch i fynd i'r cyfweliad
- Dewiswch "Ni allaf ddod" ac aros am ddyddiadau eraill
- Cysylltwch â ni ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk i drafod opsiynau eraill.
Gall methu ag ymateb o fewn pythefnos i dderbyn y gwahoddiad am gyfweliad olygu bod eich cais yn aflwyddiannus.
Os nad yw'r un o'r dyddiadau sydd ar gael yn gweithio i chi, dewiswch "Ni allaf ddod ar y dyddiadau hyn". Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig slot arall, fodd bynnag ni ellir gwarantu y bydd un ar gael. Gall methu'r holl ddyddiadau sydd ar gael olygu na fydd eich cais yn llwyddiannus - mae dod am gyfweliad yn ofynnol ar gyfer y broses ddewis.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Byddwn yn cysylltu â chi drwy UCAS gyda chanlyniad eich cyfweliad. Er ein bod yn ymdrechu i gysylltu ag ymgeiswyr cyn gynted â phosibl, byddwn yn cynnal nifer fawr o gyfweliadau a gall penderfyniadau gymryd 2-3 wythnos. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, mae’n bwysig eich bod yn darllen unrhyw amodau’r cynnig a chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf yn ofalus. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth o fewn terfynau amser penodedig. Bydd pob cynnig yn amodol ar wiriadau DBS ac iechyd boddhaol.
Gofynnir i ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad ddarllen y wybodaeth bwysig sy'n egluro'r camau nesaf yn y broses dderbyn ar gyfer y cwrs hwn.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Sylwer: rhoddir pob cynnig trwy UCAS.
Os yw eich cais yn anllwyddiannus ac yr hoffech dderbyn adborth, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu atom. Gallwch ofyn am eich adborth o fewn 6 wythnos i dderbyn eich penderfyniad. Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol wrth wneud eich cais:
- Enw llawn
- Rhif Adnabod Personol UCAS (os gwnaethoch gais drwy UCAS)
- Dyddiad geni
- Enw'r cwrs a wnaethoch gais amdano
- Dyddiad y cyfweliad
Gallwch ofyn am eich adborth drwy anfon e-bost atom yn ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk
Cysylltu â ni:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfweliad neu'ch cais, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk