Fy ngwlad:

Hylendid Deintyddol: Cyfweld a Dewis

Os derbynnir eich cais i astudio, byddwn yn eich gwahodd i ddod am gyfweliad. Bydd cynnig i astudio gyda ni yn cael ei wneud i chi dim ond ar ôl cyfweliad llwyddiannus.

Rhoddir pob gwahoddiad i ddod am gyfweliad trwy UCAS. Ceir gwybodaeth bwysig am y cyfweliad isod.

Bydd cyfweliadau ar gyfer ein rhaglen Hylendid Deintyddol yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 7 Ebrill – dydd Gwener 11 Ebrill 2025.

  • Dyddiadau: Dydd Llun 7 Ebrill – Dydd Gwener 11 Ebrill

  • Lleoliad: Ysgol Gwyddorau Iechyd, Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

Bydd angen i chi gyrraedd erbyn 08:45yb ar gyfer y cyfweliadau boreol, ac erbyn 12:45yp ar gyfer y cyfweliadau prynhawnol. Byddwn yn anfon gwybodaeth am eich dyddiad a'ch amser cyfweliad drwy UCAS.

 

Ymatebwch i'ch gwahoddiad am gyfweliad trwy UCAS o fewn pythefnos trwy un o'r opsiynau canlynol:

  • Cofrestrwch i fynd i'r cyfweliad
  • Dewiswch "Ni allaf ddod" ac aros am ddyddiadau eraill
  • Cysylltwch â ni ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk i drafod opsiynau eraill.

Gall methu ag ymateb o fewn pythefnos i dderbyn y gwahoddiad am gyfweliad olygu bod eich cais yn aflwyddiannus.

Os nad yw'r un o'r dyddiadau sydd ar gael yn gweithio i chi, dewiswch "Ni allaf ddod ar y dyddiadau hyn". Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig slot arall, fodd bynnag ni ellir gwarantu y bydd un ar gael. Gall methu'r holl ddyddiadau sydd ar gael olygu na fydd eich cais yn llwyddiannus - mae dod am gyfweliad yn ofynnol ar gyfer y broses ddewis.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?

Byddwn yn cysylltu â chi drwy UCAS gyda chanlyniad eich cyfweliad.  Er ein bod yn ymdrechu i gysylltu ag ymgeiswyr cyn gynted â phosibl, byddwn yn cynnal nifer fawr o gyfweliadau a gall penderfyniadau gymryd 2-3 wythnos. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, mae’n bwysig eich bod yn darllen unrhyw amodau’r cynnig a chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf yn ofalus. Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth o fewn terfynau amser penodedig. Bydd pob cynnig yn amodol ar wiriadau DBS ac iechyd boddhaol.

Gofynnir i ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfweliad ddarllen y wybodaeth bwysig sy'n egluro'r camau nesaf yn y broses dderbyn ar gyfer y cwrs hwn. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod trwy UCAS.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Sylwer: rhoddir pob cynnig trwy UCAS.

Os yw eich cais wedi bod yn aflwyddiannus ac yr hoffech gael adborth, mae croeso i chi gysylltu â ni i wneud cais am hyn. Gallwch ofyn am adborth ar eich cais a/neu eich cyfweliad o fewn 6 wythnos i'r penderfyniad. I wneud hyn, anfonwch e-bost atom, gan sicrhau eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw llawn (fel y mae'n ymddangos ar eich cais)
  • Rhif Adnabod Personol UCAS (os gwnaethoch gais drwy UCAS)
  • Dyddiad geni
  • Enw'r cwrs a wnaethoch gais amdano
  • Dyddiad y cyfweliad

Anfonwch eich cais i ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk

Cysylltu â ni:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfweliad neu'ch cais, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk