Wrth edrych ymlaen at haf o wyliau unwaith eto, a chael cyfle i ddal fyny efo cerddoriaeth wych, ffrindiau da a digonedd o heulwen, mae ecolegwyr o Brifysgol Bangor yn tynnu sylw at un peth hanfodol y gall rhai sy’n mynychu gwyliau ei wneud i helpu i ofalu am yr amgylchedd: pi-pi’n gyfrifol.
Efallai y bydd pobol yn ceisio bod yn gyfeillgar i’r amgylchedd drwy rannu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau ar ddefnydd o blastig untro, a mynd ag offer a sbwriel adref a nhw.Ond mae un cam syml arall y gall pobol ei wneud a all gael canlyniadau amgylcheddol enfawr.
Mae gofyn i bobol sydd yn mynychu gwyliau yng nghefn gwlad beidio â phasio dŵr ar lawr, gan y gall hyn dreiddio i afonydd a nentydd cyfagos. Ac mae’n bosib nad pi-pi yn unig sy’n cael ei ollwng i’r amgylchedd.
Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Bangor bod lefelau rhai cyffuriau anghyfreithlon yn ystod yr Ŵyl Glastonbury ddiwethaf wedi cyrraedd lefelau a allai fod yn niweidiol i’r amgylchedd yn yr afon sy’n llifo drwy’r safle.
Pi-pi'n gyfrifol
![A large crowd looks towards a brightly lit stage at night. Above their heads are coloured banners.](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-06/shutterstock_Festival.jpg?h=e7d8a53c&itok=kC3qrwmf)
![Researchers in the river](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-06/IMG-20190629-WA0024.jpg?h=ce9b50b1&itok=PM2jGKyI)
![shot of portaloos](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-06/MicrosoftTeams-image%20%2845%29.png?h=82f92a78&itok=xZepmuzO)
![Delwedd o dorf mewn wyl](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-06/pexels-wendy-wei-1540338.jpg?h=aaf3efc1&itok=m4uk9qw7)
![Mab standing in field speaking and using his hands](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2021-05/u2vfze.jpg?h=4882e2c2&itok=jnv7ywGG)
Does dim gwahaniaeth pa mor hir yw'r ciw - defnyddiwch y toiled
“Mae’r cyffuriau hyn yn fwyaf tebygol o fynd i’r dŵr wrth i bobl basio dŵr yn yr ardal,” eglurodd Dr Christian Dunn, a arweiniodd yr ymchwil.
Gall cyffuriau, a chemegau eraill yn eich pi-pi gyrraedd yr afonydd yn gymharol gyflym felly mae'n bwysig iawn defnyddio'r cyfleusterau a ddarperir gan drefnwyr yr ŵyl.
“Gall y coctel o gyffuriau sy’n mynd i mewn i’r dŵr niweidio pob math o fywyd dyfrol.
“Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gwneud rhagor o ymchwil i weld pa mor niweidiol yw’r broblem hon, a beth allwn ei wneud i dynnu’r cyffuriau o ddyfrffyrdd, neu eu hatal rhag mynd i mewn iddynt yn y lle cyntaf – trwy er enghraifft defnyddio gwelyau cors a gwlyptiroedd sydd wedi’u cynllunio’n arbennig.
“Ond gallwch chi wneud rhywbeth i helpu a hynny yw – peidiwch â phasio dŵr ar lawr mewn gŵyl. Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod yn bell oddi wrth afon, a dim ond un pi-pi ydyw, ond peidiwch; defnyddiwch y toiled.
Mae pob pi-pi yn cyfrif! ychwanegodd Dr Dunn.
Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwil yma, ac am yr ymgyrch yma.