Crynodeb
Mae lleoliadau gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn hybu buddion tymor hir megis cyflawniad addysgol, iechyd meddwl a chorfforol, a ffyniant economaidd cenedlaethau'r dyfodol mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Mae miliynau o blant mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn cael addysg annigonol a chosbau llym gan roddwyr gofal. Mae'r rhain yn ffactorau risg arwyddocaol ym maes datblygiad plant.
Mae ymchwil ym Mangor wedi arwain at ddwy raglen ymyrraeth hynod effeithiol i wella canlyniadau plentyndod cynnar mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae ymchwil Bangor i raglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ofalwyr plant bellach wedi cyrraedd dros 5,500 o athrawon, dros 7,000 o famau ac wedi bod o fudd i dros 500,000 o blant yn fyd-eang.