Ymgyrchoedd, Cynlluniau, Mentrau a Gwobrau
Cysylltiadau Cyflym
- Cynllun Ailgylchu Cwpanau Coffi
- Cyfrannu at Economi Gylchol
- Ailgylchu ‘wrth fynd’ ym Mhrifysgol Bangor
- Cronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20
- Gwahanu er gwell
- Wythnos Am Wastraff
- Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
- Cronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20
- Pob Can yn Cyfri
- Ailgylchu Plastig o’r Labordy
- Arlwyo – “Ystyried Cyn Yfed”
- Neuaddau Preswyl – “Y Rheolaeth Amgylcheddol Orau”
- Safbwynt y Brifysgol ar Blastig
Cynllun Ailgylchu Cwpanau Coffi
Wnaeth Prifysgol Bangor lansio cynllun ailgylchu cwpanau coffi yn Chwefror 2022. Er yn amlwg, y byddai’n well gennym pe bai pawb yn defnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer eu diodydd ‘wrth fynd’, rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn bosib. Rydym felly’n ymuno â chwmni lleol – Humphrey’s Waste & Recycling (sydd hefyd yn casglu ein plastigion o labordai) i ailgylchu’r cwpanau un-defnydd arferol (cwpanau papur wedi’i leinio a phlastig) a ddefnyddiwn ar draws y campws. Mae biniau wedi eu lleoli yn Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Caffi Teras, Prif Lyfrgell, Bar Uno, Barlows a Chanolfan Brailsford.
Cyfrannu at Economi Gylchol
Beth yw Economi Gylchol?
Yn hanesyddol, mae cymdeithas wedi bod yn gweithredu model economaidd llorweddol at adnoddau - rydyn ni'n cymryd deunyddiau crai o'r ddaear, yn gwneud eitemau gyda nhw, yn defnyddio'r eitemau am gyfnod byr, cyn eu gwaredu heb fawr o feddwl am y niwed amgylcheddol.
Economi Gylchol yw'r gwrthwyneb i'r model economaidd llorweddol hwn, lle rydym yn cadw adnoddau mewn defnydd mor hir a sydd bosib trwy ddefnyddio llai ohonynt, rhannu, benthyca, ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu. Trwy leihau ein defnydd o adnoddau a thrwy sicrhau ein bod yn eu cadw mewn defnydd cyhyd ag y bo modd, rydym yn lleihau'r angen am ddeunydd crai, yn ddefnyddio llai o ynni ac yn arbed costau gwaredu, yn ogystal â lleddfu’r effeithiau amgylcheddol negyddol sy'n gysylltiedig â cynhyrchu, cludo a gwaredu.
Sut ydyn ni'n cyfrannu at Economi Gylchol yma ym Mhrifysgol Bangor felly?
Mae ein biniau mewnol newydd wedi’u gwneud 100% o gynnwys sydd wedi’i ailgylchu, a mae ein biniau sbwriel allanol ‘wrth fynd’ newydd hefyd wedi eu gwneud o 100% blastig wedi’i ailgylchu. Datblygir ein cyfleuster compostio gan ddefnyddio cysgwyr rheilffordd wedi'u hadennill ac yn defnyddio dewis arall o ‘grasscrete’ concrid sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, yr un mor gryf ac wedi'i gynhyrchu o wastraff plastig wedi'i ailgylchu yn y DU.
Fodd bynnag, dim ond hanner y stori yw hon. Gwnaethom ymuno â chwmni gweithgynhyrchu o'r enw Leafield Environmental (ein darparwyr biniau mewnol), a gasglodd ein hen biniau Neuaddau Preswyl i'w hailgylchu i finiau newydd tebyg i'r rhai sydd gennym ar hyn o bryd. Wnaeth y plastig hwn cael ei gludo i gyfleuster ailgylchu, ei smeltio i lawr a'i liwio'n ddu i sicrhau nad oedd unrhyw ran ohono‘n cael eu wastraffu o ganlyniad i afliwiad ac ati. Rydym hefyd wedi prynu biniau ailgylchu cwpanau coffi’n ddiweddar gan Leafield (sydd hefyd wedi'u gwneud o 100% gynnwys wedi'i ailgylchu) er mwyn cyflwyno rhaglen ailgylchu cwpan coffi newydd yn ddiweddarach eleni.
Ailgylchu ‘wrth fynd’ ym Mhrifysgol Bangor
Wrth gerdded ar draws y campws o adeilad i adeilad, mae'n anodd gwybod beth i'w wneud â'ch deunydd gwastraff os mai'r cyfan y gallwch ei weld yw biniau sbwriel (ar gyfer gwastraff cyffredinol). Dyna pam mae Prifysgol Bangor wedi gosod biniau ailgylchu ‘wrth fynd’ ar draws y campws yn ddiweddar, fel y gallwn ni i gyd wneud ein rhan dros yr amgylchedd pan rydyn ni’n cerdded o un lle i’r llall. Plîs defnyddiwch y biniau a chofiwch nad oes modd ailgylchu cwpanau coffi ar hyn o bryd yn y biniau yma (ar wahân i'r caeadau y gellir eu hailgylchu yn y bin plastig/caniau/cartonau). Nid papur yn unig yw’r cwpanau coffi - maent wedi'u leinio â ffilm blastig, ac os oes hylif ar ôl yn y gwpan bydd hyn yn halogi’r papur a chardfwrdd.
Cronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20
Derbyniodd Prifysgol Bangor gyllid grant trwy Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20 i ailddatblygu ein cyfleuster compostio presennol gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy wedi'i adfer neu'i ailgylchu, am 30 bin ailgylchu ar wahân ‘wrth fynd’ (wedi'i gwneud 100% o gynnwys wedi'i ailgylchu) yn ogystal â phedwar cerbyd trydan a phwynt gwefru trydanol.
Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus.
Gwahanu er Gwell
Helpwch ni i fod yn Brifysgol fwy cynaliadwy trwy ddefnyddio ein system ailgylchu ar wahân.
Mae gennym dri bin plastig ar wahân nawr:
- plastig, metel a chartonau (caead oren)
- papur a cherdyn (caead glas)
- gwydr (caead coch)
Trwy wahanu ein hailgylchu fel hyn, ein nod yw i wella ein cyfraddau ailgylchu a chynhyrchu ailgylchu glanach o ansawdd uwch fydd yn fwy tebygol o gael eu defnyddio yng Nghymru neu yn y DU. Mae Prifysgol Bangor yn anelu cynyddu ein hailgylchu i 70% erbyn 2025.
Wythnos Am Wastraff
Ymgyrch wastraff flynyddol y Brifysgol yw Wythnos Am Wastraff. Y nôd yw cynyddu ymwybyddiaeth am leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, hysbysu’r myfyrwyr am gyfleoedd posibl am yrfaoedd yn y sector, a denu myfyrwyr a staff i ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd adnoddau. Cynhelir yr Wythnos Am Wastraff (WAW) yn flynyddol yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Hydref. Datblygwyd yr ymgyrch yn wreiddiol yn 2017 gan y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â’r Neuaddau Preswyl a Champws Byw.
Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
Mae Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor sydd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Neuaddau, PaCS a’r Lab Cynaliadwyedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr roi yr eitemau y gellir eu hailddefnyddio i elusen leol. Mae modd cyfranu eitemau fel llestri, potiau a sosbenni, dillad, esgidiau, ac offer cegin. Y cyfan sy'n rhaid i’r myfyrwyr ei wneud yw rhoi’r eitemau mewn bag plastig coch sydd wedi ei ddarparu, yna gadael y bag y tu allan i ddrws eu hystafell wely. Nid yw gwastraff cyffredinol, gwastraff i’w ailgylchu na gwastraff bwyd i gael ei roi yn y bag coch. Mae modd i’r myfyrwyr gyfranu bwyd oes silff hir (heb eu hagor) megis grawnfwyd, tuniau a jariau drwy ei gadael ar ffwrdd eu cegin.
Cronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20
Derbyniodd Prifysgol Bangor gyllid grant trwy Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol 2019-20 ar gyfer 260 set o finiau EnviroStack (wedi'i gwneud 100% o gynnwys wedi'i ailgylchu) er mwyn symud o system ailgylchu cymysg i system ailgylchu ar wahân yn ogystal â cherbyd trydan ar gyfer casgliadau gwastraff yn 2020.
Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus.
Pob Can yn Cyfri
Ar y 30ain o Fedi 2019, lansiwyd ymgyrch “Pob Can yn Cyfri” fel rhan o Wythnos Am Wastraff. Mae yna 8 bin ailgylchu ‘wrth fynd’ ar draws y campws.
Mae gennym gyfleusterau ailgylchu helaeth tu fewn i’n hadeiladau ond rydym yn ymwybodol ein bod yn dal i golli deunydd gwerthfawr pan fydd ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr allan o gwmpas ar y campws.
Mae caniau alwminiwm yn ddeunydd gwych i’w gasglu gan eu bod yn rhan o gylch caeedig. Hynny yw, mae’n bosib eu hailgylchu drosodd a throsodd, am byth, heb golli ansawdd a thrwy wneud hyn dim ond 5% o’r egni sy’n cael ei ddefnyddio i greu’r cynnyrch o’r newydd sy’n cael ei ddefnyddio. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hwn yn gam arall eto i sicrhau bod deunydd gwerthfawr yn cael ei gasglu yma ym Mangor i’w ailgylchu yn hytrach na’i golli drwy ei anfon i’r safle adfer ynni. Gwyliwch allan am y biniau arbennig yma ar draws y campws.
Gan ein bod yn casglu ein plastig, metel a chartonau gyda'i gilydd (yn un ffrwd ailgylchu), o 2020 gellir defnyddio'r biniau hyn ar gyfer poteli plastig a chartonau hefyd.
Ailgylchu Plastig o’r Labordy
Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch, mae holl labordai'r Brifysgol yn ddibynnol iawn ar blastigau. Felly, yn ddiweddar buom yn adolygu ein harferion ledled y campws, i weld sut y gallwn roi'r hierarchaeth wastraff ar waith.
Er bod llawer iawn o blastig untro yn cael ei daflu, mae llawer iawn yn cael ei olchi a'i ailddefnyddio yn y rhan fwyaf o'n labordai, a hoffem sicrhau bod hwn yn arfer cyffredin. Ymhellach, mae'r plastig sy'n cael ei daflu'n cael ei adfer fel ynni. Fodd bynnag, credwn nad yw hyn yn ddigonol, ac felly rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gontract neilltuol i ailgylchu plastigau'r labordai. Gobeithiwn y bydd casgliad ailgylchu plastig labordai ar waith erbyn diwedd 2019. Mae mwy o wybodaeth am beth ellir ei ailgylchu ar dudalen ‘Ailgylchu yn y Brifysgol’.
Arlwyo – “Ystyried Cyn Yfed”
Wnaeth nifer o fentrau arlwyo cael eu cynnal yn ystod 2019/20, i geisio sicrhau bod tîm Arlwyo’r Brifysgol yn gweithredu yn y modd mwyaf cynaliadwy posibl (gan gofio bod dulliau cynaliadwy’n cynnwys – yr amgylcheddol, y cymdeithasol, yr ariannol a’r diwylliannol), yn defnyddio eu hadnoddau’n effeithlon ac yn cyfrannu at economi cylchol. Caiff yr hierarchaeth wastraff ei chymhwyso i bob proses sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau. Atal creu gwastraff yn y lle cyntaf yw’r dewis gorau bob tro lle bo hynny’n bosibl.
Wnaeth y set gyntaf o fentrau canolbwyntio ar atal ac ailddefnyddio. Fodd bynnag, byddwn yn hyrwyddo ac yn rhannu’r negeseuon a gaiff eu cyflwyno yn ystod cyfnod y mentrau hyn dros amser amhenodol, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i fyfyrwyr a staff newydd ac ymwelwyr, er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a sicrhau fod cymaint a phosib yn cymryd rhan.
“Ystyried Cyn Yfed”
Cafodd y mentrau atal ac ailddefnyddio eu lansio ar y 29ain o Ebrill 2019 fel rhan o ymgyrch “Ystyried Cyn Yfed” a wnaeth o canolbwyntio ar leihau nifer y gwellt a ddefnyddir ar y campws, a chael gwared ar yr holl ffyn troi diodydd untro o’n mannau bwyd, hyrwyddo’r cynllun ail-lenwi a lleihau’r angen am boteli untro, a hyrwyddo’r defnydd o gwpanau i’w hailddefnyddio er mwyn lleihau nifer y cwpanau coffi untro.
Nid yw gwellt ar gael ar y cownter bellach, ond maent ar gael drwy ofyn yn unig. Felly, bydd llai o lawer o wellt yn cael eu defnyddio a llai’n cael eu taflu. Bydd y gwellt sydd ar gael yn rhai plastig, oherwydd bod angen gwellt plastig ar y bobl hynny sydd angen gwelltyn. Os oes angen gwelltyn ar unrhyw un fe fyddant ar gael bob amser yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Nid oes modd ailgylchu neu gompostio gwellt yn lleol ar hyn o bryd, waeth beth fo’r deunydd. Mae gwellt papur yn cael eu gwneud o bapur o safon isel sy’n troi’n ddyfrllyd ar ôl bod yn y diod am ychydig. Nid yw’n bosibl eu hailgylchu, ac ni ellir prosesu gwellt papur, gwellt pydradwy na gwellt compostadwy mewn Treuliwr Anaerobig. Felly, nid yw newid y deunydd yn ateb cynaliadwy, yr unig ateb cynaliadwy yw peidio â defnyddio gwelltyn os nad oes raid ac felly osgoi creu’r gwastraff yn y lle cyntaf.
Rydym hefyd wedi cael gwared ar yr holl ffyn troi diodydd untro waeth beth fo’r deunydd ac yn eu cyfnewid â llwyau metel y gallwn eu hailddefnyddio, ac y bydd y tîm arlwyo yn eu golchi. Er bod mynd â phaned o goffi gyda chi wrth i chi fynd ar hyd y lle’n rhan o’r bywyd modern, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn paratoi’r coffi wrth gerdded. Yn ein barn ni mae’r ffyn troi diod yn wastraff diangen waeth beth fo’r deunydd. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â mynd â’r llwyau gyda chi (hynny yw peidiwch â dwyn y llwyau!) oherwydd bydd hynny’n gwneud y fenter yn anghynaliadwy, gan y byddai’n rhy gostus.
Rydym yn hyrwyddo Prifysgol Bangor fel ‘Prifysgol Ail-lenwi’, lle gallwch lenwi eich poteli dŵr ail-ddefnydd am ddim yn unrhyw un o’n siopau (heblaw am y Copa – does dim dŵr tap yno). Mae poteli dŵr â brand Prifysgol Bangor ar werth ym mhob un o’r llefydd bwyta hefyd.
Mae cwpanau coffi ail-ddefnydd hefyd yn cael eu gwerthu a’u hyrwyddo, ac mi gewch ostyngiad o 10c ar bob diod os dewch â’ch cwpan/mwg eich hun.
Wnaeth ymgyrch " Ystyried Cyn Yfed" cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Green Gown 2019. Hyd yma rydym wedi atal o leiaf 9,171 o eitemau untro rhag cael eu defnyddio a’u gwaredu ar draws y campws gyda’r ymgyrch.
Dros fisoedd y misoedd nesa byddwn yn dal ati trwy ddefnyddio poteli a jariau yn lle sachets halen, phupur a sawsiau, adolygu’r defnydd posibl o lestri mewn rhai mannau, adolygu dewis amgen o laeth gan ei fod yn creu llawer iawn o wastraff ac yn bwrw golwg ar ailgylchu mwy o’n deunyddiau arlwyo.
Neuaddau Preswyl – “Y Rheolaeth Amgylcheddol Orau”
Oedd o'n bleser gan Brifysgol Bangor ennill y wobr am y Rheolaeth Amgylcheddol Orau yng Ngwobrau Arolwg Llety Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2018, ac mae’n dyst i ymroddiad a meddwl ysbrydoledig y Tîm Bywyd Preswyl a’r Tîm Cynaliadwyedd.
Cyflwynir sesiynau ymwybyddiaeth gwastraff i fyfyrwyr ar ddechrau’r tymor; mae’r rhain yn cynnwys cyflwyniadau byr, sgyrsiau a gweithdai. Rydym yn gweithio gyda’n Mentoriaid Preswyl i sicrhau eu bod yn gyfforddus yn siarad â’u cyfoedion am wastraff, ac ar hyn o bryd maent yn y broses o adolygu ap a ddefnyddir gan fentoriaid preswyl, i gynnwys cwestiynau ar ansawdd a maint yr ailgylchu. Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro ymddygiad ailgylchu a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau y mae ein myfyrwyr yn eu profi o ran eu gwastraff.
Safbwynt y Brifysgol ar Blastig
Bu llawer iawn o newydd drwg yn y wasg ynglŷn â phlastigau’n ddiweddar, ac er bod y Brifysgol o blaid lleihau’r defnydd o blastigau lle bo hynny’n bosibl, yn enwedig plastigau untro trafferthus, mae llawer o ffactorau i’w hystyried.
Mae defnydd amrywiol i blastig, mae’n wydn, yn hyblyg ac yn rhad. Weithiau, plastig yw’r deunydd gorau neu hyd yn oed yr unig ddeunydd y gallwn ei ddefnyddio i wneud ambell gynnyrch , ac mae’n bosib ailddefnyddio ac ailgylchu rhai plastigau. Nid plastig yw’r broblem, y broblem yw fod plastig yn cael ei orgynhyrchu, ei orddefnyddio, ei gamddefnyddio, a’i daflu ffwrdd yn amhriodol. Yn wir, mae na ddadl gref mai gorddefnyddio deunyddiau yn gyffredinol yw’r broblem; yn enwedig eitemau untro.
Mae dwy ran i’r broblem y mae’r Brifysgol yn mynd i’r afael â hi:
- Plastigau trafferthus sy’n amhosib eu hailddefnyddio na’u hailgylchu
- Eitemau defnydd untro’n gyffredinol, waeth beth fo’r deunydd
Plastigau Trafferthus sef plastigau defnydd untro sy’n amhosib eu hailgylchu, sydd heb gynllun ar gyfer diwedd oes, ac sy’n debygol o ddiweddu fyny fel sbwriel yn hedfan o gwmpas y lle am eu bod yn ysgafn iawn. Ymhlith yr eitemau hynny mae deunyddiau cymysg sy’n anodd eu gwahanu am resymau technegol ac ariannol, gan gynnwys (ymhlith eraill) ‘cotton buds’, deunydd lapio, pecynnau creision, deunydd lapio siocled, sachets, ffyn troi diod, cyllyll a ffyrc dros dro, gwellt a balŵns.
Eitemau defnydd untro sef eitemau a gafodd eu creu i’w defnyddio unwaith yn unig ac am gyfnod byr. Mae’r eitemau yma fel arfer yn cael eu creu er mwyn hwylustod, ond nid bob tro. Mae amrywiol eitemau’n perthyn i’r categori hwn, gan gynnwys cwpanau coffi, poteli diod/cartonau/caniau, gwellt, tipiau pibedi, ffyn troi diodydd, cyllyll a ffyrc tafladwy, balŵns ac ati.
Nod y Brifysgol yw lleihau’r defnydd o’r ddau, ond ni fyddwn yn prynu eitemau tebyg wedi eu gwneud o ddefnydd gwahanol oni bai bod cynllun diwedd oes cynaliadwy ar gyfer y deunyddiau amgen. Er enghraifft, mae modd ailgylchu gwydrau yfed plastig ond nid yw’n bosib ailgylchu gwydrau yfed sy’n cael eu labelu’n rhai pydradwy/compostiadwy, ac felly wnawn ni ddim prynu’r rheini, er eu bod yn swnio’n well, oherwydd byddant yn gwneud mwy o ddrwg nag o les. Dydi hi ddim yn bosib i ni ailgylchu/compostio cwpanau/gwydrau/gwellt pydradwy yn y Brifysgol oherwydd ein bod yn anfon ein gwastraff bwyd i gyfleusterau Treulio Anaerobig, sydd ddim yn gallu delio gyda’r deunyddiau hynny. Mae’n bosibl y gellid datblygu deunyddiau pydradwy/compostadwy er mwyn eu trin mewn Treuliwr Anaerobig yn y dyfodol. Felly, awn ati i adolygu ein harferion yn unol ag unrhyw dechnoleg sy’n datblygu ac sy’n cael ei ddefnyddio’n lleol. Dydi hi ddim yn bosib ailgylchu gwellt papur chwaith, gan fod ansawdd y papur yn rhy isel a’u bod yn troi’n ddyfrllyd ar ôl ychydig o amser yn y diod. Mae’n amhosib ailgylchu cyllyll a ffyrc a ffyn troi diodydd pren chwaith. Y nod felly yw i ddefnyddio llai o’r eitemau hynny.
Felly mae’r rhan fwyaf o’n hymdrechion yn canolbwyntio ar leihau neu atal plastig trafferthus ac osgoi eitemau untro gymaint ag sy’n bosib, waeth beth fo’r deunydd. Os bydd eitemau untro ar gael, rydym am annog pobl i’w hailddefnyddio neu eu hailgylchu lle bo hynny’n bosibl. Credwn y dylid lleihau eitemau untro fel cyllyll a ffyrc plastig gymaint â phosibl, ond os ydym am eu defnyddio, bydd angen mynd ati i newid agwedd ac ymddygiad er mwyn sicrhau bod yr eitemau hyn yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro. Rydym am chwalu chwedl y cynhyrchion untro.
Cewch fwy o wybodaeth am ddeunyddiau penodol a pha mor addas ydynt i'w hailgylchu/compostio uchod ac ar y dudalen Ailgylchu yn y Brifysgol.