Rheoli Dŵr
Amcanion y Safonau Cadwraeth Dŵr (Y Safonau) yw hyrwyddo a gweithredu arferion rheoli dŵr
cynaliadwy sy'n lleihau defnydd dŵr ac yn annog defnydd cyfrifol ar ddŵr ar gampws y Brifysgol.
Bydd y Safonau hefyd yn helpu'r Brifysgol gefnogi ei strategaethau di-garbon net hithau a rhai
Llywodraeth Cymru a mentrau dŵr cynaliadwy lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Ailddefnyddio Dŵr
Cynlluniwyd adeilad Canolfan Amgylchedd Cymru gyda system cynaeafu dŵr glaw. Mae’r dŵr a gesglir gan yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr i’r holl doiledau yn yr adeilad.
Mae Gardd Fotaneg Treborth a Chanolfan Ymchwil Henfaes/Gardd Goedwig Bangor ill dau yn defnyddio casgenni dŵr i gasglu dŵr glaw at ddibenion dyfrio planhigion. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gapasiti casgen ddŵr o dros 6,000 litr sy’n cael ei ddefnyddio i wrthbwyso’r defnydd o ddŵr glân i ddyfrio planhigion.
Mae'r Brifysgol yn gobeithio ehangu'r defnydd o systemau cynaeafu dŵr glaw mewn prosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu yn y dyfodol.
Defnydd Dwr
Yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24, defnyddiodd Prifysgol Bangor fwy na 110,004 metr ciwbig o ddŵr. Mae'r Brifysgol yn gosod targedau iddi'i hun i leihau'r defnydd o ddŵr fel rhan o'i System Rheoli Amgylcheddol. Rhwng 2005 a 2024, gostyngwyd cyfanswm y defnydd o ddŵr 45.5% fesul arwynebedd llawr m2.
* Gan gynnwys data CALl wedi'i gywiro ar gyfer 2018/19 a 2019/20
Defnydd Cyfrifol
Mae dŵr ffres yn adnodd prin yn fyd-eang - mae llai nag 1% o'r holl ddŵr ar y Ddaear yn ddŵr croyw ar gael. Yn ogystal, mae trin a phwmpio dŵr a dŵr gwastraff yn broses ynni-ddwys. Trwy leihau faint o ddŵr a ddefnyddiwn gallwn arbed ynni a lleihau allyriadau carbon yn ogystal â chadw cyflenwadau dŵr.
Mae'n bwysig bod pawb yn cyfrannu at helpu i leihau'r defnydd o ddŵr a gwarchod yr adnodd gwerthfawr hwn.
- Peidiwch â gadael tapiau'n rhedeg yn ddiangen ac adroddwch ddiferion neu ollyngiadau i campusservices@bangor.ac.uk
- Dim ond berwi cymaint o ddŵr ag sydd ei angen arnoch chi wrth wneud eich te neu goffi, bydd hyn yn helpu i arbed ynni hefyd
- Cymerwch gawodydd 3 i 5 munud a diffoddwch y tap wrth frwsio'ch dannedd
Dŵr Yfed
Bydd allfeydd arlwyo Prifysgol Bangor yn ail-lenwi'ch potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio am ddim, ac mae nifer o ddosbarthwyr dŵr wedi'u lleoli o amgylch y campws.
Trin Dŵr Gwastraff
Mae’r holl ddŵr gwastraff ar gyfer safleoedd sy’n gysylltiedig â’r prif gyflenwad yn mynd i system garthffosiaeth Cymru a reolir gan Dŵr Cymru. Mae safleoedd digyswllt yn bwydo i danciau carthion a reolir neu ffosydd cerrig trwyddedig a reolir.