Cynaliadwyedd mewn Adeiladwaith
Rydym mewn cyfnod cyffrous o ailddatblygu a chyfnerthu Ystâd y Brifysgol. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd digynsail i ni osod cynaliadwyedd wrth galon ein dyhead cynllunio.Mae'r adeilad nodwedd, Canolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n fenter ar y cyd rhyngom ni a Chanolfan Ecoleg Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, wedi ei gynllunio o'r dechreuad i gyflawni graddfa "Rhagoriaeth" gan y 'Building Research Establishment'. Mae deunydd effeithiolrwydd ynni, golau naturiol a thechnoleg ynni adnewyddol yn nodweddion o'r adeilad. Yn y dyfodol, bydd adeiladau newydd y Brifysgol yn cael eu cynllunio i'r un safonau gorthrymus â Chanolfan Amgylchedd Cymru.
Hyd yn oed wrth ailwampio ein hadeiladau, byddwn yn ceisio adnabod a gweithredu nodweddion amgylcheddol cost effeithiol, er enghraifft ailgylchu dŵr llwyd a chyfleusterau ynni adnewyddol.
Ar gyfer yr amgylchedd adeiledig ac yn unol â Strategaeth Ystadau’r Brifysgol, rydym yn pwysleisio ein hymrwymiad i sero net a darparu ffyrdd ymarferol o gyflawni hyn trwy weithredu'r dull tri cham Lleihau-Cynhyrchu-Labordy Byw a thrwy fabwysiadu Dulliau Ffabrig yn Gyntaf, Bio Cyntaf a Sero-Carbon i bob adeilad newydd ac adnewyddiad mawr o 2022 ymlaen. Bydd y Brifysgol o leiaf yn dylunio pob adeilad newydd i Safonau Rhagorol BREEAM.
Gwastraff ym maes adeiladu
Cyfrifoldeb y contractwr yw unrhyw wastraff a gynhyrchir ganddo, ac mae hyn wedi'i ysgrifennu yn y dogfennau caffael. Mae pob contractwr sy'n gweithio i Brifysgol Bangor yn cytuno i gael gwared ar unrhyw wastraff maent yn eu cynhyrchu yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.