Edrych ar ôl eich Pwysedd Gwaed
Pwysedd gwaed yw’r pwysedd gwaed yn eich rhydwelïau. Po uchaf yw'r pwysedd gwaed mwyaf y risg o ddatblygu rhydwelïau cul ac o gael trawiad ar y galon neu strôc.
Pan fyddwch yn cael eich archwiliad pwysedd gwaed caiff ei gofnodi fel dau rif. Mae’r rhif uchaf, sydd yn cael ei alw’n systolic pressure, yn dangos y pwysedd yn eich rhydweli pan fydd eich calon yn gorfodi gwaed trwyddo. Mae’r rhif gwaelod, y diastolic pressure, yn dangos y pwysedd gwaed yn eich rhydweli pan fydd y galon yn ymlacio.
Y pwysedd gwaed delfrydol yw 120/70 ond mae gan bawb bwysedd gwaed gwahanol a gall newid yn yr un person yn ystod y dydd a’r nos. Os ydyw’ch pwysedd gwaed yn gyson yn fwy na 140/90 mae gennych bwysedd gwaed uchel.
P’un a oes gennych bwysedd gwaed uchel neu bwysedd gwaed normal mae’n bwysig sylweddoli po uchaf ydyw, mwyaf o risg sydd i chi gael clefyd y galon neu strôc. Golyga hyn y dylai pob un ohonom fabwysiadu ffordd o fyw sydd yn ein helpu i ostwng ein pwysedd gwaed pa un a oes gennym bwysedd gwaed uchel ai peidio.
Ystyr ffordd o fyw iach i ni i gyd yw:
- Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- Bwyta diet sy’n isel mewn braster a halen ac yn uchel mewn ffrwythau a llysiau
- Bod y pwysau iawn i’n taldra
- Yfed yn gall
- Peidio â smygu
Os oes gennych ffordd o fyw iach mae’ch risg o gael trawiad ar y galon neu strôc yn isel iawn.
Am fanylion pellach ewch i wefan Pwysedd Gwaed DU www.bloodpressureuk.org/BloodPressureandyou