Cymorth i helpu rhoi gorau i smygu
Polisi Dim Ysmygu (mân ddiwygiadau ynglŷn â chwmnïau theatraidd Ionawr 2024)
Mae'r Ddogfen Bolisi hon yn manylu ar Bolisi Dim Ysmygu'r Brifysgol a defnyddio Sigaréts Electronig.
Mannau Dim Ysmygu: Mae campws Fron Heulog yn hollol di-smygu ac mae'r Prif Gelfyddydau yn di-smygu heblaw am y 2 ardal ddynodedig, y gellir eu gweld yma.
Gallwch lawrlwytho'r arwydd ysmygu yma os hoffech ei roi yn eich adeilad.
Mae rhoi’r gorau i ysmygu’n anodd, ac mae pawb yn cael trafferth o bryd i’w gilydd. Nid yw’n ddiwedd y byd os dechreuwch ysmygu eto – mae’n rhan naturiol o’r broses o roi’r gorau i ysmygu am byth. Mae un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru yn gyn-ysmygwr, felly mae gobaith i bawb!
Y newyddion da yw bod dros 1000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn rhoi’r gorau i ysmygu – heb ailddechrau – bob dydd!
Ac mae’n werth ei wneud. Cyn gynted ag y byddwch yn rhoi’r gorau i ysmygu, mae’r risg o afiechydon difrifol megis canser yr ysgyfaint, clefyd y galon a strôc yn dechrau lleihau. Byddwch hefyd yn arbed arian trwy roi’r gorau i ysmygu.
Helpa Fi i Stopio
Cewch afael ar wybodaeth ynglŷn â rhoi’r gorau i smygu a sut i gael cefnogaeth rad ac am ddim os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, am roi’r gorau i smygu.
Amcangyfrifir bod dros ddwy ran o dair o smygwyr am roi’r gorau iddi, felly nid ydych ar eich pen eich hun.
Ffoniwch radffôn 0808 252 8216 ~ www.helpafiistopio.cymru
Quit
Mae QUIT yn elusen annibynnol sy'n anelu arbed bywydau trwy helpu ysmygwyr rhoi gorau. Dylai ysmygwyr sydd eisio rhoi gorau galw 0800 00 22 00 am gyngor di-dâl, unigol, ar yr un un diwrnod gan gynghorwr hyfforddedig. www.quit.org.uk
- Manteision Iechyd - Ar ôl blwyddyn mae eich risg o drawiad ar y galon yn gostwng i tua hanner o gymharu â smygwr ac ar ôl 15 mlynedd, mae'r un peth â rhywun sydd erioed wedi smygu!!
- Manteision Ariannol - Bydd y Cyfrifiannell Smygu yn eich helpu i weithio allan faint o arian rydych yn ei wario ar smygu a faint y gallech fod yn ei arbed
- Cyn Llawdriniaeth - Mae smygwyr yn fwy tebygol o aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach na phobl nad ydynt yn smygu oherwydd y risgiau hyn. Gall rhoi'r gorau i smygu o leiaf 8 wythnos cyn llawdriniaeth leihau'r tebygolrwydd o brofi'r cymhlethdodau hyn
- Beichiogrwydd - Llai o risg o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod esgor a tebygolrwydd uwch o eni babi iach