Edrych ar ôl eich meddwl
Yn aml, bydd pobl yn anghofio am edrych ar ôl eu meddwl, ond mae'r gost o wneud hynny yn arwain at anghydbwysedd rhwng gwahanol agweddau ar fywyd, gofid i chi eich hun a pherthynas wael â’r rhai o'ch cwmpas.
Nid yw iechyd meddwl da yn rhywbeth sydd gennych, ond yn rhywbeth i chi ei wneud. I fod yn iach yn feddyliol, rhaid i chi werthfawrogi a derbyn eich hun.
Mae pobl yn hyrwyddo iechyd meddwl da yn trwy agwedd a ffordd o fyw sydd nid yn unig yn goresgyn problemau penodol, ond sydd hefyd yn cynnal hapusrwydd parhaus a heddwch mewnol parhaol.
Mae'n syniad da gwybod am rai dulliau sy’n ein helpi i ddelio ag unrhyw gyflyrau ar y meddwl annymunol a fo’n codi. Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol!
Pan fo pethau’n eich tynnu i lawr
Siarad allan – rhannwch eich pryderon â rhywun arall
Ysgrifennu – mae'n haws i roi pryderon mewn persbectif wrth eu nodi ar bapur
Codi eich ysgwyddau - codwch eich ysgwyddau a'u gollwng, llaciwch eich corff
Anadlu – anadlwch i mewn ac allan yn ddwfn ac yn araf ... tawelwch eich syniadau
Gohirio - neilltuwch 15 munud i feddwl am y broblem ar y pryd
Gweithio i wthio’r mater i’r cefndir – gwnewch rywbeth corfforol, dargyfeiriwch eich egni a chliriwch eich pen
Gwrth-droi’r mater – ystyriwch ddefnyddio dull croes, archwiliwch ddewisiadau eraill
Teimlwch yn well amdanoch eich hun
Chwerthin – defnyddiwch hiwmor i ysgafnhau’r mater
Pellhau’r mater – dychmygwch eich hun ymhen ychydig o flynyddoedd, a fydd yn bwysig y pryd hynny?
Ei gloriannu - ystyriwch y canlyniadau da a theimlwch yn falch amdanynt
Ei ddileu - meddyliwch yn gadarnhaol, peidiwch â gadael i'r negyddol eich tynnu i lawr
Ei orliwio – dychmygwch y gwaethaf a allai ddigwydd, a yw'n debygol?
Trechwch ef – dychmygwch eich bod yn llwyddo
Dihangwch – sylwch ar rywbeth pleserus o'ch cwmpas a mwynhewch hwnnw yn ei le
Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn parhau i gynnal sesiynau myfyrio wythnosol ar ymwybyddiaeth ofalgar yn ystod yr awr ginio i staff Prifysgol Bangor.
Cynhelir y sesiynau o 1:10yp–1:40yp bob dydd Mercher yn ystafell 230 yn Adeilad Brigantia ac fe’u harweinir gan athro ymwybyddiaeth ofalgar o’r brifysgol. Maent yn briodol ar gyfer myfyrdodwyr dechreuol a phrofiadol. Mae croeso i bawb ohonoch a gellwch ddod yn rheolaidd neu’n achlysurol fel y dymunwch.
Yn gyffredinol, ceir ymarfer 20 munud dan arweiniad gyda cyfle byr i drafod a holi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rebecca Crane.
Os nad ydych yn gallu gwneud y sesiynau mae gan y Ganolfan rhai traciau sain rad ac am ddim i chi eu lawr lwytho ac ymarfer.
Mae 'Be Mindful Online' yn gwrs hunan-dalu sy'n addysgu pob elfen o Therapi Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar Wybyddol (MBCT) a Lleihau Straen Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR). Mae'r cwrs yn cael ei rhedeg gan Wellmind Media mewn partneriaeth gyda'r Sefydliad Iechyd Meddwl, elusen y DU ar gyfer iechyd meddwl pawb. Mae'r cwrs ar-lein strwythuredig yn dysgu chi i ymarfer a mwynhau ymwybyddiaeth ofalgar mewn bywyd bob dydd, gallwch ei ddilyn ar eich cyflymder eich hun ac mewn cyn lleied â 4 wythnos fyddwch wedi datblygu sgiliau y bydd yn para oes!
Bwriad Parabl ydi rhoi cefnogaeth therapiwtig tymor byr mewn awyrgylch ddi-stigma i bobl sy’n ei chael yn anodd ymdopi â sefyllfa boenus neu broblem iechyd meddwl cyffredin.
Fe alllwch chi gyfeirio eich hun, yn gyfrinachol, ar gyfer asesiad drwy ffonio 0300 777 2257 neu drwy ymweld â’r wefan a chwblhau’r ffurflen gyfeirio ar-lein. Fe allwch chi ofyn hefyd i’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd eich cyfeirio chi.
C.A.L.L. Helpline
Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol
Yn cynnig gefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Mae gan unrhyw un sy'n bryderus am iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, mynediad i'r gwasanaeth. Mae C.A.L.L, yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol. FFON DI-DAL: 0800 132 737 neu callhelpline.org.uk