Edrychwch ar ôl eich Colesterol
Yn aml, tybir bod colesterol uchel yn achosi clefyd y galon. Mewn gwirionedd, mae nifer o ffactorau, megis ysmygu sigarennau, pwysedd gwaed uchel, gordrymder, diffyg ymarfer corff, oedran a hanes teuluol yn fwy perthnasol o ran risg. Nid yw lefel uchel o golesterol yn achosi symptomau, ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn canfod eu bod â cholesterol uchel ond yn ystod archwiliadau iechyd, neu pan fydd problemau iechyd eisoes wedi dod i’r amlwg.
Sylwedd brasterog naturiol, a adwaenir fel lipid, yw colesterol, a gynhyrchir yn bennaf gan yr iau, ac sy’n angenrheidiol at nifer fawr o ddibenion, yn cynnwys creu celloedd, symbylu cynhyrchu hormonau, ac amsugno rhai fitaminau o fwyd. Cludir ef o gwmpas y corff yn y gwaed trwy gael ei gysylltu â phrotein. Adwaenir y cyfuniad braster-protein hwn fel lipoprotein. Gall lipoproteinau fod:
- Dwysedd uchel (LDU)
- Dwysedd isel (LDI)
- Dwysedd isel iawn (LDIA)
Mae’r gwahaniaeth rhwng pob math o lipoprotein i gyd yn dibynnu ar faint o brotein a geir mewn perthynas â braster.
- Cludir rhyw 70% o golesterol o gwmpas y corff fel LDI, ac mae’n cynnwys braster yn bennaf, heb lawer o brotein. Mae LDI yn peri i golesterol gael ei ddyddodi yn y rhydwelïau, gan gulhau llif y gwaed, a chyfeirir ato weithiau fel ‘colesterol drwg’.
- Cludir rhyw 20% o golesterol fel LDU, sy’n cynnwys protein yn bennaf ac mewn gwirionedd yn helpu i atal colesterol rhag cronni yn y rhydwelïau. Weithiau, cyfeirir at LDU fel ‘colesterol da’.
- Mae rhyw 10% yn driglyseridau. Math gwahanol o fraster yw’r rhain, sy’n dod yn bennaf o’r bwyd a fwytawn pan droir calorïau na ddefnyddir mohonynt ar unwaith yn driglyseridau a’u cludo i gelloedd braster i’w storio. Cludir triglyseridau yn y gwaed ar fel lipoproteinau dwysedd isel iawn (LDIA).
Y prif risg sy’n gysylltiedig â chrynodiad uchel o golesterol lefel isel yw y gall gwythiennau gulhau trwy dyddodion brasterog a elwir yn blaciau. Gall hyn arwain at angina (poen yn y frest) os ceir lleihad yn y cyflenwad gwaed i gyhyr y galon, at drawiad ar y galon os caiff yr wythïen at y galon ei chau’n llwyr a/neu at broblemau iechyd eraill, yn ôl pa wythiennau a gulheir neu a gaeir. Mae’r rhain yn cynnwys ‘strôc’ os ceir lleihad yn y cyflenwad gwaed i’r ymennydd, neu boen neu wlserau ar y coesau os bydd lleihad yn y cyflenwad gwaed i’r aelodau isaf.
Mesurir colesterol mewn unedau a elwir yn filimolau i bob litr o waed, a dalfyrrir fel rheol i mmol/l. Mae’n ddymunol bod â lefel o golesterol sy’n is na 5mmol/l a LDI sy’n is na 3 mmol/l. Mae Cymdeithas Artherosglerosis Ewrop wedi llunio’r arweiniad isod at lefelau colesterol:
LEFEL COLESTEROL |
YSTYR |
Llai na 5 mmol/l |
Lefel dderbyniol |
Rhwng 5 mmol/l a 6.5 mmol/l |
Ychydig o gynnydd |
Rhwng 6.5 mmol mmol/l a 7.8 mmol/l |
Cynnydd cymedrol |
Yn fwy na 7.8 mmol/l |
Cynnydd arwyddocaol |
Pan fo colesterol yn uwch na 5mmol/l, dylech leihau cyfanswm y braster a fwytewch a chynyddu cynnwys ffibr eich diet. Gellwch wneud hyn trwy dorri ar y brasterau dirlawn a fwytewch o gynhyrchiol llaeth a thrwy gynyddu eich dogn o rawnfwyd, llysiau a ffrwythau.
Os bydd eich colesterol yn uwch na 6.5 mmol, dylech roi gwybod i’ch meddyg, a fydd yn ystyried rhoi prawf ar ôl ichi ymprydio, er mwyn edrych ar y gymhareb rhwng cyfanswm y colesterol a’r LDU (‘colesterol da’), a elwir yn gymhareb TC:LDU.
Amcan cyffredinol lleihau colesterol yw lleihau’r risg o gael clefyd y galon. Mae’r math o driniaeth yn dibynnu ar y risg cyffredinol. Ceir dau brif ddull. Ffordd iach o fyw yw’r cyntaf – ymarfer ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau, bwyta diet braster isel, peidio â smygu, ac yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir. Cyfuno newidiadau mewn ffordd o fyw â moddion lleihau colesterol, a adwaenir fel statinau, yw’r ail.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Prydeinig y Galon www.bhf.org.uk