Cwrs am ddim i bobl sy’n byw gydag unrhyw gyflwr iechyd tymor-hir
Mae EPP Cymru yn darparu nifer o gyrsiau hunan-reoli a gweithdai ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflwr iechyd tymor-hir neu rôl ofalu. Mae'r cyrsiau hyn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau ymdopi newydd, a allai helpu i wella ansawdd bywyd bob dydd.
Rhaglen Hunan-Rheoli Clefydau Cronig
Mae grwpiau o 8-16 o bobl, sydd ag amrywiaeth o gyflyrau gwahanol, yn cyfarfod mewn chwe sesiwn wythnosol sy’n para 2½ awr yr un. Maent yn gweithio’u ffordd drwy gwrs strwythuredig dan arweinaid tiwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi. Mae pob sesiwn yn edrych ar ffyrdd o helpu i reoli effeithiau eu cyflwr tymor-hir fel:
• Rheoli symptomau fel poen a blinder
• Delio â dicter, ofn a rhwystredigaeth
• Ymdopi â straen, iselder ysbryd a hunanddelwedd wael
• Bwyta’n iach
• Dysgu technegau ymlacio a gwneud ymarfer corff rheolaidd
• Cyfathrebu gwell gyda’r teulu, ffrindiau a gweithwyr iechyd proffesiynol
• Cynllunio at y dyfodol
Caiff y cyrsiau eu harwain gan ddau diwtor, sydd eu hunain wedi gwneud newidiadau i’w bywydau o ganlyniad i gyflwr iechyd tymor-hir. Gwirfoddolwyr yw’r mwyafrif o diwtoriaid y rhaglen. Mae’r rhaglen yn cael eu cynnal mewn lleoliadau addas mewn cymunedau lleol ac ni chodir tâl amdanynt.
Nid yw’r rhaglen yn rhoi gwybodaeth am unrhyw gyflwr iechyd neu driniaeth, ac nid yw’n edrych ar anghenion iechyd penodol chwaith. Nod y Rhaglen yw rhoi hyder i’r cyfranogwyr ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu gofal eu hunain, tra’n eu hannog i weithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Yr hyn sy’n arbennig am y Rhaglen yw ei bod yn gyfle i rannu sgiliau a phrofiad gyda phobl sy’n gorfod ymdopi â’r un pethau.
Yn ôl pobl sydd wedi bod ar y Rhaglen Hunan-Rheoli Clefydau Cronig, maent wedi sylwi ar gynnydd o ran:
• Rheoli eu cyflwr
• Teimlad o les
• Gallu i ymdopi
• Ymarfer corff ac ymlacio
• Ansawdd ymgynghoriadau gyda Meddygon
Maent hefyd wedi gweld lleihad o ran:
• Poen a blinder
• Pryder, iselder ysbryd a bod allan o wynt
• Ymweliadau â meddyg teulu
• Ymweliadau cleifion allanol
• Ymweliadau â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys
• Cyfnodau yn yr ysbyty
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau yn eich ardal chi, cliciwch yma