Swyddi Gwag

Gwybodaeth am y Brifysgol

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884 fel 'Coleg Prifysgol Gogledd Cymru' ac mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth. Mae’n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran safonau academaidd ac o ran profiad myfyrwyr. Ar hyn o bryd, mae gan y Brifysgol dros 11,000 o fyfyrwyr a thros 650 o staff dysgu mewn 13 o Ysgolion Academaidd, wedi’u rhannu rhwng 3 Coleg.

Mae Prifysgol Bangor yn y 40 uchaf yn y DU am ymchwil yn ôl yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Cydnabu'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu'n “rhagorol yn rhyngwladol”, ac ar y blaen i'r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion y DU. Mae dros hanner ysgolion academaidd Bangor yn yr 20 uchaf yn y DU am ansawdd yr ymchwil. Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith gadarnhaol ar draws y byd mewn meysydd amrywiol fel gwella gofal iechyd a lles, sicrhau diogelwch bwyd yn rhyngwladol ac yn nes gartref, a diogelu'r amgylchedd.

Mae cynnydd sylweddol diweddar mewn boddhad myfyrwyr a safonau addysgu wedi'n rhoi yn y deg uchaf yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2018, gan gadarnhau ein safle fel yr uchaf yng Nghymru. Mae cyflawni hynny wedi digwydd yn sgil pwyslais strategol ar wella addysgu a'r profiad myfyrwyr ym Mangor, yn cynnwys mentrau i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr ac ennyn cyfraniad mwy uniongyrchol byth ganddynt yn y Brifysgol; ynghyd â gwelliannau parhaus i werthuso addysgu.

Mae'r Brifysgol yn parhau i fod wedi ymrwymo i ffurfio cysylltiadau strategol manteisiol yn y rhanbarth.  Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu ein perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Llandrillo Menai yn ogystal â'r ymrwymiad parhaus i'r gynghrair strategol sefydledig gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mae gan y Brifysgol 1700 o fyfyrwyr o du allan i'r UE ac rydym yn parhau i ddatblygu partneriaethau strategol dramor. Bydd y partneriaethau hyn yn sicrhau llif myfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Bangor, a'r incwm ffioedd a ddaw o hynny, wrth i farchnadoedd traddodiadol barhau i fod yn heriol.

Mae'n Brifysgol ryngwladol i'r rhanbarth ac yn Brifysgol sy'n parhau i fod â'i gwreiddiau yn y gymuned leol. Mae cynyddu cyfleoedd i ehangu mynediad at Addysg Uwch yn parhau'n flaenoriaeth i'r Brifysgol, fel y mae parhau'n ymrwymedig i ddatblygu a chryfhau ymchwil ac addysgu cyfrwng Cymraeg ac ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y Brifysgol a'r rhanbarth.

Mae Prifysgol Bangor yn unigryw. Hi yw'r mwyaf rhyngwladol o brifysgolion Cymru, fel y tystia'r tablau cynghrair, ond mae hefyd y mwyaf Cymreig o brifysgolion Cymru, fel y tystia ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Yn y cyd-destun hwn, mae cynllun strategol  y Brifysgol am y cyfnod 2015-2020 yn gosod cyfeiriad strategol i Brifysgol Bangor fel prifysgol hyderus a llwyddiannus, sy'n gallu meddwl mewn ffordd wahanol i adnabod sialensiau, risgiau a chyfleoedd. Mae cyswllt i'r cynllun isod.

I gael rhagor o wybodaeth am y brifysgol ewch i: https://www.bangor.ac.uk/about/

Y Cyngor

Y Cyngor yw corff llywodraethu’r Brifysgol. Mae’n gyfrifol am gyllid, eiddo, buddsoddiadau a busnes cyffredinol y Brifysgol ac am bennu cyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad. Ceir rhagor o wybodaeth am waith y Cyngor yn y Canllaw i aelodau'r Cyngor isod.

Fel yn achos pob Prifysgol siartredig, mae mwyafrif aelodau’r Cyngor yn aelodau annibynnol nad ydynt yn staff nac yn fyfyrwyr y Brifysgol. Mae'r aelodau'n cynnwys yr Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Gangellorion ac aelodau eraill a benodir gan staff y Brifysgol, cynrychiolwyr y myfyrwyr ac aelodau annibynnol. Cadeirydd y Cyngor yw Mrs Marian Wyn Jones.

Mae cyrff llywodraethol prifysgol yn cael eu rhoi yng ngofal arian cyhoeddus ac arian preifat, felly mae ganddynt ddyletswydd arbennig i gyflawni’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ac arddangos diffuantrwydd a gwrthrychedd wrth drafod eu busnes, a ble bynnag fo hynny'n bosib dilyn polisi o wneud eu penderfyniadau mewn dull agored a thryloyw. Dylai fod gan ymgeiswyr y gallu i weithredu'n annibynnol ac yn wrthrychol ynghyd â'r parodrwydd i gyfrannu'n llawn at drafodaeth ar bob agwedd ar waith y Brifysgol.

Mae Cyngor y Brifysgol yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn.  Mae gan y Cyngor nifer o is-bwyllgorau; Archwilio a Risg; Enwebiadau a Llywodraethu; Cyllid ac Adnoddau, Moeseg, Iechyd a Diogelwch, Dwyieithrwydd; Cyflog; Diswyddiadau a Graddau Anrhydedd a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i wasanaethu ar un o'r pwyllgorau hyn. Mae'n bosib y gwneir cais am gefnogaeth aelodau'r Cyngor mewn digwyddiadau Prifysgol, megis seremonïau graddio a digwyddiadau cyhoeddus eraill o bryd i'w gilydd.

Sgiliau, Gwybodaeth a Phrofiad

Mae'r Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu yn ystyried yr ystod o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy'n ofynnol i sicrhau cydbwysedd ar draws y Cyngor. Yn dilyn archwiliad sgiliau diweddar, mae'r Cyngor yn chwilio'n benodol am aelodau gyda sgiliau ym meysydd eiddo, marchnata, cyllid a'r gyfraith yn ogystal ag unigolion â phrofiad rhyngwladol neu brofiad diweddar o Addysg Uwch. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan bobl gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gwahanol.

Mae'r Brifysgol a'r Cyngor yn annog, cefnogi ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.  Mae'r Brifysgol yn arbennig o awyddus i sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu'r corff myfyrwyr ac yn awyddus i weld ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd megis unigolion gydag anabledd, merched, lleiafrifoedd ethnig a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Croesewir ceisiadau gan bobl o bob oed er mwyn addasu proffil oed cyfredol y Cyngor.

Mae brwdfrydedd a diddordeb mewn addysg uwch yn ofynion allweddol ac yn ddelfrydol dylai fod gan ymgeiswyr brofiad eang neu dylent fod wedi dal swyddi uwch yn eu gweithle. Gellir gweld dogfen yn esbonio swyddogaeth a chyfrifoldebau aelod o'r Cyngor drwy'r cyswllt isod.

Mae swyddogaeth aelodau annibynnol yn debyg i gyfrifoldebau cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau, ac mae'n gofyn am ymrwymiad o oddeutu 10-12 diwrnod y flwyddyn. Ni roddir tâl am wneud y gwaith ond bydd y Brifysgol yn talu costau teithio rhesymol.

Os ydych yn dymuno gwneud cais, cyflwynwch eich CV gyda'r ffurflen gais fer yn cynnwys datganiad personol yn crynhoi'r rhesymau dros eich diddordeb a'r hyn y byddech yn ei gynnig i'r swydd. 

Cyflwynwch eich cais erbyn 31 Mawrth 2020 os gwelwch yn dda.

Cewch fwy o wybodaeth drwy'r cysylltau isod, ond os hoffech drafod y swyddogaeth ymhellach, cysylltwch â:

Dr Kevin Mundy, Ysgrifennydd y Brifysgol - 01248 382776, k.mundy@bangor.ac.uk.

Dogfennau Allweddol

Mae rhestr o'r brif ddogfennaeth i'w chael trwy'r cysylltau isod:

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?