Rydym eisiau sicrhau eich bod yn teimlo'n rhan o'r gymuned ehangach o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor tra byddwch yn astudio ar ein campws yn Wrecsam. Mae astudio yma fel bod yn rhan o deulu, ac mae llawer o'r myfyrwyr yn byw yn ardal Wrecsam.
Croeso gan Undeb Bangor
Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.
Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.
Ym Mangor mae gennym wefan fewnrwyd, FyMangor, a hefyd cylchlythyr wythnosol, y Bwletin Myfyrwyr, a ddefnyddiwn i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chi.
Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgynefino â bywyd prifysgol yw Arweinwyr Cyfoed. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r Brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr.
Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan tua 70% o’n staff sgiliau yn y Gymraeg felly mae modd i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gyda myfyrwyr yn dod o bob rhan o'r byd ac o gefndiroedd gwahanol iawn, bwriad Prifysgol Bangor yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio ynddo sy'n sicrhau y gellwch fod yn chi eich hun, cymryd mantais o bob cyfle a chyrraedd eich llawn botensial.
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Siarter Myfyrwyr.