Fy ngwlad:
Arweinwyr Cyfoed yn helpu yn ystod y Diwrnod Agored

Arweinwyr Cyfoed

Arweinwyr Cyfoed - yma i'ch helpu!

Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr.  Byddant hefyd yn gwneud eu gorau i ateb eich holl gwestiynau o “Ble mae'r ystafelloedd darlithio?” i “Ble alla i olchi dillad?”. Ond os na allant helpu, bydd eu hyfforddiant yn golygu eu bod yn adnabod rhywun a all eich helpu a byddant yn eich cyfeirio at yr aelod staff perthnasol all eich helpu.

Mae’r Arweinwyr Cyfoed yn gweithio trwy eu hysgolion academaidd - efallai y byddwch hyd yn oed yn adnabod rhai ohonynt o ddiwrnod agored yn y brifysgol.  Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod croeso fe welwch gryn dipyn ohonynt. Bydd gennych Arweinydd Cyfoed penodedig a fydd yn eich cyfarfod ac yn cadw llygad cyfeillgar arnoch ond fe ddewch chi ar draws llawer o arweinwyr cyfoed yn gweithredu'n fwy cyffredinol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd.  Byddan nhw'n gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd lle rydych chi i fod, byddan nhw wrth law mewn gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau sefydlu ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. A dydi hynny ddim yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau cymdeithasol! 

Bydd llawer ohonoch yn 'cwrdd' â’ch Arweinydd Cyfoed cyn i chi gyrraedd Bangor mewn gwirionedd.  Bydd rhai ysgolion yn cynnal tudalennau Facebook gyda'r Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu atynt, tra bydd eraill yn gofyn i'r arweinwyr cyfoed anfon e-bost neu neges destun atoch.  Peidiwch â bod yn swil - os cewch wahoddiad i ymuno ar gyfryngau cymdeithasol neu gysylltu'n uniongyrchol â'ch Arweinydd Cyfoed - gwnewch hynny.  Byddant yn dechrau rhoi gwybodaeth i chi'n syth ac ateb eich cwestiynau. 

Os ydych yn symud i neuaddau preswyl fe welwch lawer o'r Arweinwyr Cyfoed hwnt ac yma yn eu crysau-t llachar yn cyfarch pawb. Bydd eich Arweinydd Cyfoed yn chwilio amdanoch chi i ddweud helo ac yn rhoi gwybod ichi am weithgareddau cymdeithasol a gynlluniwyd a chyfarfodydd cychwynnol yn eich ysgol academaidd.

Os nad ydych wedi cwrdd â'ch arweinydd cyfoed am ryw reswm ac yr hoffech wneud hynny, rhowch wybod i ni drwy e-bostio arweinwyrcyfoed@bangor.ac.uk

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd yn gweld bod arweinwyr cyfoed yn ddefnyddiol iawn. Serch hynny, os ydych chi wir yn teimlo nad ydych chi ddim eisiau un, rhowch wybod i ni. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio arweinwyrcyfoed@bangor.ac.uk.

Arweinwyr Cyfoed yn cerdded drwy bentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Hoffech chi fod yn Arweinydd Cyfoed?

A roddodd eich Arweinydd Cyfoed groeso cynnes iawn i chi i Brifysgol Bangor, ac a wnaeth hyn eich ysbrydoli i roi’r un profiad i fyfyrwyr newydd y dyfodol? 

Mae bod yn Arweinydd Cyfoed yn brofiad difyr a gwerth chweil, a byddem yn eich croesawu yn rhan o'r tîm.