Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd o ran cynaliadwyedd.
Mae cynaliadwyedd yn greiddiol i’r sefydliad, boed hynny’n diogelu’r amgylchedd, adfywio iechyd cymdeithas neu hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol, dwyieithog a diwylliannol.
Dim ond peth o'n heffaith hyd yma...
Amcangyfrifir bod 30-40% o ffrwythau a llysiau Uganda yn cael eu gwastraffu cyn cyrraedd y farchnad. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Makerere yn Uganda i ddatblygu dulliau amgen o becynnu bwyd yn gynaliadwy.
Project bwyd o dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Bangor yw’r Ddraig Lwglyd, ac mae’n arbed bwyd sydd dros ben ym Mangor. Yn ddiweddar, mewn partneriaeth â Chaffi Pris Teg Bangor, maent yn troi ffrwythau a llysiau dros ben o archfarchnadoedd lleol yn gyffeithiau ac yn brydau bwyd.
Mae grŵp rhyngwlad o ymchwilwyr o dan arweiniad Bangor wedi datblygu Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) - yr adnodd cyntaf sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar y we, sy'n cynnig cyfres o brofion asesu mewn pum iaith. Cyn y project hwnnw, nid oedd gan y prif fuddiolwyr mewn 22 o wledydd werthusiadau gwrthrychol o ansawdd uchel ar sail tystiolaeth er mwyn canfod diffygion llythrennedd yn gynnar mewn plant.
Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd at broject Ewropeaidd newydd i wella galluoedd gofodol plant, gyda'r nod o helpu cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a mathemateg (STEM).
Mae modiwl Hil a Rhyw yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yn canolbwyntio ar y rôl y mae rhyw, rhywedd, ethnigrwydd a hil yn ei chwarae o ran creu, derbyn a ffurfiant damcaniaethol gwahanol fathau o ffilm a diwylliant gweledol.
Mae'r Brifysgol yn gosod targedau iddi'i hun i ddefnyddio llai o ddŵr fel rhan o’i System Rheoli Amgylcheddol. Rhwng 2005 a 2020, gostyngwyd defnydd dŵr gan 42.9% fesul m2 o arwynebedd llawr.
Anghenraid yw cynhyrchion mislif nid moethusrwydd. Mae’r cynllun Tlodi Mislif dan arweiniad myfyrwyr yn cynnig cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr.
Fel Prifysgol, rydym yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang. Yn 2019, gwnaethom ddatgan Argyfwng yr Hinsawdd a chyhoeddi bod 100% o'n trydan bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Mae gennym arbenigedd mewn ynni adnewyddadwy morol (gan gynnwys lliniaru'r effeithiau ar fywyd gwyllt y môr) ac ynni niwclear, sy'n hanfodol i barhau i ddatgarboneiddio’r modd yr ydym yn cynhyrchu trydan, ac sy'n sail i ostwng allyriadau mewn sectorau eraill. Mae Gogledd Cymru yn lle da yn ddaearyddol i arwain ar dechnolegau amgylcheddol.
Cipiodd entrepreneur o Brifysgol Bangor Wobr y Beirniaid yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Newydd 2020 Prifysgolion Santander, o blith dros 80 o gystadleuwyr.
Datblygodd myfyrwraig MSc o’r enw Jan Lloyd 'Henry's Cushion', sef teclyn cymorth addysgol dieiriau, a ddeilliodd o sgwrs rhwng Jan a'i mab awtistig, Henry a gyda chefnogaeth wych tîm Byddwch Fentrus y Brifysgol, Yr Ysgol Seicoleg, Syniadau Mawr Cymru, M-SParc a'r Hwb Menter.
Mae ymchwilwyr Bangor yn gweithio’n ddyfal gyda phartneriaid ym myd diwydiant i leihau allyriadau mewn amryw o sectorau. Mae gennym Ganolfan BioGyfansoddion sy’n datblygu deunyddiau gwyrdd i leihau’r effaith amgylcheddol a chloi carbon, er mwyn gwneud y sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu yn fwy gwyrdd a helpu i ddisodli concrit a dur. Rydym hefyd yn gweithio i leihau ôl troed carbon telathrebu.
Yn 2019/20 llwyddodd y Brifysgol i beidio ag anfon 100% o'i gwastraff i safleoedd tirlenwi. O'r gwastraff na chafodd ei anfon i safleoedd tirlenwi cafodd 2% ei ailddefnyddio, cafodd 59% ei ailgylchu ac adferwyd 39%.
Cynhyrchwyd 617T o wastraff, gostyngiad o 196T (24%) ar y flwyddyn flaenorol. Ein nod yw ailddefnyddio/ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn Gorffennaf 2025, fel y nodir yn strategaeth wastraff gyffredinol Cymru - Tuag at Ddyfodol Di-wastraff.
Mae’r Brifysgol yn deall bod ein defnydd o ynni sy'n deillio o danwydd ffosil yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang. Yn 2020 cymeradwywyd targed i gyrraedd carbon net-sero erbyn 2030. Rydym bellach wrthi’n datblygu cynllun gweithredu er mwyn cyflawni'r fath darged uchelgeisiol.