Beth yw Clirio a phryd mae Clirio?
Dechreuodd Clirio 2024 ar ddydd Gwener, 5 Gorffennaf. Mae Clirio yn rhoi cyfle i ymgeiswyr sydd heb gael lle mewn prifysgol wneud cais am le ar gwrs sydd heb lenwi. Pob blwyddyn, mae miloedd o ymgeiswyr yn cael lle ar gwrs prifysgol trwy’r broses Clirio.
Efo canlyniadau? Gwnewch gais nawr
Disgwyl canlyniadau? Cofrestrwch eich diddordeb
Pwy all wneud cais drwy Clirio?
Mae Clirio yn agored i:
- rai sydd wedi gwneud cais am gwrs israddedig trwy UCAS sydd ddim yn dal unrhyw gynnig
- rai sydd heb wneud unrhyw gais i brifysgol ar gyfer mis Medi yma.
Efallai byddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd yn rhan o’r broses Clirio oherwydd un o’r rhesymau canlynol:
- ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A, nid ydych wedi cyflawni gofynion mynediad eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych na’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn.
- ar ddiwrnod canlyniadau, rydych wedi cyflawni gofynion eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych neu’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn ond rydych wedi newid eich meddwl ac eisiau mynd i brifysgol arall. Yn yr achos yma, byddwch angen ‘rhyddhau eich hun' fel eich bod yn gallu dod yn rhan o’r broses Clirio.
- nid ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol ar gyfer mis Medi yma ac rydych yn dymuno gwneud cais trwy Clirio am gwrs sy'n cychwyn yn yr hydref.
![Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio mewn labordy](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2020-05/CB-Nov-2016-photoshoot-%283%29.jpg?h=b8aa45f6&itok=d4NBGJlc)
Dod o hyd i'r cwrs i chi drwy Clirio Lleoedd Clirio ar gyfer mis Medi yma
Nid yw'n rhy gynnar i edrych drwy ein cyrsiau israddedig am wybodaeth fanwl ar gyrsiau unigol fel eich bod yn barod os byddwch yn ffeindio eich hun yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau. Noder os gwelwch yn dda, bydd y cyrsiau sydd ar gael trwy Clirio wedi cael eu marcio fel cyrsiau Clirio ar ein gwefan o fis Gorffennaf.
Pam dewis Prifysgol Bangor trwy Clirio?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw. Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
![Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-01/25-1%200-22%20Bangor%20Uni%20%205227_0.jpg?h=81b86b14&itok=cZcguCAk)
Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio
Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024. Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, nid ydym yn gallu sicrhau lle yn ein llety ar y campws yn Wrecsam.
![Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2020-05/Paddleboard%20Llyn%20Padarn.jpg?h=a141e9ea&itok=opfOKnti)
Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu
Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.
![Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2023-03/Students%20in%20Caffi%20Tanio%2C%20Pontio%20cafe%20-%20Myfyrwyr%20yng%20Nghaffi%20Tanio%2C%20caffi%20Pontio.jpg?h=81b86b14&itok=bm66GnPB)
Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr
Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.
![Student playing basketball](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-07/CB_BU_30_10_19__S9_Canon_487.jpg?h=a1e1face&itok=_SoTjYJo)
Aelodaeth am ddim o Glybiau a Chymdeithasau
Rydym yn cynnig aelodaeth am ddim i'n myfyrwyr o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Felly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigoni'ch cadw chi'n brysur yn eich amser hamdden.
5 awgrym da Clirio
Os yn bosibl, peidiwch â bod ar wyliau nac yn y gwaith, cadwch y diwrnod yn rhydd i gysylltu â phrifysgolion. Mae angen i chi fod ar gael i siarad â thiwtoriaid derbyniadau a gwneud penderfyniadau eich hun – ni all eich rhieni, athrawon a ffrindiau wneud hynny ar eich rhan. Os oes rhaid i chi weithio'r diwrnod hwnnw neu os ydych i ffwrdd yn teithio neu ar wyliau, mae'n werth rhoi awdurdod i riant/gwarcheidwad weld manylion eich cais UCAS fel y gallant siarad ar eich rhan.
Efallai nad ydych wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen arnoch, ond efallai y bydd y brifysgol sydd gennych fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eich derbyn ar y cwrs. Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid i chi ddefnyddio’r drefn Glirio. Os ydynt yn penderfynu peidio â’ch derbyn, neu os nad oes gennych gynigion gan unrhyw sefydliad, rydych yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio. Mae ymgeiswyr sy'n gwneud ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y system glirio ac maent hwythau hefyd yn gymwys.
Byddwch yn gwybod eich bod yn y drefn Clirio os ydi eich cais UCAS yn dweud ‘you are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’. Os ydych yn y drefn Clirio, rhaid i chi gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydych yn bodloni eu gofynion.
Yn ystod y cyfnod Clirio, gall y llinellau ffôn fod yn brysur, ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gael eich trosglwyddo i'r adran berthnasol, efallai y gofynnir i chi ffonio'n ôl yn nes ymlaen, neu efallai y bydd y brifysgol yn eich ffonio chi'n ôl. Peidiwch â phoeni, mae Clirio yn para am lawer mwy nag un diwrnod felly mae gennych amser i benderfynu a dod o hyd i gwrs.
Sicrhewch fod eich rhif cais UCAS, eich rhif Clirio, y codau cwrs, eich canlyniadau Lefel A a’r canlyniadau TGAU perthnasol wrth law gan y bydd y staff ar y Llinell Gymorth yn gofyn amdanynt. Bydd angen eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost arnom hefyd er mwyn anfon eich cynnig Clirio atoch yn ysgrifenedig.
Yn union fel y gwnaethoch gyda'ch dewisiadau gwreiddiol, ystyriwch, er enghraifft, gynnwys a strwythur y cwrs, cyfleusterau academaidd, bywyd cymdeithasol, pellter o gartref, cyfleusterau chwaraeon a chostau byw. Efallai y byddwch yn falch o gael cynnig cwrs arall, ond mae angen o hyd i chi ddewis y cwrs iawn yn y brifysgol iawn i chi.
Nid oes yn rhaid i chi fynd am yr un pwnc ag y gwnaethoch gais amdano yn wreiddiol, ond os byddwch yn mynd am rywbeth gwahanol, efallai y bydd y brifysgol yn dal i ddisgwyl i chi fod wedi gwneud pynciau Lefel A penodol. Os yw'r cwrs o’ch dewis yn llawn, edrychwch ar ddewisiadau eraill cysylltiedig, er enghraifft, ar gyfer Meddygaeth, ystyriwch Wyddorau Meddygol neu Wyddorau Biofeddygol.
Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig Clirio cyntaf a gewch. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn hapus i chi gymryd amser i wneud yn siŵr bod y cwrs a'r brifysgol yn addas i chi.
Ewch i ymweld â’r Brifysgol rydych yn bwriadu ei mynychu
Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion, fel Prifysgol Bangor, yn trefnu Dyddiau Agored a digwyddiadau ar gyfer ymgeiswyr Clirio y dylech fynd er mwyn i chi allu edrych o gwmpas y brifysgol a'r ardal, casglu mwy o wybodaeth am y cwrs, siarad â staff a myfyrwyr a phenderfynu a fyddech chi'n hapus yn astudio yn y sefydliad hwnnw.