Mae ein llety ym Mangor ar ddau safle, Pentref Ffriddoedd a Phentref y Santes Fair ac mae ein holl ystafelloedd ar y ddau safle yn rhai hunanarlwyo. Mae Neuadd John Morris-Jones, sef y neuadd ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr ac yn ddysgwyr Cymraeg ac sydd yn dewis byw mewn awyrgylch Gymreig, wedi ei lleoli ym Mhentref Ffriddoedd.
Fel ymgeisydd Clirio, rydym yn sicrhau lle i chi mewn llety prifysgol os yw eich cwrs wedi ei leoli yng nghampws Bangor a byddwch yn derbyn ein cynnig ac yn archebu eich ystafell o fewn y dyddiadau cau.
5 rheswm da dros fyw mewn llety Prifysgol
Byddwch yn byw mewn llety sydd wedi eu gosod yn y 3 gorau yn y DU (WhatUni? Student Choice Awards, 2023)
Ni fyddwch angen car na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan fod ein neuaddau o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas
Bydd eich ystafell yn un en-suite gydag ystafell ymolchi preifat (heblaw am ein tai tref)
Mae aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw yn gynwysedig yn y pris
Mae’r cysylltiad â'r rhyngrwyd yn eich ystafell yn gynwysedig yn y pris.
Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awstac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi.
Pan fyddwch wedi dewis Prifysgol Bangor ar UCAS, a rydym wedi prosesu a chadarnhau eich lle yn swyddogol trwy UCAS, anfonir e-bost* atoch gyda manylion ar sut i wneud cais am lety. Fel arfer, anfonir yr e-bost atoch 24-48 awr ar ôl i chi ddewis Prifysgol Bangor ar UCAS.
Bydd gofyn i chi fynd ar-lein i gwblhau cais am ystafell mewn neuadd breswyl, felly, po gyntaf y gellwch gadarnhau eich bod yn derbyn eich lle Clirio ym Mangor, cyntaf i gyd y gellwch wneud eich cais am lety.
Os gwnewch gais am ystafell cyn Dydd Llun, 2 Medi, byddwch yn debygol o allu archebu'r union ystafell o'ch dewis. Ar gyfer ceisiadau o 2 Medi ymlaen, byddwn yn gofyn ichi nodi'ch dewis o ran lleoliad, neuadd, a math o ystafell, a byddwn yn dyrannu ystafell i chi.
*Sylwer: Bydd yr e-bost llety yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych i UCAS. Felly mae angen i chi sicrhau bod eich manylion cyswllt (ac yn benodol eich cyfeiriad e-bost) yn gywir gan UCAS.
EDRYCHWCH O AMGYLCH EIN LLETY
Gwyliwch ein fideos i ddarganfod mwy am eich opsiynau llety.