Cedwir data am alumni a rhoddwyr yn ddiogel a chyfrinachol yng nghronfa ddata Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol i ddibenion hybu cysylltiadau agosach rhwng Prifysgol Bangor a'i chyn-fyfyrwyr. Defnyddir ar gyfer amrywiaeth helaeth o weithgareddau cyn-fyfyrwyr, yn cynnwys anfon cyhoeddiadau'r brifysgol, llenyddiaeth adrannol a llenyddiaeth benodol i roddwyr; a noddi digwyddiadau a gweithgareddau i alumni a grwpiau diddordeb arbennig ledled y byd. Ni ddatgelir y data i sefydliadau allanol ac eithrio’r rhai fydd yn gweithredu fel asiant i’r Brifysgol.
Mae Prifysgol Bangor yn prosesu eich data personol yn unol â rheoliadau diogelu data. Ewch i'n we-dudalen i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i leisio pryder ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu. Gellir cysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol yn info-compliance@bangor.ac.uk
Am fwy o wybodaeth o'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, cystylltu a'r tîm yn alumni@bangor.ac.uk.