Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein tîm o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ffôn gan un o’n myfyrwyr a fydd yn sgwrsio â chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau â phosib a galluogi’r brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu “rywbeth ychwanegol” at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein tîm o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon hydref yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi £74,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Mynegodd Persida Chung, sy’n Swyddog Datblygu, ei diolch i'r myfyrwyr; gan ddweud, “Mae’r Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n ffonio gysylltu â chenedlaethau’r gorffennol o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, i rannu newyddion a phrofiadau, gan gryfhau cymuned ehangach y Brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd a gymerodd yr amser yn hael i rannu cipolwg i’w bywydau a’u gyrfaoedd ar ôl Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth a roddir i’n myfyrwyr fel maent ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol o werth aruthrol iddynt.”
Dyma rai enghreifftiau o’r mentrau a gefnogir gan Gronfa Bangor yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25:
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: Pecyn cystadleuaeth y gyfraith gyda chyfle marchnata
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: Bwrsari teithio i chwe myfyriwr fynychu gweithdai ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Ngwlad Pwyl ac yng Nghymru
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: Cyflwyno 'Profiad Dysgu Trawsnewidiol a Chyfoethog' i fyfyrwyr doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru: Encil Llwybr Gyrfa, Meithrin Cymuned, Hyfforddiant, a Chyfnewid Gwybodaeth yn Neuadd Gregynog.
- Undeb y Myfyrwyr: Ymgyrch iechyd rhywiol
- Undeb y Myfyrwyr: Sesiynau haf – Cynnig gweithgareddau am ddim i fyfyrwyr dros yr haf
- Undeb y Myfyrwyr: Gwella offer yr hyb gweithgareddau ar gyfer clybiau a chymdeithasau
- Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Gwella profiad myfyrwyr trwy weithgareddau sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd i fyfyrwyr, gan fyfyrwyr.
- Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau: Gweithgareddau cerddorol fel rhan o genhadaeth ddinesig Prifysgol Bangor
- Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau: Dod â chymunedau ynghyd - defnyddio gweithdai i wella cyflogadwyedd a phrofiad myfyrwyr yn yr Ysgol
- Canolfan Bedwyr: Y llwybr i lwyddiant - Bywyd ar ôl Bangor
- Ysgol y Gymraeg cynhyrchiad a pherfformio sioe theatrig - Sioe Un Dyn: Syr Harry Reichel
- Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Ffensys cloadwy ar gyfer addysgu ac ymchwil pyllau Brambell
- Ysgol Gwyddorau Eigion: Bwrsariaethau teithio i fyfyrwyr yr Ysgol sy'n mynychu darlith yr Athro Yueng Djeng Lenn gyda’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
- Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Cyfraniad at fwrsariaethau cwrs maes preswyl ar gyfer 60-70 o fyfyrwyr.
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch â Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!

Cronfa Bangor


Tîm o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon




