Drwy gofio am Brifysgol Bangor yn eich ewyllys, gallwch sicrhau bod y cyfoeth rydych wedi ei gasglu yn ystod eich bywyd yn parhau i fod o fudd i eraill.
Ers ei sefydlu yn 1884, mae Prifysgol Bangor wedi elwa o ddyngarwch unigolion a sefydliadau hael. Roedd sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, oedd yn cynnwys cyfraniadau gan chwarelwyr lleol a oedd yn cyfrannu cyfran o'u cyflogau wythnosol, yn ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch dros ddarpariaeth addysg uwch yng Nghymru, ac fe ddarfu i roddwyr ar bob lefel wneud y peth yn bosibl. Roedd y rhoddwyr hyn yn gweld pwysigrwydd ac angen sefydliad addysgiadol ac mae llwyddiant Bangor heddiw yn destament i weledigaeth ac uchelgais ein cefnogwyr cyntaf.
Mae Prifysgol Bangor, sefydliad o fri byd-eang sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil, wedi ymrwymo i ddarparu addysgu a dysgu o’r ansawdd uchaf, a chyfrannu at ddatblygu economi, iechyd a diwylliant Cymru gynaliadwy a byd cynaliadwy. Mae’r Brifysgol, sy’n gartref i dros 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff, yn adnabyddus ym Mhrydain ac yn rhyngwladol am safon eithriadol uchel ei dysgu a’i hymchwil ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.
Mae anghenion ariannol y Brifysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac mae’n derbyn cyllid o lawer o wahanol ffynonellau ar gyfer ei gwahanol feysydd gwaith.
Mae cymynroddion digyfyngiad at ddibenion cyffredinol yn rhoi hyblygrwydd i Fangor fuddsoddi yn y rhaglenni a’r cyfleusterau y mae mwyaf o’u hangen pan dderbynnir rhoddion. Bydd eich cymynrodd at ddibenion cyffredinol yn sicrhau rhagoriaeth Bangor yn y dyfodol a’i gallu i gystadlu mewn byd cyson gyfnewidiol.
Efallai bod maes arbennig yn agos at eich calon – megis ysgol academaidd, rhaglen ymchwil neu’r Llyfrgell – neu efallai yr hoffech sicrhau bod eich enw chi neu enw aelod o’ch teulu yn cael ei gofio drwy gyllido gwobr neilltuol.
Dros amser bydd ysgolion/colegau academaidd a meysydd ymchwil yn newid; felly, mae’n werth osgoi pennu dibenion penodol iawn ar gyfer eich rhodd gan y gallai hynny atal ei defnyddio. I osgoi sefyllfa felly, efallai yr hoffech ystyried cynnwys darpariaeth yn eich ewyllys sy’n caniatáu i’r Brifysgol ddefnyddio eich cymynrodd mewn maes cyffelyb, neu lle mae angen brys am gefnogaeth ariannol. Bydd tîm y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau’n barod iawn i drafod sut y gall Bangor gadw at eich dymuniadau.
Trwy adael cymynrodd i Fangor gellwch leihau gwerth trethadwy asedion eich ystâd ac felly leihau swm y dreth etifeddu sy’n ddyledus. Mae gan Brifysgol Bangor statws elusennol llawn ac mae holl roddion a chymynroddion i’r Brifysgol wedi eu heithrio’n llwyr o dreth etifeddu y Deyrnas Unedig. 1141565 yw Rhif Elusen Comisiwn Prifysgol Bangor.
Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig gofynnwch i’ch cynghorwr am wybodaeth bellach ar statws treth cymynroddion a wneir i elusennau yn y DU.
Trwy eich cefnogaeth chi gallwn siapio'r dyfodol...
Cymynroddion - Enghreifftiau o roddion caredig
Gadawodd Ms Mair Roberts, cyfaill i Brifysgol Bangor, £95,000 i gefnogi Sefydliad North West Cancer Research.
Cymyroddion blaenorol
- Gadawodd Mrs Juene Jones (1950, Lladin a Ffrangeg), £2,000 er cof am Juene a David Jones tuag at gronfa caledi ariannol myfyrwyr.
- Gadawodd Miss Nést Morris Jones (1926 Y Clasuron), dros £260,000 i gefnogi rhaglenni Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, er cof am ei thad, Yr Athro Syr John Morris Jones, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
- Gadawodd Mr Alan Marsh (1952, Swoleg ac Amaethyddiaeth), £1,000 i gefnogi Undeb Athletau Prifysgol Bangor.
- Gadawodd Mr Barry Paine (1961, Eigioneg), dros £52,000 i Ysgol Gwyddorau’r Eigion i gefnogi myfyrwyr ar y rhaglen lleoliadau haf.
- Gadawodd Mrs Rene Williams (1939, Lladin), £300,000 i “Gronfa Goffa Edwin Williams” er cof am ei gŵr, Mr Edwin Williams, i ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr Drama/Drama Gymraeg.
- Gadawodd yr Athro Tim Miles, cyn aelod o staff Prifysgol Bangor, dros £54,000 i gefnogi ymchwil i anhwylderau datblygiadol sy'n cyd-ddigwydd, yn cynnwys dyslecsia. Cyllidodd hyn PhD 2 flynedd mewn Seicoleg.
- Gadawodd Mrs Gwladys (Gail) Rees, cyn aelod o staff Coleg Normal Bangor, £10,000 er cof am ei gwr, Mr Edward Rees, cyn Brifathro’r Coleg Normal ac Is-lywydd y Brifysgol.
- Gadawodd Hannah Mary Michael, cyfaill i Brifysgol Bangor, £140,000 i astudiaethau canser yn Sefydliad Cronfa North West Cancer Research Bangor.
- Gadawodd Syr Kyffin Williams RA, cyfaill i’r Brifysgol, rodd sylweddol yn cynnwys gweithiau celf pwysig, llyfrau a dodrefn.
- Gadawodd Mrs Rosamund P Bourke, cyfaill i Brifysgol Bangor, £10,000 tuag at weithgareddau ymchwil ac allgymorth parhaus y rhwydwaith/canolfan Astudiaethau Crefyddol
- Gadawodd Ms Gwladys Richardson, cyfaill i Brifysgol Bangor, £38,000 i “Wobr Goffa Mr a Mrs David Edward” er cof am ei rhieni, i helpu unrhyw fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud ymchwil ôl-radd.
Trwy adael cymynrodd, byddwch yn rhan o Raglen Gymynroddion Prifysgol Bangor (Cylch 1884), sydd wedi dangos eu hymrwymiad parhaus i lwyddiant Prifysgol Bangor yn y dyfodol.
Gweler y dolenni isod am fanylion ar sut y gallwn weithio gyda chi i anrhydeddu eich dymuniadau.
- Gwneud Ewyllys
- Awgrymiadau ar gyfer geirio cymynroddion
- Rhowch wybod i ni
- Datganiad o Fwriad
- Codisil
I gael rhagor o wybodaeth am adael cymynrodd, cysylltwch â, Persida Chung, Swyddog Datblygu cymynroddion@bangor.ac.uk.