Mae gallu rheoli eich arian a dysgu sut i gynllunio ar gyfer talu rhent, biliau cyfleustodau, llyfrau, bwyd a chostau hanfodol eraill yn bwysig er mwyn osgoi pryderon ariannol sy'n effeithio ar eich astudiaethau.
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu gyda chyllidebu:
1.- Creu cyllideb
Rydym yn awgrymu eich bod yn creu cyllideb ar gyfer pob tymor oherwydd gall amrywio o ran hyd.
Fe welwch y Calendr Academaidd ar dudalen we’r Brifysgol hon: https://www.bangor.ac.uk/student-administration/calendar/index.php.cy
2.- Gwnewch restr o'ch holl incwm
- Cyllid Myfyrwyr – cofiwch fod cyllid myfyrwyr fel arfer yn cael ei dalu i fyfyrwyr mewn 3 rhandaliad – Medi, Ionawr ac ar ôl y Pasg
- Cyllid y GIG – fel arfer yn cael ei dalu mewn rhandaliadau misol
- Bwrsariaethau
- Ysgoloriaethau
- Cyflogau
- Cynilion
- Cefnogaeth ariannol i'r teulu
- Arall
3.- Gwnewch restr o'ch holl gostau
- Rhent
- Biliau – trydan, nwy, cyfraddau Dŵr, Trwydded Deledu ac ati
- Bwyd
- Costau cysylltiedig â chyrsiau – teithiau maes, cotiau labordy ac ati
- Cymdeithasu
- Tanysgrifiadau – aelodaeth campfa, deintydd, lensys cyffwrdd ac ati
- Penblwyddi a Nadolig
- Teithio – adref ar gyfer ymweliadau neucostau leoliadau
- Ac unrhyw gost arall y gwyddoch sydd gennych
4.- Lawrlwythwch daflen gyllideb syml :
Os ydych yn dod i'r brifysgol yn syth o'r ysgol neu'r coleg, byddem yn eich cynghori i lunio cyllideb gyda'ch rhiant(rhieni) / gwarcheidwaid gan y gallant eich helpu.
Bydd hefyd yn helpu eich teulu i ddeall eich sefyllfa ariannol fel myfyriwr fel gallant eich helpu yn ariannol.
Gallwch Lawrlwytho taflen gyllideb Excel yma Dyma ffurflen cyllido gwag i’ch helpu plis creaqt link to budget sheet found on this webpage : https://www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/budgeting.php.cy
5.- Angen Help?
Os oes angen help arnoch i lunio cyllideb, neu os oes angen cyngor ariannol arnoch ar reoli eich arian, siaradwch ag aelod o staff yn yr Uned Cymorth Ariannol naill ai drwy e-bost: moneysupport@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 38 3566 / 3637 i drefnu cyfarfod.
Gallech hefyd gael mynediad at rai o’r gwefannau defnyddiol canlynol:
- Academy of Money Open Learn
o Mae gan bob myfyriwr fynediad i gwrs Dysgu Agored yr Academy of Money Open Learn a ddatblygwyd gan MoneySavingExpert Martin Lewis a'r Brifysgol Agored.
o Mae'r cyfle hyfforddi hwn yn darparu hyd at 12 awr o wybodaeth ac yn cynnig ardystiad ar ôl ei gwblhau.
o Cyrchwch y cwrs yma.MSE’s Academy of Money | OpenLearn - Open University
- Blackbullion : https://www.blackbullion.com/
- The Money Charity : https://themoneycharity.org.uk/workshops-webinars/university-students/
Mae cyfrifon banc myfyrwyr yn aml yn cynnwys cyfleuster gorddrafft di-log i fyfyrwyr. Mae gorddrafft yn golygu y gallwch fenthyg arian (hyd at swm penodol a gytunwyd ymlaen llaw) heb dalu llog. Bydd y rhan fwyaf o fanciau angen i’ch cyllid myfyriwr gael ei dalu i mewn i’r cyfrif hwnnw er mwyn creu cyfrif myfyriwr.
I weld a ydych yn gymwys ar gyfer cyfrif banc myfyriwr, holwch eich banc presennol neu siopiwch o gwmpas oherwydd gallai banciau gynnig cymhellion i chi agor cyfrif banc myfyriwr gyda nhw, fel cardiau disgownt neu dalebau.
Dewiswch gyfrif banc a fydd yn addas i chi a chofiwch ddarllen y T&Cs. Peidiwch â chael eich perswadio gan y gorddrafft neu’r cerdyn disgownt mwyaf.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gyfrifon sydd ar gael ar gael ar Save the Student : https://www.savethestudent.org/money/student-banking/student-bank-accounts.html neu Money Saving Expert https://www.moneysavingexpert. com/myfyrwyr/
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Mae cyfleuster gorddrafft y cytunwyd arno yn gadael i chi fenthyca arian ychwanegol drwy eich cyfrif cyfredol.
Er enghraifft, os nad oes gennych unrhyw arian ar ôl yn eich cyfrif a’ch bod yn gwario £50, balans eich cyfrif fyddai -£50. Mae hyn yn golygu eich bod yn defnyddio gorddrafft.
Dyma rai awgrymiadau i wneud i’ch gorddrafft fynd ymhellach:
- Gall mynd y tu hwnt i'ch terfyn gorddrafft a drefnwyd arwain at daliadau a gall effeithio ar eich sgôr credyd.
- Defnyddiwch eich cyfrif myfyriwr a gorddrafft yn afalus bob amser.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod terfyn eich gorddrafft
- PEIDIWCH BYTH â mynd dros eich terfyn gorddrafft!
- Ewch i'r arfer o wirio'ch balans banc yn rheolaidd er mwyn osgoi mynd dros eich terfyn gorddrafft a gorfod talu gostau.
- Cofiwch, mae'n rhaid talu'r arian rydych chi'n ei fenthyg yn ôl yn y pen draw. Gofynnwch a fydd eich banc yn trosi eich cyfrif myfyriwr yn gyfrif graddedig ar ddiwedd eich gradd. Efallai y bydd gan gyfrif graddedig orddrafft di-log am gyfnod penodol o amser a gallai roi mwy o amser i ad-dalu’r arian a fenthycwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfleuster gorddrafft.
I gael rhagor o wybodaeth am orddrafftiau cliciwch ar y ddolen hon: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/everyday-money/credit/overdrafts-explained
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Cerdyn talu/ap yw cerdyn credyd fel arfer yn cael ei roi gan fanciau neu sefydliadau ariannol i ganiatáu i ddefnyddwyr brynu nwyddau neu wasanaethau ar gredyd (i'w dalu yn ddiweddarach). Efallai y byddwch yn talu llog ar eich gwariant yn enwedig os nad ydych yn talu balans y cerdyn credyd yn llawn pan fyddwch yn derbyn cyfriflen.
Dyma rai awgrymiadau i wneud i'ch Cardiau Credyd Fynd Ymhellach:
- Defnyddiwch eich cerdyn credyd ar gyfer anghenion, nid dymuniadau.
- Talwch y balans bob mis fel arall byddwch yn talu llog. Os na allwch fforddio ad-dalu'r balans yn llawn mae'n rhaid i chi dalu'r isafswm o leiaf, ond cofiwch fyddwch chi ddim yn lleihau'r ddyled.
- PEIDIWCH BYTH ag anwybyddu taliad – gan y bydd hyn yn arwain at ffi talu'n hwyr a gall gael effaith negyddol ar sgôr credyd.
- Arhoswch o dan 30% o ufachsw eich cerdyn credyd.
- Defnyddiwch gardiau credyd i brynu eitemau drud sy'n werth dros £100 - amddiffyniad ychwanegol - ond dim ond os gallwch chi fforddio ad-dalu'r balans mewn rhandaliadau llawn neu fisol.
- Defnyddiwch Gerdyn Credyd gyda Gwobrau lle bo modd.
- Mae modd arbed arian gyda chynigion rhagarweiniol – 0% trosglwyddo balans ac ati.
- Peidiwch â defnyddio cerdyn credyd i godi arian parod – mae’n ddrud iawn.
I gael rhagor o wybodaeth am Gardiau Credyd cliciwch yma:
- Cyngor ar Bopeth: https://www.citizensadvice.org.uk/debt-and-money/borrowing-money/credit-cards/
- Money Saving Expert : https://www.moneysavingexpert.com/credit-cards/
- Save the Student : https://www.savethestudent.org/money/student-banking/best-credit-cards-students.html
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Gall Benthyciadau Tîm Byr a gynigir gan Paypal, Klena fod yn ffordd dda o ledaenu cost eitemau mwy costus ond dim ond os gallwch chi fforddio'r rhandaliadau
- Byddwch yn ofalus – Os byddwch yn methu taliad codir ffi talu'n hwyr arnoch a gellid gofyn i chi ad-dalu'r swm cyfan.
Os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw daliadau, ceisiwch gyngor neu arweiniad cyn gynted ag y sylweddolaf fod angen help arnoch.
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Beth yw gwe-rwydo?
Ffordd o ddwyn hunaniaeth pobl ar-lein yw gwe-rwydo. Mae'n defnyddio e-byst a gwefannau ffug i'ch twyllo i rannu gwybodaeth, fel rhifau cardiau credyd, cyfrineiriau, data am gyfrifon neu wybodaeth bwysig arall.
Ni wnaiff unrhyw fanc na chwmni go iawn ofyn i chi roi gwybodaeth bersonol trwy ateb e-bost, neu drwy glicio ar ddolen mewn e-bost sy'n eich cyfeirio at wefan.
Ni wnaiff Prifysgol Bangor ofyn i chi am eich cyfrinair na’ch manylion personol dros e-bost na’r ffôn.
Sut mae adnabod e-byst sy’n sgamio/gwe-rwydo
Mae e-byst ffug sy'n targedu myfyrwyr ar gynnydd. Mae'n mynd yn fwyfwy soffistigedig ac yn anodd ei adnabod.
Ym Mangor, mae gennym systemau i gyfyngu ar faint o negeseuon e-bost ffug sy'n mynd drwodd ac i leihau'r effaith lle bo modd. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd rhai e-byst yn mynd drwodd. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn parhau i fod yn effro i fygythiadau posibl ac yn cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch cyfrifon cyfrifiadurol ac e-byst y Brifysgol.
Isod mae rhai awgrymiadau sut mae adnabod ymdrechion i’ch gwe-rwydo ac e-byst sgamio:
- Gall e-byst sgamio fod yn amrywiol eu ffurf, gan gynnwys rhai sy'n honni eu bod yn dod o'r Brifysgol. Mae’n bwysig bod yn wyliadwrus a bod yn amheus o bob ebost digymell sy’n gofyn i chi glicio ar ddolen a mewngofnodi.
- Cofiwch, os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg mai sgam ydyw.
- Gwyliwch am gamsillafiadau a gramadeg gwael.
- Gall yr e-bost ddod o gyfeiriad e-bost gwahanol i e-bost y sefydliad.
- Mae'r e-bost yn dechrau gyda chyfarchiad anarferol neu generig fel 'Annwyl gwsmer gwerthfawr'.
- Gall e-bost ffug gynnwys atodiadau, a allai gynnwys ffeiliau .exe.
- Efallai y bydd yr e-bost yn ceisio eich brysio, er enghraifft, bygythiad i gau’r cyfrif os na fyddwch chi’n gweithredu ar unwaith.
- Gall yr e-bost gynnwys dolen amlwg i wefan. Gall y rheini gael eu ffugio neu ymddangos yn debyg iawn i'r cyfeiriad cywir, ond mae gwahaniaeth o un lythyren yn golygu gwefan wahanol.
- Efallai y bydd cais am wybodaeth bersonol, fel eich enw defnyddiwr, cyfrinair, neu fanylion benthyciad myfyriwr.
- Efallai fod testun cyfan yr e-bost mewn llun yn hytrach na'r fformat testun arferol. Gall y llun gynnwys dolen fewnosodedig at wefan ffug.
Pa gamau y dylech eu cymryd os byddwch yn derbyn e-bost sgamio/gwe-rwydo?
- Peidiwch ag ymateb i e-byst sy'n gofyn am eich cyfrinair neu wybodaeth sensitif arall.
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau amheus na’u hagor.
- Os cewch eich tywys i dudalen fewngofnodi neu wefan, peidiwch â cheisio mewngofnodi na rhoi eich gwybodaeth bersonol.
- Os credwch fod yr e-bost oddi wrth rywun rydych chi'n ei adnabod, cysylltwch â'r anfonwr gwreiddiol dros y ffôn neu crëwch e-bost newydd i ofyn a yw'r e-bost yn ddilys.
- Gallwch roi gwybod am ebost anarferol yn Outlook trwy ddefnyddio'r botwm 'Report Message'.
- Rhowch wybod am e-bost gwe-rwydo a anfonwyd i'ch cyfeiriad ym Mhrifysgol Bangor.
- Cysylltwch â’r gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth (ychwanegu dolen desg-gymorth@bangor.ac.uk) ar unwaith os ydych eisoes wedi clicio ar ddolen, wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol neu wedi agor/lawrlwytho unrhyw atodiadau.
Awgrymiadau i leihau e-byst sgamio/gwe-rwydo yn eich mewnflwch
- Os byddwch yn canfod e-byst sgamio/gwe-rwydo peidiwch â’u hateb oherwydd os gwnewch chi hynny byddwch yn cadarnhau eich cyfeiriad e-bost ac yn debygol o gael mwy o e-byst sbam neu sothach.
- Peidiwch â phrynu cynnyrch na gwasanaethau sy’n cael eu hysbysebu mewn e-bost sbamio.
- Peidiwch â chlicio ar ddolen mewn e-bost sbamio hyd yn oed pan fydd yn dweud mai dyma'r unig ffordd i ddad-danysgrifio. Mae clicio ar y ddolen yn cadarnhau eich cyfeiriad e-bost i’r anfonwr ac mi gewch chi fwy o sbam.
- Peidiwch ag e-bostio gwybodaeth bersonol fel cerdyn credyd/debyd, cyfrineiriau, enwau defnyddwyr, enw mam cyn priodi ac yn y blaen.
Beth i'w wneud os cawsoch eich sgamio/gwe-rwydo?
Os cawsoch eich sgamio a cholli swm o arian o’r herwydd, rhowch wybod i’r Heddlu cyn gynted â phosibl drwy Action Fraud (dolen: https://www.actionfraud.police.uk/) neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Gallwch hefyd gysylltu â'r timau Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr isod. Gallant gynnig cefnogaeth ac arweiniad.
I Fyfyrwyr y Deyrnas Unedig: Cysylltwch â’r Uned Cefnogaeth Ariannol, sydd ar y Llawr 1af, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF neu drwy e-bostio: cymorthariannol@bangor.ac.uk neu dros y ffôn: 01248 38 3566 / 3637
I fyfyrwyr rhyngwladol: Cysylltwch â’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Ryngwladol sydd ar y Llawr Isaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor. LL57 2DF neu drwy e-bostio: internationalsupport@bangor.ac.uk neu dros y ffôn: 01248 38 2882 / 38 8070
Os rhoesoch eich cyfrinair Prifysgol Bangor i rywun neu os oes perygl i'ch cyfrif
- Newidiwch eich cyfrinair Prifysgol Bangor (dolen: https://apps.bangor.ac.uk/canolfan/password/change/) ar unwaith ac unrhyw le arall os ydych wedi defnyddio'r cyfrinair hwnnw.
- Allgofnodwch neu caewch bob tudalen a gwefan sydd ar agor gennych.
- Cysylltwch â’r Gwasanaethau Desg Gymorth Technoleg Gwybodaeth am gyngor ac arweiniad (e-bost cyswllt – desg-gymorth@bangor.ac.uk)
- Rhowch wybod i'r holl ddarparwyr gwasanaeth a allai gael eu heffeithio e.e. y banc
- Rhowch wybod am wefannau gwe-rwydo gan ddefnyddio porwr gwe neu ddarparwr gwasanaeth.
- Rhowch wybod am bob e-bost gwe-rwydo i'r sefydliadau y maent yn smalio ydynt.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â dilysrwydd e-bost cysylltwch â Gwasanaethau Desg Gymorth Technoleg Gwybodaeth y Brifysgol ar 01248 38 8111 neu ar e-bost: desg-gymorth@bangor.ac.uk a bydd aelod o'r staff yn gallu rhoi gwybod i chi a yw'r neges yn ddilys.
Enghreifftiau penodol o ddiddordeb:
E-byst sgamio/gwe-rwydo Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Yn aml mae sgamiau gwe-rwydo'n targedu myfyrwyr sy'n smalio bod oddi wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC). Maent yn tueddu i ofyn am fanylion personol a'ch manylion banc ar gyfer taliadau.
Peidiwch ag ymateb i'r e-byst hynny. Ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, banciau a sefydliadau eraill byth yn gofyn am eich manylion personol ar e-bost.
Chwiliwch am gamgymeriadau sillafu yn y llinell bwnc neu'r cyfeiriad e-bost. Gallant hefyd ddefnyddio ieithwedd rymus neu fygythiol fel “'byddwn yn atal eich taliadau.” Dylech hefyd fod yn wyliadwrus hefyd o gyfeiriadau e-bost rhyfedd neu fân newidiadau i e-bost yr anfonwr fel Hot-mail.com yn hytrach na Hotmail.com.
Os ydych chi'n poeni am e-bost neu alwad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, mewngofnodwch i'ch cyfrif neu cysylltwch â nhw'n uniongyrchol ar: furtherinfo@slc.co.uk. Bydd hynny’n eu helpu nhw ddiogelu eich cyfrif a chadw eich manylion personol yn ddiogel.
- Awgrymiadau i'ch helpu chi aros yn ddiogel gydag e-byst y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:
-
- Gwyliwch am unrhyw e-byst, galwadau ffôn neu negeseuon SMS amheus, yn enwedig oddeutu’r amser rydych chi'n disgwyl taliad.
- Peidiwch â phostio negeseuon ar-lein sy'n dweud y byddwch yn cael eich taliad cyllid myfyrwyr cyn bo hir; gallai hynny eich gwneud yn darged i dwyllwyr.
- Sicrhewch bob amser eich bod yn defnyddio gwefan ddiogel wrth gyflwyno gwybodaeth sensitif ar-lein a pheidiwch â phostio gwybodaeth bersonol ar dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol.
- Peidiwch â mewngofnodi i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr ar rwydweithiau a chyfrifiaduron cyhoeddus.
- Os byddwch yn derbyn galwad ffôn amheus, peidiwch â theimlo dan bwysau i roi manylion i neb.
Ychwanegu fideo? https://www.youtube.com/watch?v=pfl4X8iJhc0
Sgamiau sy’n targedu myfyrwyr rhyngwladol ar fisas
Gwyddom fod nifer o fyfyrwyr ledled prifysgolion y Deyrnas Unedig wedi cael eu targedu gan dwyllwyr ac wedi colli symiau mawr o arian.
- Cofiwch na fydd y Swyddfa Gartref nac UKVI byth yn ffonio myfyriwr rhyngwladol i ofyn am fanylion personol na thaliadau.
- Peidiwch â gwneud taliadau na rhoi gwybodaeth bersonol i rywun sy’n eich ffonio fel hyn.
Os credwch i chi gael eich targedu neu os oes gennych unrhyw bryderon, anfonwch e-bost at y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. (e-bost cyswllt: internationalwelfare@bangor.ac.uk)
Cewch ragor o gyngor am dwyll a sgamiau ar
[00:00 - 00:01, spoken by Peer Guide Mairelle] Hi everyone.
[00:01 - 00:06] Budgeting is a life skill to help you manage your money, and not just whilst you're studying at Bangor.
[00:06 - 00:12] To manage your money and to create a budget, you'll need to know your spending and costs and what you have as your income.
[00:12 - 00:19] Your income is usually your Student Finance, any money that you have from working, potentially savings, or family contributions.
[00:19 - 00:26, spoken by Peer Guide Faheedat] If you live in Halls, your rent will be paid in 3 or 7 instalments to the University
[00:26 - 00:36] and then your remaining balance can be split into a weekly or monthly budget for food, books, your hobbies, and monthly subscriptions like your phone service and Netflix.
[00:36 - 00:46] If you need help with budgeting, contact the Money Support Unit at the University, their e-mail is moneysupport@bangor.ac.uk. Peace!
[00:46 - 00:48] A white screen showing the Go Further and Bangor University logos.