Mae creu CV effeithiol yn gam hanfodol wrth chwilio am swydd. Mae'n bwysig bod eich CV yn glir ac yn hawdd i'w ddarllen, dim mwy na 1-2 dudalen o hyd ac yn berthnasol i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani. Mae gennym lawer o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i ddechrau arni.
Fel myfyriwr neu gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor mae gennych fynediad unigryw i CareerSet, meddalwedd sy'n rhoi adborth ar unwaith ar eich CV ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Rydym yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio hwn fel eu cam cyntaf i greu CV o safon dda. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai CV ymarferol mewn labordai cyfrifiadurol ar y campws yn ystod y flwyddyn academaidd, a gallwn gynnig Apwyntiadau Cyngor Gyrfaol ar gyfer adolygiadau CV terfynol.
Dylech bob amser anfon llythyr eglurhaol gyda'ch CV. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r gofynion hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, gan fod angen i chi roi enghreifftiau eich bod yn bodloni’r gofynion yma yn eich llythyr eglurhaol. Dylech hefyd ddangos eich brwdfrydedd dros y cyflogwr neu’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani – dywedwch wrthynt pam fod gennych ddiddordeb yn y rôl, neu beth sy’n eich denu i’r sefydliad.
Mae gennym lawer o help ar gael i'ch cefnogi gyda cheisiadau trwy ein Hwb Cyflogadwyedd.
P’un a ydych yn chwilio am waith rhan-amser lleol i gyd-fynd â’ch astudiaethau, neu swydd yn ystod y gwyliau dros yr haf, mae gan ein Hwb Cyflogadwyedd ddigon o awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni – edrychwch ar ein taflen ‘Awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i waith rhan-amser'. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai rheolaidd ar sut i chwilio am swydd yn effeithiol, felly edrychwch ar ein hamserlen gweithdai hefyd.
Mae’n bwysig paratoi’n drylwyr ar gyfer pob rhan o’r broses ymgeisio, o anfon ffurflen gais neu CV i gyfweliadau neu ganolfannau asesu. Er bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am sut i berfformio'n dda yn ystod cyfweliad, mae yna ychydig o gamau syml y gallwch eu dilyn a fydd yn rhoi'r hyder i chi lwyddo.
Oeddech chi'n gwybod, er enghraifft, y gallwch chi ragweld yn aml y math o gwestiynau y gallai cyflogwr eu gofyn i chi yn ystod eich cyfweliad? Maent yn aml yn seiliedig ar y gofynion hanfodol a dymunol a restrir yn yr hysbyseb wreiddiol.
Mae gan bob un o'n myfyrwyr a'n graddedigion fynediad i'n platfform unigryw Graduates First, lle gallwch chi ymarfer ystod eang o gwestiynau cyfweliad ac adolygu a derbyn adborth ar eich perfformiad. Mae'r ymarfer cyfweliad rhyngweithiol yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ar-lein.
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd hefyd yn cynnig pecyn cymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i brofiad gwaith. Gall rhwystrau ddeillio o nifer o wahanol ffactorau megis: caledi ariannol, anabledd, gwahaniaeth dysgu, iechyd meddwl a dyletswyddau gofalu.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig ar gyfer profiad gwaith, llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn ni’n cysylltu â chi. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i'ch helpu i gael mynediad at gyfleoedd profiad gwaith, er enghraifft cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau hyfforddi neu gostau teithio, os nad ydynt yn gysylltiedig â lleoliadau gorfodol neu broffesiynol.
Mwy o wybodaeth am ein Cymorth Profiad Gwaith