Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Mae gennym gysylltiadau hynod gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hynny’n cyfrannu at nifer o agweddau ar ein gweithgareddau ymchwil, ac mae’n helpu hyrwyddo ein gwaith.
Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hynny’n cynnig cyfleoedd gwych i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn help i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmnïau a'r sefydliadau y buom yn cydweithio â nhw'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, y cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar. Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.