Mae ein cryfderau ymchwil mewn cyfnodau a meysydd astudio penodol: llenyddiaeth y canoloesoedd a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys golygu testunau; hanes y llyfr a chyhoeddi; llên Saesneg Cymru; llenyddiaeth Ramantaidd a modern; ac ysgrifennu creadigol, ynghyd ag agweddau penodol wedi'u llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a chelfyddyd, a llenyddiaeth a chrefydd. Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.
Ymhlith y canolfannau a'r sefydliadau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, a’r rhai mae gennym bartneriaeth â nhw, mae: Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS), sef sefydliad ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth; Canolfan R.S. Thomas; Canolfan Astudiaethau Arthuraidd, sef canolfan ar gyfer ymchwil a chyfnewid rhyngwladol ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n tynnu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol yn y maes; Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ac sydd yn ganolbwynt i astudiaeth o'r llyfr fel gwrthrych materol.