Mae arbenigedd y staff sy'n gyfrifol am Ysgrifennu Creadigol i'w ganfod yng nghrefft iaith ac adrodd straeon yng nghyd-destun eang ymarfer proffesiynol. Mae'r staff ysgrifennu creadigol ym Mangor yn cyhoeddi ym mhrif ffurfiau ffuglen fer, y nofel a barddoniaeth, ac mae eu hymchwil yn rhychwantu beirniadaeth a chyfraniadau ymarferol i'r meysydd hynny.
Mae'r staff yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu. Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol, gan gynnwys: Barddoniaeth, Ysgrifennu straeon byrion, Ysgrifennu arbrofol, Ecowleidyddiaeth.
Mae'r diddordebau ymchwil ym maes Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn amrywiol o ran cyfnod a dulliau. Mae'r meysydd ymchwil presennol a newydd ym maes Ysgrifennu Creadigol yn cynnwys addasu, arbrofi a chyfieithu ac ysgrifennu creadigol, a hynny o sawl safbwynt damcaniaethol, wedi eu llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal â'r berthynas rhwng llenyddiaeth a'r celfyddydau, llenyddiaeth a daearyddiaeth a llenyddiaeth a chrefydd.