Cylch Ieithyddiaeth Bangor: Communication professionals need to advocate for communication rights and the Sustainable Development Goals
Yr Athro Sharynne McLeod (Prifysgol Charles Sturt, Awstralia)
[Digwyddiad iaith Saesneg] Bydd yr Athro Sharynne McLeod (Prifysgol Charles Sturt, Awstralia) yn cyflwyno ei ymchwil ar eiriol dros hawliau cyfathrebu. Dewch draw neu ymunwch â ni ar-lein!
Crynodeb: Mae cyfathrebu yn hawl ddynol i bawb. Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn datgan “Mae gan bawb yr hawl i ryddid barn a mynegiant… waeth beth fo’u ffiniau” (Erthygl 19, y Cenhedloedd Unedig, 1948). Fel gweithwyr cyfathrebu proffesiynol, mae gennym y pŵer i wella cyfranogiad pawb mewn bywyd o ddydd i ddydd, teuluoedd, cymunedau a chymdeithas. Pan fyddwn yn cefnogi gallu pawb i gyfathrebu, rydym yn cyfrannu at yr 17 Nod Datblygu Cynaliadwy a phum piler Agenda 2030: pobl, planed, ffyniant, heddwch, a phartneriaethau.
Bywgraffiad: Mae Sharynne McLeod, PhD yn Athro Nodedig ym Mhrifysgol Charles Sturt, Awstralia sy’n arbenigo mewn caffael lleferydd ac iaith. Mae ei hymchwil trawsnewidiol wedi ail-fframio'r proffesiwn trwy roi blaendir ar hawliau cyfathrebu a chyfiawnder cymdeithasol, a thrwy wella cyfranogiad teg i blant amlieithog ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae hi wedi eiriol dros hawliau cyfathrebu yn y Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'n Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn Awstralia, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol De Cymru Newydd. Mae hi wedi bod yn Gymrawd Dyfodol Cyngor Ymchwil Awstralia, Benjamin Meaker Athro Gwadd Nodedig ym Mhrifysgol Bryste, ac Athro Gwadd ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion. Gwasanaethoddi hi fel prif olygydd y International Journal of Speech-Language Pathology, ac mae wedi derbyn Anrhydeddau Cymdeithas Clywed-Iaith Lleferydd America ac Aelodaeth Oes o Patholeg Lleferydd Awstralia. Fe wnaeth Papur Newydd Awstralia ei henwi’n Arweinydd Maes Ymchwil Awstralia a’r Gorau yn y Byd mewn Awdioleg, Patholeg Lleferydd ac Iaith yn seiliedig ar “ansawdd, cyfaint ac effaith” ei hymchwil.
Cyhoeddiadau perthnasol:
McLeod, S. (2018). Communication rights: Fundamental human rights for all. International Journal of Speech-Language Pathology, 20(1), 3–11. https://doi.org/10.1080/17549507.2018.1428687
McLeod, S., & Marshall, J. (2023). Communication for all and the Sustainable Development Goals. International Journal of Speech-Language Pathology, 25(1), 1-8. https://doi.org/10.1080/17549507.2022.2160494