Fy ngwlad:
Paentiad dyfrlliw o blasty gwledig.

Digwyddiadau

Digwyddiadau i Ddod

Cyn-ddigwyddiadau

O’r cychwyn cyntaf buom yn cynnal rhaglen o seminarau ymchwil gyda’r nos ym Mhrifysgol Bangor, a rhoi llwyfan i academyddion a gweithwyr proffesiynol o faes treftadaeth wneud cyflwyniadau ar themâu a phynciau sy’n ymwneud â’n diddordebau. Bu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys chwareli llechi, achau canoloesol ac arian teuluol a rheoli ystadau. Mae’n braf iawn cael cyfle i arddangos ymchwil arloesol academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Bu’r seminarau’n hynod boblogaidd ac mae nifer dda’n bresennol bob amser, yn aml yn denu pobl newydd i Brifysgol Bangor am y tro cyntaf. 

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru hefyd yn cyd-gynnal Darlith Flynyddol Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangoryn gyson.

Rydym yn cymryd ein rôl fel canolfan ymchwil genedlaethol i Gymru gyfan o ddifrif. Bob blwyddyn rydym yn cynnal cynhadledd neu symposiwm mewn rhanbarth gwahanol o Gymru, ac yn canolbwyntio ar ddylanwad ac arwyddocâd y plastai a’r ystadau’n lleol. Yn aml, cynhelir y digwyddiadau hynny ar y cyd â chymdeithas hanes sirol ac fe’u cynhelir yn rheolaidd mewn plastai. Dyma rai o’r digwyddiadau a fu:

  • 2024 - Ymchwilio, Ysgrifennu & Chyflwyno Hanesion Plastai Cymreig
    (Cynhaliwyd ym Mhenpont, mewn partneriaeth gyda Cymdeithas Brycheiniog ac Archif Cylch Crucywel)
     
  • 2022 – Mapio Dwfn Archifau Ystadau
    (Cynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethiol, mewn partneriaeth gyda'r CBHC a Phrifysgol Aberystwyth) 
     
  • 2020 – Yr ystâd diriog yn ne orllewin Cymru 
    (Cynhaliwyd gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin ar Gampws y Drindod Dewi Sant, Sir Gaerfyrddin) 
     
  • 2019 – ‘Cyfoeth o olion o’r oesoedd a fu’ 
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn, ar y cyd â Chlwb Powysland)
     
  • 2018 – ‘Cylchoedd Dylanwad’: Effaith ystadau ar hanes, diwylliant a thirweddau Môn 
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Cadnant, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd)
     
  • 2017 – ‘Cyfiawnder a Llawenydd’: Ystadau Sir Frycheiniog o Safbwynt y Landlord a’r Tenant
    (Cynhaliwyd ym Mhenpont, ar y cyd â Chymdeithas Brycheiniog) 
     
  • ⁠2017 – Plastai a’u hystadau yng Ngheredigion 
    (Cynhaliwyd gan Fforwm Hanes Lleol Ceredigion yn Llwyncelyn, Sir Aberteifi) 
     
  • 2016 – Ailystyried uchelwyr gogledd ddwyrain Cymru 
    (Cynhaliwyd yn Neuadd, Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Sir y Fflint a Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru) 
     
  • 2015 – ‘Sgweieriaid De Cymru’ 
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin) 
     
  • 2014 – ‘Bonheddwyr Mawr o’r Bala’ Ysgol ddydd ar Ystadau Tiriog Penllyn
    (Cynhaliwyd yng Nglan Llyn, Sir Feirionnydd)
  • 2024 – Newid Eryri (whiteBOX, Pontio Bangor)
     
  • 2022 – Mapio Dwfn Archifau Ystadau: Methodoleg Ddigidol Newydd ar gyfer Hanes Pobl a Lle (Bailey Hill, Yr Wyddgrug)
     
  • 2019 – Elizabeth Morgan o’r Henblas (Amgueddfa Storiel, Bangor) 
     
  • 2018–19 – Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry(Prifysgol Bangor a Llyfrgell Bethesda) 
     
  • 2018 – Llawysgrifau Mostyn | # Mostyn100 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth)

Mae gennym gynhadledd flynyddol, ac mae nifer o sefydliadau eraill yn bartneriaid â ni er mwyn cynnal symposia a digwyddiadau cyhoeddus eraill. Mae’r rheiny’n cynnwys:

  • 2024 – Lansiad llyfr: Lowri Ann Rees, The Middleman at Middleton Hall
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor)
  • 2023 – Cipolwg ar Fywyd a Llythyrau y Fonesig Augusta Mostyn
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, ar gyfer Wythnos Archwilio Eich Archif)
  • 2023 – Archif Penrhyn: Planhigfa-Chwarel-Fferm (a phopeth yn y canol)
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor)
  • 2022-23 – Tai Hanesyddol ar gyfer yr 21ain Ganrif: Treftadaeth, Arloesi, Cynaliadwyedd
    (Pum gweithdy thematig dan ofal Neuadd Gregynog)
  • 2022 – Digwyddiadau Cymunedol 'Mapio Dwfn Archifau Ystadau'
    (Yr Wyddgrug, Treuddyn a Llanarmon-yn-Ial)
  • 2021-22 – Gweithdai Hanes ar gyfer y Dyfodol
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor)
  • 2021 – John Ystumllyn: Dathlu Tad Presenoldeb Du yng Ngogledd Orllewin Cymru
    (Ar-lein, mewn partneriaeth â Race Council Cymru)
  • 2021 – Gwyl Being Human 2021: Penrhyn mewn Barddoniaeth 
    (Cynhaliwyd png Nghastell Penrhyn)
  • 2019 – Darllen, Ysgrifennu, a Chasglu: Llyfrau a Llawysgrifau yng Nghymru, 1450–1850
    (Cynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu)
  • 2019 – Lansio llyfr: J. Gwilym Owen a Peter Foden, The Penrhyn Entail
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor) 
  • 2018 – Patrymau Patriarchaidd? Swyddogaethau a phrofiadau merched ar ystadau tiriog Cymru
    (Cynhaliwyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y cyd ag Archif Menywod Cymru) 
  • 2018 – Symposiwm Llawysgrifau Mostyn 
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 
  • 2018 – Rheoli Coetiroedd yng Nghymru: Y Gorffennol, Y Presennol, Y Dyfodol; Treftadaeth, Rheolaeth a Chynaliadwyedd 
    (Cynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor a Woodland Heritage) 
  • 2018 – Digwyddiadau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Phroject Penrhyn: Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry 
    (Cynhaliwyd mewn lleoliadau a safleoedd ledled Dyffryn Ogwen) 
  • 2017 – ‘Mesur y Meysydd’ – Carto Cymru 2017: Symposiwm Mapiau Cymru 
    (Cynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar y cyd â RCAHMW) 
  • 2017 – Lansio llyfr: Bettina Harden, The Most Glorious Prospect
    (Cynhaliwyd ym Mhlas Glyn y Weddw) 
  • 2017 – Peter Lord: Portreadu Pobl Môn
    (Cynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ar y cyd â Chymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd) 
  • 2016 – Lansio llyfr: Philip Nanney Williams, Nannau: A Rich Tapestry of Welsh History
    (Cynhaliwyd yn Neuadd Cors y Gedol)