Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt
Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy'n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i'w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.
Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'u rhieni, yn ogystal â phobl sy'n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws - a thu hwnt.
Lansiwyd y fersiwn gyntaf o'r gwirydd sillafu Cymraeg - CySill - yn 1988. Hyd yma, bu rhaid i ddefnyddwyr dalu am drwydded i ddefnyddio'r feddalwedd, sydd bellach yn cynnwys geiriaduron a gwirydd gramadeg, ar eu cyfrifiadur Windows.
Ond o heddiw ymlaen, gall unigolion, ysgolion a sefydliadau sy'n cyflogi llai na 10 o bobl lwytho'r pecyn i lawr a'i ddefnyddio am ddim.
Daw hyn fel rhan o becyn o gefnogaeth i helpu plant a'u teuluoedd, a'r cyhoedd yn gyffredinol, i ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio gartref yn ystod yr argyfwng presennol.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhyddhau i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ystod y pandemig coronafeirws, ac mae Cysgliad am ddim yn un ohonynt.
Meddai: "Rwy'n arbennig o falch fod Cysgliad yn awr ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau bychain, o ganlyniad i'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor.
"Bydd hyn o fudd mawr yn arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â'u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg, yn ogystal â'r disgyblion eu hunain, busnesau bychain, elusennau ac eraill sy'n defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd."
Ychwanegodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor: "Roedden ni’n gwybod o adborth defnyddwyr dros y blynyddoedd fod Cysgliad yn declyn hynod werthfawr i bobl sy'n ysgrifennu a defnyddio'r Gymraeg - ac mae'n help mawr i gynyddu hyder.
"Rydyn ni’n falch iawn fod y drwydded am ddim ar gael i helpu pobl sy'n dysgu, addysgu a gweithio gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o bobl o bob oed yn llwytho Cysgliad i lawr ac yn defnyddio'r feddalwedd, ac yn cael mwy o hyder i ddefnyddio'r iaith o wneud hynny."
Mae Anest Heulfryn Smith, sy'n 11 oed ac fel arfer yn mynychu Ysgol Gynradd Bontnewydd, wedi bod yn defnyddio Cysgliad tra'n derbyn addysg gartref. Meddai: "Da ni'n defnyddio Cysgliad yn yr ysgol ac mae'n help mawr i wirio fy sillafu.
"Dwi hefyd yn hoffi defnyddio'r geiriadur a'r thesawrws i wella fy ngeirfa a dod o hyd i ffyrdd mwy diddorol o ddisgrifio pethau pan dwi'n sgwennu. Mae'n dda bod plant fel fi yn gallu defnyddio Cysgliad gartef i helpu gyda'n gwaith ysgol."
Mae Tim Albin o Gwm-y-Glo yn rhedeg asiantaeth brandio a dylunio. Mae ar hyn o bryd yn addysgu ei ddau fab, Oscar, 14 a Milo, 10, gartref tra hefyd yn rhedeg y busnes. Meddai Tim: "Mae Cymraeg yn ail iaith i mi, felly mae'n wych cael rhywbeth ymarferol fel hyn i fy helpu i helpu'r hogiau gyda'u pynciau cyfrwng Cymraeg tra mae'r ysgolion yn dal ar gau.
"Mae'r pecyn hefyd yn ddefnyddiol iawn pan dwi'n gweithio ar brosiectau dwyieithog i gleientiaid, trwy fedru gwirio fy iaith a gramadeg wrth wneud tasgau fel datblygu cysyniadau a drafftio negeseuon e-bost."
I lwytho Cysgliad i lawr am ddim, ewch i www.Cysgliad.com
Mae Cysgliad yn rhedeg ar ddyfeisiadau Windows 7, 8 a 10. Gall defnyddwyr MacOS a Linux ddefnyddio adnoddau ar-lein sydd ar gael ar wefan Cysgliad.