
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr 20fed gwobrau LawWorks a’r Twrnai Cyffredinol sy’n dathlu gwaith pro bono a wneir gan fyfyrwyr yn y categori ‘Best new pro bono activity’.
Mae'r gwobrau mawreddog hyn, gyda chefnogaeth y Twrnai Cyffredinol ac a noddir gan Lexis Nexis, yn cydnabod cyfraniadau pro bono rhagorol gan fyfyrwyr y gyfraith ac ysgolion y gyfraith, gan dynnu sylw at eu heffaith gadarnhaol ar y rhai sydd angen cymorth cyfreithiol.
Dywedodd Tracey Horton, Cyfarwyddwr Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor ac Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith, "Mae cael cyrraedd y rhestr fer yn dyst i ymroddiad ac ymrwymiad myfyrwyr a staff y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wrth ddarparu cymorth cyfreithiol amhrisiadwy i'r gymuned. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at ymdrechion parhaus y Clinig i wella mynediad at gyfiawnder a darparu profiad ystyrlon yn y byd go iawn i fyfyrwyr."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher, 23 Ebrill, a fydd yn cael ei fynychu gan y Twrnai Cyffredinol, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Hermer KC.