Mae Prifysgol Bangor yn gwahodd cyflenwyr sydd â diddordeb i ddigwyddiad ymgysylltu 'Gwasanaethau Cynnal a Chadw Ystadau' ar ddydd Mercher, 30 Ebrill 2025, a gynhelir ar safle’r Brifysgol ym Mangor.
Mae'r Brifysgol yn paratoi i lansio proses i dendro am ystod o wasanaethau cynnal a chadw ystadau, gan gynnwys cynnal a chadw adweithiol, mân waith a phrojectau bach, ac elfennau dethol o waith cynnal a chadw tir a chynlluniedig, ar draws ei safleoedd ym Mangor, Ynys Môn, Abergwyngregyn a Wrecsam.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ddarpar gyflenwyr:
- Ddysgu mwy am weithio gyda Phrifysgol Bangor
- Deall cwmpas y gwasanaethau gofynnol
- Ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol o’n timau Ystadau a Chaffael
Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud eto ynghylch sut y caiff y caffaeliad ei strwythuro'n 'lotiau'. Mae’n bosibl y bydd mwy nag un lot o ddiddordeb i gyflenwyr sydd â’r gallu i gyflenwi ar draws sawl maes gwasanaeth.
Anogir cwmnïau sydd ag arbenigedd mewn gwaith mecanyddol, trydanol, cynnal a chadw adeiladwaith adeiladau, mân waith, cynnal a chadw tiroedd a gwaith project cysylltiedig i gofrestru eu diddordeb.
I gofrestru diddordeb neu am fwy o fanylion, cysylltwch â Jane Hulmston, Rheolwr Categori Caffael j.hulmston@bangor.ac.uk.
Bydd diweddariadau a gwybodaeth bellach hefyd ar gael drwy GwerthwchiGymru.