Lansio Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf Rhithwir i helpu myfyrwyr i ddod yn entrepreneuriaid yn y byd go iawn
Enillodd 58 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd ag uchelgeisiau entrepreneuraidd cyfle am ddim i gymryd rhan mewn wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar-lein, i helpu i roi cychwyn i’w syniadau busnes.
Mae’r Wythnos unigryw yn cychwyn ddydd Llun 8 Mehefin am bum diwrnod o ysbrydoliaeth, dysgu a rhwydweithio a fydd yn troi syniadau yn fusnesau, mentrau cymdeithasol a gyrfaoedd llawrydd. Roedd yn agored i bron i 500 o fyfyriwr cyfredol neu sydd wedi astudio mewn sefydliad Cymreig.
Gan fod y pandemig coronafeirws wedi arwain at amseroedd digynsail i bobl sy'n byw yng Nghymru ac ar draws y byd, gyrrwyd a lansiwyd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf ar y cyd gan holl Golegau a Phrifysgolion Cymru i sicrhau y gall pobl ifanc sydd wedi'u gwahanu gan bellter cymdeithasol ymuno â chymuned cychwyn busnes rhithwir a pharhau i ddatblygu eu syniadau.
Mae’r wythnos yn cael ei rhedeg gan entrepreneuriaid ac arbenigwyr busnes profiadol, gan gynnwys Katy Hayward o'r fferm fêl a'r ganolfan addysg Felin Honeybees, Teresa Carnall o TBC Marketing, Bae Colwyn, Chris Walker o People Systems International, Anglesey, Sid Madge o Mad Hen Ltd, Gwynedd a Kath Lewis mentor busnes o Landudno.
Bydd cymysgedd o weminarau byw dyddiol a sesiynau Holi ac Ateb yn ymdrin â phynciau perthnasol fel ymchwil marchnad, cyllid, marchnata digidol a rhwydweithio, gan helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau ac ennill gwybodaeth a chysylltiadau i droi eu syniadau yn fusnesau hyfyw neu'n fentrau cymdeithasol. Bydd dros ugain o entrepreneuriaid o Gymru yn cymryd rhan ac yn rhannu eu gwybodaeth cychwyn busnes, a disgwylir i'r wythnos gynnal hyd at 500 o gyfranogwyr.
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau mae Alana Spencer, perchennog busnes melysion Ridiculously Rich. Bydd Alana, enillydd The Apprentice ar BBC One yn 2016, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, yn rhannu ei phrofiad busnes a’i chyngor ei hun i’r myfyrwyr a’r graddedigion sy’n cymryd rhan.
Meddai Emma Forouzan, Rheolwr Menter Myfyrwyr yn PDC a Chadeirydd Wythnos Cychwyn Busnes yr Haf: "Mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru, rydym yn gweld yn uniongyrchol feddyliau entrepreneuraidd eithriadol llawer o'n myfyrwyr ac rydym yn chwilio'n barhaus am ffyrdd i feithrin a chefnogi'r myfyrwyr hynny sydd â syniadau busnes cryf. Hyd yn oed yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n bwysig i bobl ifanc uchelgeisiol sydd â chysyniad busnes feddwl am eu hopsiynau a manteisio ar y gefnogaeth am ddim sydd ar gael iddynt.
Trwy'r cydweithrediad hwn o sefydliadau ledled Cymru, rydym yn bachu ar y cyfle i feithrin cymuned ar-lein genedlaethol, sy'n llawn syniadau a brwdfrydedd, sy'n gysylltiedig â'r cyfoeth o gefnogaeth cychwyn busnes sydd ar gael yma yng Nghymru.