Prosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor yw’r peiriant REMEDY a hynny mewn cydweithrediad â’r gwneuthurwr, y cyflenwr a Phrifysgol Rhydychen. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgu am ddulliau posibl o gyflenwi meddyginiaethau brys mewn lleoliadau gwledig yn y dyfodol.
Mae pobl ardal Dolgellau a’r cyffiniau sy'n cysylltu â GIG 111 y tu allan i oriau ac angen meddyginiaeth frys yn cael cynnig i’w chasglu o'r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau.
“Mae’r claf yn cael cod unigryw er mwyn gallu casglu ei feddyginiaeth o’r peiriant yn yr ysbyty cymunedol” meddai Dr Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol y Bwrdd Iechyd
“Mae’n drefn syml iawn a bydd o fudd mawr iawn i boblogaeth ardal Dolgellau sydd gryn bellter o wasanaethau eraill, yn enwedig felly gyda’r nos ac ar benwythnosau.
“Rydym ni a Phrifysgol Bangor wedi cydweithio mewn ffordd gadarnhaol iawn i archwilio dulliau arloesol i geisio sicrhau tegwch o ran mynediad at feddyginiaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd.”
Bydd y treial hwn, a ariennir gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru, yn cael ei chynnal am ddwy flynedd ac, mae’n cael ei arwain gan Dr Rebecca Payne a’r Athro Dyfrig Hughes ynghyd â Dr Mackridge,
Dywedodd Dr Payne, Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ac Academydd Clinigol, Prifysgol Bangor: “Mae’r peiriant hwn wedi’i ddatblygu’n benodol ar gyfer y prosiect. Ac mae’r gwneuthurwr, Videosystems, a’r cyflenwr, Omnicell, yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd. Er iddo gael ei addasu o dechnoleg a oedd yn bodoli eisoes, dyma’r tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas hwn yn unrhyw le yn Ewrop.
“Mae’n wych gweld mai yma yng Ngogledd Cymru mae’r datblygiadau technolegol arloesol yma’n digwydd. Gall hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig fel Dolgellau.”
Ychwanegodd yr Athro Hughes, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Feddygol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor: “Mae gwneud meddyginiaethau’n fwy hygyrch i gleifion yn hanfodol i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau brys a’r gwasanaeth y tu allan i oriau. Bydd ein hastudiaeth yn gweld a yw’r peiriant REMEDY yn rhoi gwerth da am arian, o ystyried yr angen i graffu ar fuddsoddiadau’r maes gofal iechyd yn ystod y cyfnod anodd hwn o safbwynt ariannol.”
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni a Chyd-gyfarwyddwr Dros Dro yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym yn falch o allu darparu cyllid unwaith eto ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ac unigolion er mwyn cynnal gwaith ymchwil i ddiwallu anghenion iechyd a gofal ein cymunedau.”