Sut mae'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar ein defnydd o lecynnau gwyrdd?
Rydym yn gwybod bod cael mynediad at lecynnau gwyrdd a natur yn effeithio ar ein hwyliau a hyd yn oed ar ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid ein mynediad at y llecynnau hyn. Pa effaith caiff hyn ar ein lles? A beth all hyn ddweud wrthym am bwysigrwydd mannau o'r fath a phrofiadau gwahanol grwpiau economaidd yn ein cymdeithas?
Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill grant gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU i ateb rhai o’r cwestiynau hyn.
Roedd Rachel Dolan, myfyrwraig PhD yn yr ysgol eisoes yn gweithio ar ddefnydd o lecynnau gwyrdd yng Nghymru a sut mae hyn yn amrywio ar sail newidynnau cymdeithasol-ddemograffig. Ym mis Ionawr, cynhaliodd arolwg gyda sampl gynrychioliadol o 1,000 o bobl yng Nghymru.
Meddai Rachel Dolan:
“Rydym yn gwybod bod treulio amser yn yr awyr agored mewn llecynnau gwyrdd fel gerddi, parciau, traethau neu goedwigoedd yn bwysig iawn i’n lles. Ond nid oes gan bawb yr un mynediad i lecynnau gwyrdd. Mae mynediad yn ddibynnol ar ble rydych yn byw, ond mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd eraill fel arian yn bwysig hefyd; mae’n debyg bod gan bobl fwy cefnog fynediad haws i lecynnau gwyrdd, lle bynnag maent yn byw, er enghraifft.”
Yn ôl Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn arwain y project:
“Mae profiadau pobl yn ystod y misoedd diwethaf gyda Covid-19 wedi pwysleisio pa mor bwysig yw treulio amser yn yr awyr agored. Mae’r argymhellion ledled y DU wedi annog ymarfer corff yn yr awyr agored, er bod gwledydd eraill wedi cyfyngu ar y gallu i wneud hyn yn sylweddol iawn.
Yn sicr, rwyf wedi cael budd o dreulio amser ym myd natur yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn.”
Meddai Simon Willcock, Uwch Ddarlithydd Daearyddiaeth Amgylcheddol:
“Rydym eisiau gweld os yw ymwneud pobl â byd natur wedi newid ers y cyfyngiadau symud, ac ym mha ffordd. A yw pobl efallai'n mynd i leoedd sy'n agosach at adref yn amlach? Neu a yw pobl yn aros yn eu gerddi? Beth am bobl sydd heb ardd? Sut mae’r newidiadau i fynediad i lecynnau gwyrdd yn gwneud i bobl deimlo? Sut mae hyn yn newid yn ôl lle mae pobl yn byw a’r ffactorau economaidd a chymdeithasol holl bwysig?”
Nod yr ymchwil yn y pendraw yw darparu gwybodaeth a all gyfrannu at ddatblygiad polisïau ar lefel lleol a chenedlaethol.
Cyllidir yr astudiaeth gan yr ESRC, Cwmni’r Brethynwyr, Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a’r bwriad yw cwblhau’r gwaith erbyn mis Medi 2021