Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth
Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno.
Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.
Derbyniodd yr Athro Williams wahoddiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, i gadeirio gweithgor newydd ‘Cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd’.
Yn 2007, dyfarnwyd OBE i’r Athro Williams fel rhan o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am ei gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig a chyfleoedd cyfartal yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Williams:
“Dw i wrth fy modd yn cael arwain y gweithgor, ac mae’n anrhydedd imi gael gwneud, er mwyn hyrwyddo’r newid hwn i wneud hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o broses ddysgu bob dydd pob plentyn yng Nghymru. Y nod yw bod y cwricwlwm newydd yn esiampl ddisglair o sut y gellir hwyluso dysgu ac addysgu ynghylch ystod eang o gyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ddoe a heddiw, gan ddarparu’r adnoddau angenrheidiol.
“Yr her yw sicrhau bod presenoldeb gan bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ym mhob rhan o gwricwlwm newydd Cymru, fel bod modd inni glywed eu lleisiau, a gwybod am eu profiadau, eu hanes a’u cyfraniadau, ddoe a heddiw, ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.
“Mae hyn yn galw am adnoddau priodol, gan ein bod am i holl athrawon Cymru allu ailystyried eu deunyddiau a theimlo’n hyderus o ran sut i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r presenoldeb hwn. Mae’n nod cyffrous iawn. Yn y pen draw, bydd ein cwricwlwm yng Nghymru yn adlewyrchu ein profiad cyffredin o gymdeithas amlddiwylliannol gynhwysol, egnïol.
“Mae gyda ni hanes cyfoethog yng Nghymru, a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth.
“Nid mater o ychwanegu elfen o hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yma ac acw yn y cwricwlwm newydd yw hyn, ond ailddychmygu dysgu ac addysgu holl elfennau’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n adlewyrchu Cymru sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd, yn rhyngwladol o ran ei bydolwg, ac yn flaengar o ran ei dyheadau – rhywbeth sydd wedi bod yn wir erioed.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Ein hamrywiaeth yw un o’n cryfderau fel cenedl, ac mae ein hanesion lu wedi cyfuno i greu Cymru heddiw.
“Dw i wrth fy modd y bydd yr Athro Williams yn arwain y gwaith pwysig hwn, ac edrychaf ymlaen at weld argymhellion y grŵp.”
Bydd y gweithgor yn adolygu’r adnoddau sydd eisoes ar gael i gefnogi’r gwaith o addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a chynefinoedd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm. Bydd y grŵp hefyd yn adolygu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol a’r adnoddau cysylltiedig. Bydd gwaith y gweithgor yn gysylltiedig iawn ag adolygiad Estyn, yr arolygiaeth addysg, o hanes Cymru.
Bydd y grŵp yn cyflwyno ei ganfyddiadau cychwynnol yn yr hydref, ac adroddiad llawn yn y gwanwyn.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Dw i’n falch iawn bod yr Athro Williams wedi cytuno i gadeirio’r gweithgor.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld argymhellion y grŵp ynghylch adnoddau dysgu i gefnogi’r gwaith o addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau, cynefinoedd a chyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
“Mae stori Cymru yn gyfuniad o liaws o straeon. Rhaid inni ddeall a dadansoddi ein cynefin ein hunain, a gwneud y cysylltiadau hynny ar draws ein cymunedau, ein cenedl a’r byd. Nid mater o ystyried hanes fel pwnc yw hyn. Mae’n fater o iaith, llenyddiaeth, daearyddiaeth a chymaint mwy.
“Bydd y grŵp hwn yn goruchwylio’r broses o ddatblygu’r adnoddau dysgu newydd cyn i gwricwlwm newydd Cymru gael ei gyflwyno’n raddol yn 2022.”