Datganiad: Canlyniadau safon Uwch ar sail Graddau Canolfannau Asesu bosib
Yn dilyn y newidiadau i ganlyniadau Safon Uwch, hoffem sicrhau ein holl ymgeiswyr, os ydych wedi derbyn lle gennym, yna nid oes genych ddim i’w boeni amdano. Rydym yn falch bod y rhai hynny sydd wedi derbyn gwellhad i’w Graddau Canolfan Asesiad wedi derbyn cydnabyddiaeth o’u gwaith caled, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ym Mangor fis Medi.
I’r rhai hynny a derbyniodd gynnig o gwrs amgen, yna byddwn yn asesu eich ceisiadau os oes diwygiad i’ch Graddau Canolfan Asesiad. Ein cyngor yw cysylltu â ni unwaith yr ydych wedi derbyn cadarnhad swyddogol o’r graddau drwy e bostion derbyniadau@bangor.ac.uk
Rydym yn ymwybodol fod hyn wedi bod yn gyfnod heriol dros ben i nifer o fyfyrwyr a bod yna dryswch a siomedigaeth wedi bod dros y ffordd y rheolwyd dyfarnu graddau myfyrwyr.Rydym yn dal i groesawu ceisiadau Clirio ac mae gennym dîm cyfeillgar ac ymroddgar ar gael ar ein Llinell Clirio i gynghori ymgeiswyr ar 0800 085 1818.
Rydym bob tro yn hyblyg yn ein hymdriniaeth gan roi ystyriaeth i lwyddiannau a photensial pob unigolyn wrth drafod llefydd Clirio.
I’r rhai hynny sydd eisoes wedi derbyn cynigion gennym drwy Glirio, rydym yn ymwybodol y byddech yn ystyried eich opsiynau yng ngoleuni'r newidiadau i raddau Safon Uwch. Y cyngor o UCAS yw siarad gyda’ch prifysgol wreiddiol am eich lle dewis cadarn gyntaf - yn y cyfamser bydd eich lle ym Mangor drwy Glirio yn cael ei gadw ar eich cyfer chi.