Steve Backshall i ymuno â'r tîm dysgu ym Mhrifysgol Bangor
Bydd y cyflwynydd teledu a'r fforiwr, Steve Backshall, yn traddodi cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Steve Backshall yn adnabyddus am raglenni fel Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live, a bydd yn dysgu'r myfyrwyr am gadwraeth, sŵoleg a'r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt.
O ran pam y dewisodd ddysgu ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Steve Backshall: “Ar ôl bwrw golwg dros lawer o brifysgolion mi sylweddolais i, pe cawn i fy amser eto, y byddwn i wedi bod eisiau dod i Brifysgol Bangor.
“Mae'r addysgu a'r cyrsiau y mae Bangor yn eu cynnig heb eu hail - ac mae ei ffocws ar sŵoleg yr 'anifail cyfan' yn allweddol inni allu deall byd natur yn well."
“Mae Gogledd Cymru hefyd yn un o fy hoff lefydd, ac rydw i’n ymweld â’r ardal yn rheolaidd, felly mae ymuno â Phrifysgol Bangor yn ddewis naturiol imi,” ychwanegodd.
Bydd yr uwch ddarlithydd, Dr Christian Dunn, yn ymuno â Steve yn ystod ei sesiynau ym Mhrifysgol Bangor.
“Ni allaf bwysleisio digon mewn gwirionedd pa mor wych fydd hi i’n myfyrwyr gael darlithoedd gan Steve Backshall,” meddai Dr Dunn.
“Mae ei wybodaeth a’i brofiad o sŵoleg a chadwraeth gyda'r gorau yn y byd ac rydym yn hynod falch o weithio gyda chyflwynydd mor frwd.
“Yr unig anhawster inni yw sicrhau bod yr amserlen yn addas ar gyfer gwaith ffilmio Steve oherwydd, fel y gallwch ddychmygu, mae galw mawr amdano!” Ychwanegodd Dr Dunn.
Ar hyn o bryd mae Steve yn gweithio ar gyfres o raglenni dogfen cadwraethol am Siarcod gyda SKY TV, ac er ei fod yn brysur, mae cynlluniau ar waith nawr i Steve roi cyfres o ddarlithoedd i fyfyrwyr o'r Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg (CoESE).
Dywedodd rheolwr marchnata'r Coleg hwnnw, Stevie Scanlan: “Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i roi'r profiad dysgu gorau posib i'n myfyrwyr, ac mae cael Steve Backshall i gymryd rhan yn y tîm addysgu yn sicr yn gwneud hynny.
“Mae pawb yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Steve - ac yn llawn cyffro am y dyfodol!”
Dywedodd Deon y Coleg, yr Athro Morag McDonald: “Yn sicr bydd darlithoedd Steve ymhlith y mwyaf poblogaidd eleni - ac rydyn ni eisoes yn trafod sut i adeiladu ar hynny; gyda chysylltiadau byw â Steve o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve dros y blynyddoedd!"