Hwb ariannol ar gyfer ymchwil i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy'r môr yng Nghymru
Bydd sector diwydiannol a ystyrir yn hanfodol i ddatblygu economi gynaliadwy yng Nghymru yn cael hwb pellach trwy dderbyn £1.5M ychwanegol o gyllid UE gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn ymestyn ymchwil ac arloesedd i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy'r môr yn nyfroedd Cymru. Bydd yr estyniad i'r bartneriaeth SEACAMS2 rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe yn golygu y gall ymchwil barhau tan 2022. Bydd y gwaith yn cyfrannu at y sector carbon isel, ynni a'r amgylchedd.
Meddai'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd , Jeremy Miles:
“Mae cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy nid yn unig yn hanfodol wrth greu economi carbon isel a chyfrannu at her fyd-eang newid hinsawdd, mae hefyd yn rhoi cyfle gwirioneddol i Gymru fod ar flaen y gad mewn diwydiant mawr sy'n dod i'r amlwg.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau cyllid newydd gan Lywodraeth y DU i gefnogi twf a swyddi yng Nghymru yn dilyn ein hymadawiad o’r UE.”
Dywedodd cyfarwyddwr SEACAMS2, yr Athro Lewis Le Vay ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn arweinydd byd-eang yn natblygiad cynhyrchu ynni carbon isel o ddyfroedd yr arfordir ac ar y môr. Mae'r cyllid newydd hwn yn gyfle cyffrous i gynyddu buddion SEACAMS2, sydd ers 2015 wedi bod yn helpu i ddatgloi potensial ynni adnewyddadwy'r môr trwy bartneriaethau ymchwil ar y cyd gyda diwydiant adnewyddadwy Cymru. Rydym yn awr yn gweithio i gyflawni amrywiaeth o brojectau ymchwil ac arloesi ychwanegol ar y cyd a all helpu i gefnogi twf yn yr economi morol yn ystod y cyfnod pwysig hwn i adfer yr economi.”
Ychwanegodd yr Athro Kam Tang, Prif Ymchwilydd SEACAMS2 ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae hyn yn ein galluogi i barhau â'n gwaith partneriaeth i gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy'r môr a'r sector nwyddau a gwasanaethau ledled Cymru. Bydd yr arian yn ein galluogi i gyflawni projectau gan gynnwys cefnogi datblygu cynnyrch, modelu ynni'r llanw a chasglu'r dystiolaeth amgylcheddol a data gwyddonol ar gyfer arloesi a dadrisgio.”
Meddai Jess Hooper, Rheolwr Rhaglen Ynni'r Môr yn Ynni Môr Cymru: