Academydd o Brifysgol Bangor yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough
Y llynedd, datgelodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig fod tua miliwn o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad o ddifodiant. Mae rhaglen newydd gan y BBC, Extinction: The Facts, yn mynd y tu hwnt i emosiwn i ymchwilio i'r hyn y mae colli a difodiant bioamrywiaeth yn ei olygu - nid yn unig i'r blaned ond i ni fel rhywogaeth.
Roedd Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth yn yr Ysgol y Gwyddorau Naturiol, yn ymddangos ymhlith rhai o brif wyddonwyr y byd yn y rhaglen hon a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough.
Mae'r rhaglen yn datgelu sut y mae'r argyfwng hwn yn arwain at ganlyniadau i bob un ohonom, gan fygwth diogelwch bwyd a dŵr, lleihau ein gallu i reoli ein hinsawdd a hyd yn oed ein rhoi mewn mwy o berygl o glefydau pandemig. Mae'n archwilio'r hyn sy'n digwydd i'r byd naturiol - sut mae gweithgarwch dynol yn gyrru difodiant a pham nad ydym wedi gweithredu'n gynt i atal y colledion hyn. Gyda'r byd ar drobwynt critigol, mae Extinction: The Facts yn gofyn beth y gall llywodraethau, diwydiannau a ni fel unigolion ei wneud yn awr i newid ein hynt.
Dywedodd yr Athro Julia Jones:
"Roedd yn bleser bod yn rhan fach o Extinction: The Facts. Mae gwneuthurwyr y rhaglen wedi gwneud gwaith gwych o esbonio pa mor wael yw pethau i fioamrywiaeth ein planed, pam mae hyn yn bwysig i bob un ohonom, a beth sydd angen ei newid. Mae'r rhaglen yn egluro'n hyfryd yr holl gydgysylltiadau sydd yn ein byd naturiol a'n bod yn rhan o'r system honno.
"Mae hon yn rhaglen hynod bwysig, a rhyfeddol o radical, sy'n ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anodd: bod colli bioamrywiaeth ledled y byd yn gysylltiedig â'n gorddefnydd ein hunain. Mae'n dangos yn berffaith bod gwyddoniaeth cadwraeth yn bwnc rhyngddisgyblaethol sy'n gofyn am ddealltwriaeth o sŵoleg ac ecoleg ond hefyd yn ymgorffori dealltwriaeth o economeg, polisi a chyfraith.
"Byddwn yn annog ein holl fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr i wylio'r rhaglen. Dyma'r cyflwyniad perffaith i'r cyrsiau cadwraeth rydym yn cynnig yma ym Mangor."
Derbyniodd Syr David Attenborough un o Raddau Anrhydeddus cyntaf Prifysgol Bangor ym mis Mehefin 2009 i nodi pen-blwydd y Brifysgol yn 125 mlwydd oed. Astudiodd tad Syr David yng Ngholeg Normal ym Mangor, a threuliodd y teulu lawer o wyliau teuluol yn yr ardal.
Darlledwyd Extinction: The Facts, rhaglen ddogfen awr ar gyfer BBC One, nos Sul 13 Medi, am 8pm.
Mae ar gael i'w wylio ar BBC iPlayer.