Menter newydd i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i arloesi er mwyn adfer
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu hyd at 75% o Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (a elwir hefyd yn KTPs) i fusnesau bach a chanolig, gan alluogi mwy o fusnesau i fanteisio ar raglen arloesi fwyaf blaenllaw'r DU.
Wrth groesawu’r newidiadau hyn dywedodd Rheolwr KTP Prifysgol Bangor, Tudur Williams:
“Trwy ddefnyddio ymchwil sy’n arwain y byd ym Mhrifysgol Bangor, gall busnesau wella eu cystadleurwydd, eu cynhyrchiant a’u perfformiad. Mae'r cynllun KTP yn cefnogi partneriaeth gyda'r brifysgol sy'n caniatáu i fusnesau fanteisio ar y wybodaeth, y dechnoleg a'r sgiliau diweddaraf sydd eu hangen yn ystod y cyfnod economaidd heriol hwn."
Meddai'r Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Bangor:
“Mae KTP wedi bod yn rhaglen hynod bwysig i ni ym mhob ffordd. Mae'r gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd yn ganolog i'n darpariaeth i fusnesau yn y cyfnod hwn o adferiad economaidd. Mae'n fan cychwyn i elwa ar y wybodaeth a'r sgiliau ym Mhrifysgol Bangor ac rwy'n annog cwmnïau i gysylltu â ni i weld sut y gallai fod o fudd iddynt”.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn rhan greiddiol o ddarpariaeth ymchwil a datblygu ac arloesi yng Nghymru i fusnesau, a nod y fenter hon yw gwneud cynlluniau KTP yn fwy hygyrch a chost-effeithiol i fusnesau bach a chanolig ac annog mwy o fusnesau i fanteisio ar y rhaglen. Yn y sefyllfa economaidd anodd sydd ohoni, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau projectau KTP sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac yn cael eu cymeradwyo i gymryd rhan yn y rhaglen KTP. Disgwylir i fusnesau bach a chanolig fel arfer gyfrannu 33% o gyfanswm costau'r project, ond bellach dim ond 25% y bydd disgwyl i fusnesau cymwys yng Nghymru ei gyfrannu.
Mae projectau KTP, a'r Management-KTP newydd, yn helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd, eu cynhyrchiant a'u perfformiad trwy wneud gwell defnydd o wybodaeth, technoleg a sgiliau trwy ddatblygu partneriaeth â phrifysgol neu goleg addysg bellach. Mae partneriaethau ar y cyd yn datblygu'r cynnig i roi sylw i angen busnes penodol a rhaid iddynt gyflwyno eu cynnig i'w asesu rhwng 1 Medi 2020 a 3 Chwefror 2021. Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn fydd yn gymwys i gael y cyllid hwn.
Gall y bartneriaeth amrywio yn ei hyd o flwyddyn i dair blynedd yn unol ag anghenion y busnes. Mae croeso i fusnesau o bob sector wneud cais.
Ceir rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y fenter hon yma.
Dim ond prifysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau ymchwil neu ganolfannau catapwlt yn y DU all gyflwyno projectau. Rhaid i'r swydd a grëwyd gan yr arian gael ei lleoli yng Nghymru i fod yn gymwys am y cyllid hwn.
I ddysgu mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Rheolwr KTP Prifysgol Bangor, Tudur Williams t.t.williams@bangor.ac.uk.