Mam i chwech yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs ugain mlynedd ar ôl dechrau
Mae mam i chwech o blant wedi gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs 20 mlynedd ar ôl iddi roi'r gorau i'w chwrs i gael babi - ac wedi goresgyn heriau'r pandemig coronafeirws ar yr un pryd.
Mae Katherine Cummings, o Goedpoeth, ger Wrecsam, bellach yn dathlu'r ffaith ei bod wedi graddio a'r ffaith bod y babi hwnnw, ei mab hynaf, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cofrestrodd fel myfyriwr nyrsio yn 2000 ond aeth i ddisgwyl ei phlentyn cyntaf ar ôl ei blwyddyn gyntaf - ac ar ôl cael pump o blant eraill, aeth yn ôl i Brifysgol Bangor ac mae hi bellach wedi ennill ei gradd nyrsio.
Mae'n ddathliad dwbl i'r teulu oherwydd bod y bachgen bach hwnnw, Ryan, bellach yn 20 oed ac yn ei ail flwyddyn yng Nghaergrawnt yn astudio Gwyddorau Naturiol.
Ond nid yw wedi bod yn hawdd i Katherine, sy'n 40 oed, y tro hwn ychwaith gan i'r pandemig coronafeirws fygwth difetha ei chynlluniau.
Ganwyd ei merch Sinead, sy'n 18 oed, yn anabl ac mae hi ar restr warchod Covid-19 ac yn aros gartref tra bod ei mam wedi bod ynghanol y frwydr yn erbyn y feirws ar y wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Meddai Katherine: “Roeddwn yn ofnus iawn ynglŷn â'r peth, yn enwedig gan fod fy merch ar y rhestr warchod, felly roedd yn benderfyniad anodd i barhau oherwydd eich bod fel rhiant bob amser yn ceisio rhoi eich plentyn yn gyntaf.
“Ond dyma beth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud erioed a buasai'n rhaid i mi barhau ar ôl cymhwyso beth bynnag - ac roedd wedi cymryd gymaint o amser i mi. Allwn i ddim rhoi'r ffidil yn y to a minnau mor agos.
“Ar ôl dod yn ôl i nyrsio bu raid i mi wneud cwrs mynediad dwy flynedd oherwydd fy mod wedi bod allan o addysg cyhyd a dim ond 16 wythnos oedd ar ôl tan y byddwn yn graddio ar ddiwedd tair blynedd arall.
“Wnes i barhau oherwydd roeddwn i'n gwybod pe bawn i'n cadw at yr holl fesurau diogelu, yna fuaswn i ddim yn dod â'r feirws adref i'r plant.
“Rwy'n cael cawod ac yn newid yn y gwaith, felly dylai unrhyw risg o haint fod wedi mynd gan fy mod yn hollol lân pan fyddai'n mynd i mewn i'r car i yrru adref, ac mae hyn wedi gweithio.”
Mae breuddwyd Katherine wedi ei gwireddu o'r diwedd ac meddai: “Roeddwn i eisiau bod yn nyrs erioed ond rydw i'n meddwl fy mod i'n rhy ifanc y tro cyntaf efallai.
“Mae angen aeddfedrwydd a sgiliau bywyd arnoch chi ond roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod yn nyrs, dyna oedd fy mreuddwyd.
“Rwy’n dod o deulu o nyrsys ar ochr fy nhad, gan gynnwys pedair chwaer sydd i gyd yn nyrsys a gofalwr oedd fy mam, Denise, a phan gafodd ganser roedd rhaid i ni ofalu amdani hi.”
Gan nad yw'r freuddwyd wedi bod yn hawdd i Katherine ei gwireddu, gan ei bod wedi gorfod ymdopi â'i chwrs prifysgol, lleoliadau gwaith a chwech o blant, mae cefnogaeth ei theulu agos wedi bod yn achubiaeth.
Ond mae'n dweud ei bod wedi mwynhau'r cwrs yn fawr a'i hamser ar gampws Wrecsam Prifysgol Bangor a dywedodd: “Mae'r tîm yn un clos iawn yno ac rydych yn dod i adnabod yr holl diwtoriaid yn ogystal â'r myfyrwyr nyrsio.
“Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn o'r bobl sydd wedi bod yn gofalu amdanon ni ac mae Dianne Rimmer, fy nhiwtor personol, wedi bod yn dda iawn.
“Rydw i wedi bod yn debyg i'r cynrychiolydd undeb neu’r fam. Mae'r myfyrwyr eraill yn dod ataf i os oes ganddyn nhw broblem.
“Ar yr un pryd, rydw i wedi cael digon o gefnogaeth gan fy nheulu i gyd gyda’r plant ac mae nhw wedi bod yn dda iawn hefyd.”
Meddai Dianne Rimmer, Darlithydd Gwyddorau Iechyd a chyn-fetron: “Katherine yw’r un sy’n datrys unrhyw broblemau bob amser a hi yw llefarydd y grŵp.
“Hi hefyd yw'r cyntaf i helpu rhywun a'r cyntaf i wirfoddoli mewn dyddiau agored, dyddiau derbyn a dyddiau cyfweld - maen nhw'n dweud os ydych eisiau i rywbeth gael ei wneud, gofynnwch i rywun prysur, ond dydw i ddim yn gwybod sut mae hi'n cael yr amser i wneud pob dim.
“Nid yn unig mae hi'n gwneud ei gwaith a'i lleoliadau, ond mae hi'n gwneud cymaint o weithgareddau allgyrsiol hefyd ac mae hi'n eu gwneud am fod ganddi awydd i helpu pobl ac i roi bobl eraill yn gyntaf."
Mae lleoliadau Katherine wedi cynnwys wardiau meddygol a llawfeddygol yn ogystal ag ar reng flaen y pandemig ac yn fwyaf diweddar, mae hi wedi treulio amser yng ngharchar y Berwyn lle mae hi wedi bod yn rhan o'r tîm sy'n trin y carcharorion.
Meddai Katherine: “Roeddwn wedi disgwyl i'r lle godi llawer mwy o ofn arnaf, ond roedd y tîm gofal iechyd yn y carchar yn wych a chefais groeso mawr yno ac rwy'n teimlo'n rhan o’r tîm.
“Tra roeddwn yn y Berwyn, cafodd adroddiad ei wneud ar y gofal iechyd yno a dywedwyd ei fod yn un o’r goreuon yn y wlad i gyd.”
Mae hi'n cymryd mis o wyliau yn awr cyn dychwelyd i'r gwaith - ac mae ei swydd gyntaf yn ôl yn y Berwyn: “Roeddwn i wrth fy modd yno”, meddai: “Ond ar ôl gweld y gofal a gafodd fy mam ar ddiwedd ei hoes, buaswn yn hoffi bod yn nyrs oncoleg.”
Rhagor o wybodaeth am Brifysgol Bangor