Entrepreneur o Fangor yn ennill Gwobr y Beirniaid yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Newydd Prifysgolion Santander 2020
Bu Jan Lloyd Nicholson, un o raddedigion Prifysgol Bangor a myfyriwr MSc, yn cynrychioli'r brifysgol yn ddiweddar yn rownd gynderfynol Gwobrau Entrepreneuriaid sy'n Dod i'r Amlwg Prifysgolion Santander gyda'i phroject, Henry's Cushion. Roedd dros 80 wedi cystadlu o nifer o brifysgolion partner y banc ac roedd Jan yn un o bedwar cynrychiolydd o Gymru a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol a'r unig un i ennill gwobr. Roedd Henry's Cushion yn un o wyth busnes a gyhoeddwyd fel enillwyr Dewis y Beirniaid yn y rownd gynderfynol gan ennill £1,000 o gyllid cychwynnol gan Brifysgolion Santander.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein ar 29 Medi ac mae'n dilyn rhaglen rithiol a gynhaliwyd dros fisoedd yr haf i ddathlu 10 mlynedd o gefnogi entrepreneuriaeth.Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein ar 29 Medi ac mae'n dilyn rhaglen rithiol a gynhaliwyd dros fisoedd yr haf i ddathlu 10 mlynedd o gefnogi entrepreneuriaeth.
Bu Jan yn cymryd rhan mewn gweminarau bob pythefnos, trafodaethau panel a gweithdai gyda'r nod o helpu'r entrepreneuriaid sy'n dod i'r amlwg i ddeall sut i gael y gorau o'u busnes. Yn ogystal â derbyn hyfforddiant unigol a dysgu rhwng cyfoedion, roedd y profiad addysgol unigryw yn cael ei arwain gan gyfres o fusnesau arloesol a siaradwyr gwadd.
Mae Henry's Cushion yn gymorth addysgol di-eiriau a ddatblygwyd yn dilyn sgwrs rhwng Jan a'i mab awtistig, Henry ac yn sgil cefnogaeth werthfawr tîm Byddwch Fentrus y Brifysgol, yr Ysgol Seicoleg, Syniadau Mawr Cymru, M-SParc a'r Canolbwynt Menter. Mae Jan wedi treulio'r ychydig flynyddoedd diwethaf yn datblygu ac yn mireinio'r cynnyrch i'w gael yn barod i'r farchnad.
Dywedodd Jan;
“Mae'n anrhydedd mawr i mi ennill un o Wobrau Dewis y Beirniaid yng Ngwobrau Entrepreneuriaid Menter Prifysgolion Santander y DU gyda fy nghynnyrch Henry's Cushion. Diolch i Brifysgol Bangor am gael ffydd ynof i'w cynrychioli ac i Brifysgolion Santander am fy helpu i dyfu fel unigolyn ac am y daith wych rwyf wedi'i rhannu gyda chyd-fyfyrwyr ar y rhaglen ddiddorol hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Katherine Lewis, Lowri Owen ac Eirian Griffiths o’r tîm Byddwch Fentrus am eu holl gefnogaeth a’u ffydd ynof”.
“Rwy’n gobeithio y gallaf barhau â’r daith anhygoel hon a helpu eraill,o'r ifanc i'r henoed, a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn ei chael hi'n anodd i gyfleu eu hemosiynau. Gall Clustog Henry arwain at bosibiliadau diri. Nid fy ngwobr i yw hon ond gwobr fy mab clyfar Henry, ac rwy'n lwcus fy mod yn gallu ei gyhoeddi i'r byd a'r betws a byddaf yn parhau i wneud hynny”.
Mae 2020 yn nodi 10fed blwyddyn Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander sydd wedi rhoi dros £500,000 i gefnogi myfyrwyr sy'n dechrau busnesau ledled y DU ac wedi rhoi cyfle i brifysgolion arddangos doniau entrepreneuraidd o bob rhan o'r wlad. Mae'r cyllid a dderbynnir yn uniongyrchol oddi wrth Brifysgolion Santander yn golygu y rhoddir cyllid uniongyrchol i'r busnesau sy'n dod i'r amlwg trwy'r pecyn Cymorth Gwobrau Entrepreneuriaid Santander yn ogystal â chael swyddfa yn yr uned meithrin syniadau yn M-SParc. Mae hyn yn ategu'r cyllid a gafodd y brifysgol gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaid sy'n dod i'r amlwg.
Pwysleisiodd Nathan Bostock, Prif Swyddog Gweithredol Santander y DU, bwysigrwydd hyrwyddo busnesau newydd a dywedodd: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi addysg uwch a meithrin entrepreneuriaeth ymysg myfyrwyr, yn enwedig o ystyried yr amgylchedd heriol presennol i ragolygon gyrfa graddedigion. Mae'n bwysig yn awr mwy nag erioed ein bod yn cefnogi'r rhai sy'n gosod y seiliau ar gyfer busnes wrth astudio ac a all fod ar eu ffordd i'w wneud yn yrfa llawn amser. Llongyfarchiadau i'r enillwyr ac i bawb a gyflwynodd eu syniadau arloesol eleni - roeddent yn wirioneddol ysbrydoledig. ”
Meddai'r Athro Paul Spencer Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi:
“Hoffwn longyfarch Jan ar y llwyddiant trawiadol hwn. Roeddwn yn y Gwobrau Entrepreneuriaid sy'n Dod i'r Amlwg ac roedd safon y cynigion busnes yn uchel iawn. Mae'n hysbyseb gwych i'r doniau entrepreneuraidd ac arloesol sydd gan ein myfyrwyr a'r hyn y gall eu syniadau gwych ei gyflawni gyda chefnogaeth a mentora."
Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan hefyd yn y Rhaglen Rhwydwaith Addysg Uwch Cyflogi Awtistiaeth sy'n cefnogi Myfyrwyr Awtistiaeth i gael mynediad at interniaethau o ansawdd uchel gyda busnesau. Mae'r fenter gyffrous hon wedi ei hariannu'n rhannol gan Brifysgolion Santander a chaiff ei chyflwyno mewn partneriaeth ag Ambitious About Autism a bydd yn sicrhau bod myfyrwyr Awtistiaeth ym Mangor yn cael cyfleoedd pellach i ddangos eu gwerth yn y gweithle. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn dilyn lansiad y rhaglen.