Gwastraff had rêp Gogledd Cymru ar gyfer cynhyrchion harddwch, byrgyrs a phaneli adeiladu
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio ar gynllun Ewropeaidd tair blynedd gwerth £3 miliwn i arbed miliynau o dunelli o wastraff cynhyrchu bwyd rhag cael ei ollwng mewn safleoedd tirlenwi neu yn y caeau.
Eu nod yw troi'r bwyd dros ben nas defnyddiwyd o gnydau ffrwythau, llysiau a grawn o amaethyddiaeth, yn gynhyrchion sy'n amrywio o gemegau ar gyfer y diwydiant bwyd, deunyddiau adeiladu a chynhyrchion harddwch.
Mae Canolfan Biogyfansoddion y Brifysgol yn cydweithredu â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y cewri bwyd Mars a Tate & Lyle, o chwe gwlad wahanol yn yr UE ar y project Pro-Enrich.
Eu cyfran o'r cyllid yw £400,000 o'r 'Bio-based Industries Joint Undertaking', sy'n rhan o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd.
Nod y project yw ychwanegu gwerth at amrywiaeth o weddillion o gnydau a dyfir yn yr UE, gan gynnwys had rêp, orenau, tomatos ac olewydd, gyda llawer ohono'n mynd i safle tirlenwi ar hyn o bryd, yn cael ei ddefnyddio i fwydo anifeiliaid neu'n cael ei adael i bydru yn y caeau.
Maent yn edrych ar ddefnydd newydd ar gyfer y gwastraff o had rêp a dyfir yng Ngogledd Cymru a Denmarc, ac orenau, tomatos ac olewydd o Sbaen a Slofenia.
Mae'r tîm o Fangor wedi bod â rhan allweddol wrth nodi dwysfwyd protein o wastraff had rêp sydd wedi'i bio-buro, i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes, mewn byrgyrs llysiau ac mewn glud ar gyfer pren haenog.
Maent hefyd wedi helpu i ddod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer gwastraff olewydd mewn gofal croen, ac wedi datblygu dull ar gyfer gwahanu hadau tomato o'r sudd a'r mwydion gyda phosibiliadau i'w defnyddio mewn cynhyrchion amddiffyn rhag heneiddio ac eli rhag llosgi efo'r haul.
Dywedodd Dr Adam Charlton, aelod o dîm project y Brifysgol: “Rydym yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio’r gwastraff o gynhyrchu bwyd i wneud amrywiaeth o gynhyrchion defnyddiol mewn ffyrdd sy’n hyfyw yn fasnachol.
“Yn y project hwn rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchion gwastraff amaethyddiaeth a’r sector gweithgynhyrchu bwyd, i ddod o hyd i ddefnyddiau â gwerth newydd ac uwch ar eu cyfer.
“Rydym yn gweithredu fel pont rhwng ymchwil a gynhaliwyd ar raddfa labordy a chynhyrchion masnachol, trwy gydweithredu â diwydiant.
“Nid gweithgynhyrchwyr ydyn ni, ond tîm ymchwil ac arloesi sy’n cymryd syniadau ac yn helpu cwmnïau i’w masnacheiddio.”
Mae Prifysgol Bangor yn rhan o broject sy'n cynnwys 13 cwmni - yn eu plith canolfan gwasanaeth technegol a chyfleuster cymysgu cynhwysion Tate & Lyle yn yr Wyddgrug - o gorfforaethau rhyngwladol i gynhyrchwyr arbenigol yn ogystal â thri sefydliad ymchwil o saith gwlad Ewropeaidd.
Mae partneriaid y project diwydiannol yn cynnwys Anecoop o Sbaen, un o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau mwyaf Ewrop, cwmni peirianneg amgylcheddol Vertech o Ffrainc, busnes deunyddiau adeiladu Chimar o Wlad Groeg, a chwmni biotechnoleg Tailorzyme o Ddenmarc.
Dywedodd Dr Charlton: “Rydyn ni'n gweithio gyda'r sgil-gynhyrchion sy'n seiliedig ar blanhigion o'r diwydiant bwyd sy'n cael eu tanddefnyddio, oherwydd bod ffocws go iawn nawr ar wastraff bwyd, o'r hyn sy'n cael ei daflu gan ddefnyddwyr yn y cartref, i weddillion nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio ar y fferm, yn y cae a'r ffatri.
“Mae'r rhain yn cynnwys cacen had rêp a gynhyrchir yng Ngogledd Ewrop, gweddillion melin olewydd a gynhyrchir yn Ne Ewrop, a gweddillion prosesu tomato a sitrws.
“Rydyn ni eisiau datblygu proteinau sy'n ateb diben sy'n seiliedig ar blanhigion am resymau amgylcheddol, ac rydyn ni'n edrych ar amrywiaeth o ddefnyddiau ar eu cyfer.
Yn ôl Dr Charlton, mae rhai o'r bwydydd dros ben hyn ar ôl prosesu yn cael eu defnyddio wrth gynhyrchu ynni anaerobig ac fel bwyd anifeiliaid. Ond ni chaiff llawer iawn ohono ei ddefnyddio - rhwng traean a chwarter, ac mae'r project wedi'i seilio ar ddod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer y rhain.
Ar draws Ewrop mae aelodau'r tîm yn archwilio'r posibiliadau o ddefnyddio gweddillion planhigion i wneud ystod o wahanol gynhyrchion, gan ddefnyddio proteinau, polyffenolau, ffibrau dietegol a phigmentau i'w defnyddio fel cynhwysion bwyd, bwyd anifeiliaid anwes, colur a gludyddion.
Y nod yw gwneud mwy o ddefnydd o'r gwastraff a gynhyrchir gan y diwydiant bwyd, ond hefyd i leihau faint o gemegau ac egni a ddefnyddir yn y prosesau cynhyrchu.
Mae'n cymharu'r prosesau y maent yn eu harchwilio gyda datblygiad y diwydiant olew, a dywedodd: “Mae bio-fireinio ychydig yn debyg i fireinio olew,, oherwydd eich bod chi'n dechrau gyda deunydd crai ac ar ddiwedd y broses mae gennych chi bob math o gynhyrchion.
“Ar hyn o bryd, prin iawn yw'r bio-burfeydd masnachol oherwydd bod yr ymchwil yn dal yn ei dyddiau cynnar. Felly rydyn ni'n dal i ddatblygu dulliau o ran sut rydym yn prosesu'r gweddillion planhigion hyn, a'u troi'n gynhyrchion.
“Ar yr un pryd â gwneud hyn, rydyn ni'n lleihau'r defnydd o gemegau fel asidau ac alcalïau ac yn lle hynny yn eu disodli efo ensymau sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, y proteinau sy'n digwydd yn naturiol sy'n rheoli prosesau biolegol.
“Mae hyn yn heriol iawn yn dechnegol, yn enwedig o ran graddio’r prosesau hyd at lefelau masnachol. Dyna beth rydyn ni’n ceisio ei wneud yma ar Ynys Môn, oherwydd bod yn rhaid iddo fod yn hyfyw yn economaidd.
“Mae'n glodfawr bod yn rhan o broject fel hwn, a chael y math hwn o arian, oherwydd mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n cynhyrchu gwerth ac yn gweithio gyda phartneriaid oherwydd does dim pwynt gwneud yr ymchwil oni bai bod gennych chi lwybr i'r farchnad.
“Mae'n cael ei ariannu gan yr UE ac mae'n cael cwmnïau a'r byd academaidd i gydweithio, ac mae'n dda bod Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn hyn oherwydd mae cael gafael ar gyllid yr UE yn parhau i fod yn bwysig i ni.”
Am fwy am Brifysgol Bangor ewch i https://www.bangor.ac.uk/ac i gael mwy o wybodaeth am y Ganolfan BioGyfansoddion, ewch i http://bc.bangor.ac.uk/