Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ennill gwobr Efydd Athena SWAN
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod cais diweddar yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig am wobr Efydd Athena SWAN wedi bod yn llwyddiannus.
Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymrwymiad parhaus y brifysgol a'r ysgolion i gydraddoldeb rhywedd staff a myfyrwyr.
Meddai Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig:“Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill gwobr Efydd Athena SWAN i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd. Mae gweithgareddau allymestyn yn greiddiol i'r ysgol ac mae Technocamps Bangor yn rhan annatod o'r ysgol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ers blynyddoedd lawer i ddenu mwy o ferched i'n meysydd pwnc ac rydym wrth ein boddau bod ein gwaith caled yn cael ei gydnabod. Bydd yr ysgol yn parhau i roi lle blaenllaw i gydraddoldeb yn ei gweithgareddau i ehangu cyfleoedd a chyfrannu at gynyddu amrywiaeth ymhlith staff a myfyrwyr”.
Meddai'r Athro Iwan Davies, yr Is-ganghellor, "Hoffwn longyfarch yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar eu cais llwyddiannus. Rwy’n falch iawn bod ysgol arall wedi ennill gwobr Efydd SWAN Athena i gydnabod y gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb rhywedd ym Mangor. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau â'n gwaith yn y maes hwn ac i wneud cydraddoldeb yn rhan greiddiol o bopeth a wnawn."
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hybu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ehangwyd y Siarter yn 2015 i gynnwys pob adran academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Athena SWAN bellach yn cydnabod gwaith a wnaed i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhywedd yn ehangach ac mae’r gwobrau'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd ac amrywiaeth, arferion gwaith rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol yr ydym yn ei hyrwyddo i staff a myfyrwyr ar bob lefel.