Tywysogion, pererinion a chaethwasiaeth - mapio plasdai gogledd ddwyrain Cymru
Mae plasty yn Sir y Fflint o'r 16eg ganrif sy'n eiddo i un o ddisgynyddion tywysogion Cymru ac a oedd unwaith yn westy rhad i bererinion yn y Canol Oesoedd, bellach yn rhan o broject arloesol gwerth £250,000 i olrhain dros 400 mlynedd o hanes gogledd ddwyrain Cymru.
Mae tîm dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol Bangor yn bwriadu olrhain datblygiad pedwar plwyf ar ffiniau Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych trwy edrych ar blastai ac ystadau hanesyddol tirfeddianwyr yr ardal.
Dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw ran o'r DU gael ei harchwilio mewn modd mor fanwl gyda'r nod o gynhyrchu map ar-lein arbennig gyda haenau o wybodaeth hanesyddol i ddangos nid yn unig hanes y bobl ond hefyd y dirwedd rhwng 1500 a 1930 wrth i'r tai roeddent yn byw ynddynt a'r ffordd yr oeddent yn ffermio ac yn gweithio newid y tir.
Mae Neuadd Pentrehobyn, ar gyrion yr Wyddgrug, a adeiladwyd ym 1550 gan deulu Lloyd, yn un o nifer o blastai gwledig yn yr ardal sydd â hanes yn mynd yn ôl canrifoedd. Cafodd ei adeiladu gydag arian yn deillio o byllau glo a mwynfeydd plwm, caethwasiaeth, y fasnach frethyn a lledr ac amaethyddiaeth.
Arweinir y project gan Dr Shaun Evans, o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor, gyda Dr Julie Mathias o Brifysgol Aberystwyth a Scott Lloyd a Jon Dollery o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Bydd yn canolbwyntio ar bedwar plwyf hynafol lle mae Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych yn cwrdd, yr Wyddgrug, Llanferres, Llandegla a Llanarmon yn Iâl, ardal sy'n cynnwys nifer fawr o blastai.
Meddai Dr Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru: “Mae gan yr ardal hon nifer anhygoel o’r ystadau hyn, rhai cymharol fach ond hirsefydlog, fel Bodidris, Colomendy, Gelligynan, Gwysaney, Hartsheath, Leeswood, Nercwys, Rhual, Pentrehobyn, Plas Onn, Plas Teg a Tower.
“Mae yna lawer iawn o ddeunydd archif yn deillio o’r ystadau hyn, mae llawer ohono yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ym Mhenarlâg a Rhuthun ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
“Mae pobl yn cymryd bod yr ystadau bach hyn yn gyfyngedig o ran eu pwysigrwydd - eu bod yn blastai cymharol fach gydag ychydig o barcdir a gerddi, ond cawsant ddylanwad enfawr ar y byd ehangach lle roedd pobl gyffredin yn byw ac yn gweithio.
“Mae gennym ddiddordeb mawr yn y modd y dylanwadodd y lleoedd hyn ar adeiladau a thirwedd yr ardal drwy’r mathau o ffermio a diwydiant oedd yn digwydd yno.
“Gwnaeth teulu Grosvenor, sef Dugiaid San Steffan yn ddiweddarach, lawer o’u harian trwy fwyngloddio plwm yn Sir y Fflint tra enillodd eraill eu harian mewn rhannau eraill o'r byd a dod â dylanwadau eraill yn ôl gyda hwy.
“Rydym yn ceisiau cyfleu'r pwyntiau pwysig ar ffurf map sy'n olrhain datblygiad tirweddau ac adeiladau dros 430 mlynedd, o'r cyfnod canoloesol hwyr hyd at ddechrau'r oes fodern ar ddechrau'r 20fedganrif. ”
Yn Neuadd Pentrehobyn, gall Teddy Clarke olrhain ei achau yn ôl i deulu Lloyd a adeiladodd y plasty tywodfaen ym 1550 ac a oedd yn arddel perthynas â'r enwog Edwin ap Gronwy, Arglwydd neu Frenin Tegeingl, sy'n cynnwys llawer o Sir y Fflint heddiw, yn yr 11egganrif.
Mae'r plasty'n cynnwys y neuadd fawr wreiddiol gyda'r palis derw gwreiddiol gydag ôl offer y seiri coed yn dal yn glir ar y pren er bod estyniadau a lloriau uwch wedi eu hychwanegu'n ddiweddarach.
Meddai: “Mae'n debyg bod y teulu wedi gwneud eu harian trwy fwyngloddio plwm yn yr ardal hon ond y prif ffynhonnell arian erbyn hyn yw gosod y tir a'r bythynnod a chodi tâl am ddefnyddio'r lle fel lleoliad ar gyfer priodasau.
“Adeiladodd un o berchnogion cynnar y tŷ nifer o lêtau, ystafelloedd bach lle gallai pererinion ar y ffordd i Ffynnon Gwenfrwi yn Nhreffynnon aros dros nos.
“Roedd y briffordd o Wrecsam i’r Wyddgrug, a oedd yn llwybr pererinion, yn mynd heibio i’r drws ffrynt yr adeg honno.
“Mae yna chwedl hefyd bod mynach wedi syrthio i gysgu yma ger y ffordd at y plasty ac wedi deffro 100 mlynedd yn ddiweddarach, fel rhyw fath o Rip Van Winkle o Gymru.”
Ceir portreadau o'r teulu ar y waliau ac yn eu plith mae un o Trevor Lloyd, sy’n enwog am ail-godi Colofn Eliseg ger Llangollen, tra bod perchennog diweddarach y tŷ, Pennant Lloyd, yn asiant i ystad enfawr Penrhyn ym Mangor a Bethesda, perchnogion y chwareli llechi yno a wnaeth eu ffortiwn cyntaf o lafur caethweision ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Bu’n rhaid i Lloyd drafod ar eu rhan gyda'r chwarelwyr oedd ar streic ar ddiwedd y 19egganrif ond pan ymddeolodd i Neuadd Pentrehobyn, trodd ei gefn ar y Toriaid a daeth yn gefnogwr brwd i brif elynion gwleidyddol teulu Pennant, sef y Rhyddfrydwyr.
Nod ymchwil y project yw creu system wybodaeth ddaearyddol (GIS) ar-lein y gellir ei digideiddio a mapio cofnodion hanesyddol yn uniongyrchol ar y lleoliad sy'n gysylltiedig â hwy.
Y cynnyrch terfynol fydd map manwl yn ymgorffori'r holl gofnodion hyn ac yn galluogi i wybodaeth o wahanol archifau gael ei gweld ar unwaith ac ar yr un pryd.
Meddai Scott Lloyd o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Byddwn yn mynd yn ôl trwy fapiau’r Arolwg Ordnans a mapiau’r degwm a mapiau'r clostiroedd hyd at 1800 a chyn hynny i fapiau ystadau unigol hyd at tua 1600.
“Byddwn yn eu digideiddio ac yn eu geo-gyfeirio a gallwn hefyd atodi dogfennau atynt fel y gallwch glicio ar blasty ar y map a chael gwybodaeth amdano neu hyd yn oed wybodaeth am gae unigol a gweld cofnod o'r defnydd tir.”
Meddai Dr Evans: “Wrth glicio ar y botwm, bydd yn bosibl i chi weld a symud trwy hanes llawn o'r dirwedd a'i nodweddion unigol, cam wrth gam trwy haenau cofnodion o bob rhan o'r cyfnod ar ôl y canol oesoedd.
“Dyna pam rydym wedi dewis yr ardal hon, oherwydd mae ganddi lawer o ystadau ac mae llawer o wybodaeth amdanynt, ac mae rhywfaint o'r wybodaeth yn mynd yn ôl i'r 14egganrif, ac mae gwneud hyn gyda'r lefel hon o fanylion yn newydd a bydd yn dempled ar gyfer ymarferion tebyg yng Nghymru a thu hwnt.
“Mae'n ddiddorol iawn oherwydd bod cymysgedd o blastai, amaethyddiaeth, diwydiant, coetir ac ucheldir yn yr ardal a bydd y map yn dangos y newidiadau mewn cymdeithas dros y cyfnod hwn trwy brofiad pobl y cyfnod.”
Am ragor o wybodaeth am Brifysgol Bangor ewch i https://www.bangor.ac.uk/