Prifysgol Bangor yn datblygu'n arweinydd byd-eang mewn dyfodol ynni niwclear
Bydd Prifysgol Bangor yn dod yn safle ymchwil niwclear o safon fyd-eang ar ôl buddsoddiad gwerth £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn 15 o swyddi gwyddoniaeth newydd.
Bydd y swyddi gyda chymwysterau da yn Sefydliad Dyfodol Niwclear y brifysgol ac yn cryfhau uchelgais niwclear y rhanbarth ar ôl y siom o weld Hitachi yn tynnu allan o broject Wylfa Dau.
Croesawyd y chwistrelliad o arian gan Gyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear, yr Athro Bill Lee, un o brif wyddonwyr niwclear y Deyrnas Unedig, sy’n dweud y bydd yn galluogi’r brifysgol i ehangu ei gwaith yn y maes niwclear i feddygaeth, rheolaeth ac offeryniaeth, deunyddiau strwythurol ac ynni ymasiad.
Dywedodd y gallai agor y drysau i fuddsoddiad pellach o gannoedd o filiynau o bunnoedd ledled Gogledd Cymru wrth i’r rhanbarth ddod yn un o ganolfannau ynni di-garbon y Deyrnas Unedig.
“Os ydym yn mynd i drosi'r wlad gyfan i drydan ar gyfer trafnidiaeth a gwresogi cartrefi erbyn 2050 yna bydd yn rhaid i ni ddyblu neu hyd yn oed dreblu capasiti'r cyfredol felly bydd angen gwynt, solar, ynni dŵr a niwclear arnom ac mae'r rhain i gyd gyda ni yng Ngogledd Cymru. Yna gallwch ddirwyn glo, nwy ac olew i ben,” meddai.
Daw'r arian ar gyfer y swyddi newydd o raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae'r brifysgol hefyd yn ariannu un swydd ychwanegol yn y Sefydliad.
Ychwanegodd yr Athro Lee, a oedd yng Ngholeg Imperial Llundain yn flaenorol ac un o wyddonwyr deunyddiau gorau'r byd: "Mae'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop yn rhoi cyfle gwirioneddol i Brifysgol Bangor fod yn rhan ganolog o ddatblygiadau ynni carbon isel.
“Mae hwn yn gyfle gwych i Ogledd Cymru, yn darparu isadeiledd ymchwil a hyfforddiant rhagorol ynghyd â rhaglen niwclear lawer mwy sylweddol.
“Mae'n fudd allweddol i Ogledd Cymru bod gennym ddau safle niwclear trwyddedig yn Wylfa a Trawsfynydd ac er bod Hitachi-GE wedi tynnu allan o'r project Wylfa Newydd mae sgyrsiau parhaus gyda chwmnïau eraill - caiff y safle hwnnw ei defnyddio gan rywun.”
Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear yn 2017 i ganolbwyntio ar ymchwil i dechnolegau niwclear yng Ngogledd Cymru lle mae ynni niwclear wedi chwarae rhan allweddol yn Wylfa a Trawsfynydd a lle mae'r brifysgol a pharc gwyddoniaeth M-SParc yn darparu cefnogaeth academaidd a diwydiannol.
Bydd y buddsoddiad newydd yn helpu'r Sefydliad Dyfodol Niwclear i ehangu i feysydd meddygaeth niwclear, gan ddefnyddio cemegion ymbelydrol i wneud diagnosis o glefyd y galon a llawer o ganserau a'u trin, deunyddiau strwythurol, i atal gollyngiadau ymbelydrol o adweithyddion niwclear, ac ymasiad niwclear.
Meddai'r Athro Lee: “Bydd y penodiadau newydd yn dod yn rhan o dîm sy’n arwain y byd yn cefnogi projectau rhanbarthol mawr a ariennir trwy Fargen Twf y Gogledd megis y Ganolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel yn M-SParc ar Ynys Môn.
“Mae yna hefyd brojectau sylweddol fel y Cyfleuster Hydroleg Thermol Cenedlaethol y bwriedir ei sefydlu yng Ngogledd Cymru fel rhan o Fargen y Sector Niwclear.
“Mae nifer o elfennau y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu’r math o allu sydd ei angen arnom yma, gan gynnwys arian a chyfleusterau ond yr elfen bwysicaf yw pobl ac mae’r buddsoddiad hwn mewn pobl yn rhoi dechrau da i Fangor.”
Mae wedi cael cefnogaeth Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, a ddywedodd: "Rwy'n falch bod cynllun Sêr Cymru yn gallu cefnogi'r rhaglen hon ym Mhrifysgol Bangor, gan greu nifer o swyddi o ansawdd uchel a chryfhau sylfaen ymchwil y Brifysgol hyd yn oed ymhellach."