Dr Shaun Evans o Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas sy'n darparu'r cefndir:
“Cafodd Castell Gwrych ei adeiladu fel ffug-gastell Gothig enfawr rhwng 1810 a 1825 gan Lloyd Bamford-Hesketh (1788-1861) er cof am ei fam Frances Lloyd a'u cyndeidiau.
Roedd y teulu Lloyd, neu Llwyd, â chysylltiad â'r ardal ers cenedlaethau, gan fyw mewn plasty o'r enw Plas yn Gwrych. Roeddent yn deulu bonedd, neu uchelwyr, a fu yn yr ardal ers cenedlaethau ac roedd ganddynt gryn dipyn o ddylanwad yn lleol. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae casgliad o gofnodion yn ymwneud â hanes y teulu Lloyd a'u hystâd. Mae llawysgrifau o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg sy’n olrhain achau eu llinach a chopïau o gerddi mawl a gyfansoddwyd gan rai o feirdd yr uchelwyr.
Aeth Lloyd Bamford-Hesketh ati i ymfalchïo yn y dreftadaeth Gymreig hon yn ei Gastell newydd trwy gomisiynu ffenestri lliw ar gyfer prif fynedfa'r tŷ yn cynnwys arfbeisiau pum brenhinllwyth Cymru a phymthecllwyth Gwynedd.
O dan berchnogaeth y Bamford-Heskeths a Winifred, Iarlles Dundonald (1859-1924), daeth Castell Gwrych yn ddatganiad pensaernïol amlwg yn nhirwedd gogledd Cymru. Erbyn yr 1870au roedd yr ystâd o amgylch y castell yn fwy na 3,400 erw, ac yn cael dylanwad sylweddol ar y gymdeithas yn lleol, ar fywyd cymunedol ac economaidd Abergele a'r cyffiniau.
Fel yn achos llawer o blastai ac ystadau eraill yng Nghymru, bu’r ugeinfed ganrif yn gyfnod o newid mawr i Gastell Gwrych, wrth i’r ystâd gael ei chwalu ac i gynnwys y tŷ gael eu gwerthu. Yn ystod yr ail ryfel byd bu Castell Gwrych yn gartref i grŵp o 200 o ffoaduriaid Iddewig fel rhan o’r rhaglen Kindertransport. Yn ddiweddarach datblygodd yn atyniad amlwg i ymwelwyr, cafodd ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi gan y pencampwr bocsio Randolph Turpin a’i ddefnyddio i gynnal gwleddoedd canoloesol a thwrnameintiau ymwanu, rasys beic modur ac mae sw wedi bod yno hyd yn oed! ”
Serch cael ei restru fel safle treftadaeth pwysig, o ddiwedd y 1980au adfeiliodd y safle’n gyflym a chafodd ei fandaleiddio’n ddrwg. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf bu ymdrechion gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych i achub ac adfer y Castell ac mae’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan un o raddedigion yr ysgol Hanes, Mark Baker. Gobeithiwn y bydd y berthynas newydd gyda I’m a Celebrity yn rhoi hwb sylweddol i'r ymdrechion hynny.”
Ychwanegodd Shaun:
“Mae ffilmio I’m a Celebrity yng Nghastell Gwrych yn newyddion gwych i'r rhanbarth. Bydd y Castell yn cynnig lleoliad gwych ar gyfer y sioe: dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld sut maen nhw'n defnyddio'r amgylchedd hanesyddol ac i weld sut y bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen adfer. Ond yr un mor bwysig, mae’n gyfle gwych i arddangos Gogledd Cymru ar ei orau - cyfoeth ein diwylliant, ein hanes a’n treftadaeth, ein tirweddau a'n cymunedau. O wneud hyn yn iawn mae cyfle i sicrhau buddion parhaol i'r rhanbarth. ”
Shaun yw Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sef canolfan ymchwil sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Bangor a sefydlwyd i ddadansoddi hanes ystadau megis ystâd Gwrych. Aeth ati i esbonio beth yw arwyddocâd ystadau o’r fath:
“O ddiwedd y canoloesoedd hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd Cymru i raddau helaeth yn glytwaith o ystadau, a oedd yn amrywio'n fawr o ran eu maint, eu cymeriad a'u cyfansoddiad. Mae llefydd fel Castell Gwrych yn bwysig iawn er mwyn deall hanes Cymru, o natur tirwedd a phensaernïaeth, i hanes noddwyr beirdd a cherddorion. Cafodd yr ystadau hyn a'u perchnogion ddylanwad mawr ar gymdeithas, sy'n golygu eu bod hefyd yn bwysig iawn er mwyn deall hanes ein cymunedau: y cenedlaethau o bobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ystadau."
Mae ffilmio I’m a Celebrity yng Nghastell Gwrych yn tanlinellu pa mor gyfoethog yw amgylchedd hanesyddol y rhanbarth. Mae Castell Gwrych yn safle treftadaeth rhestredig Gradd 1 ac yn 'enghraifft fawr a godidog o blasty castellog rhamantus; mae’n arbennig o bwysig oherwydd ei gyfansoddiad Pictiwrésg ysblennydd a helaeth, ac mae’n un o'r enghreifftiau gorau o'i gyfnod ym Mhrydain.’”
Ychwanegodd:
“Dan ni mor ffodus ym Mhrifysgol Bangor bod cymaint o amrywiaeth o safleoedd a thirweddau treftadaeth ddiwylliannol ar garreg y drws. Mae hyn wir yn cyfoethogi'r rhaglenni gradd hanes yr ydyn yn eu cynnig ym Mangor. Mewn amgylchiadau arferol, mae gallu ymweld â'r safleoedd hyn a'u defnyddio, yn ogystal â'n harchifau a'n hamgueddfeydd gwych, yn cyfrannu rhywbeth arbennig iawn at y profiad addysgu a dysgu ym Mangor."
I ddysgu mwy am astudio Hanes ym Mangor ewch i dudalen yr Ysgol.