Spartacus yn 60 mlwydd oed: Cynhadledd Ar-lein
Yn syniad gwreiddiol gan Kirk Douglas ac yn greadigaeth y cyfarwyddwr ffilm, Stanley Kubrick, mae Spartacus yn dal i gael ei ystyried yn un o'r enghreifftiau gorau o'i genre.
I nodi trigain mlynedd ers rhyddhau Spartacus, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol cynadleddau tebyg ar Ffilmiau Stanley Kubrick eiconig 2001 A Space Odyssey ac Eyes Wide Shut, mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd rithiol i ystyried Spartacus. Cynhelir y digwyddiad ar 21 Rhagfyr 2020, 9 - 6.30pm
Disgrifia’r trefnydd Nathan Abrams, sy’n Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor y Gynhadledd fel cyfle i’r gymuned fyd-eang o ffans, academyddion ac ymarferwyr ddod ynghyd i ystyried cynhyrchiad y ffilm hollbwysig hon a'i heffaith.
Mae’n esbonio:
“Mae Spartacus wedi gadael ei hôl ar ddiwylliant poblogaidd a chafodd ei dynwared a’i pharodïo’n helaeth. Ond mae ei hunion safle o fewn oeuvre Stanley Kubrick wedi cael ei gamddeall ac mae rhai beirniaid ac academyddion wedi ei heithrio o'i ganon.
“O ganlyniad i hynny, ni fu'n destun yr un dadansoddiad beirniadol gan amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a safbwyntiau methodolegol â'i ffilmiau eraill.
Fel y dywed cyd-drefnydd y Gynhadledd, Dr James Fenwick Uwch ddarlithydd mewn Cyfryngau ym Mhrifysgol Sheffield Hallam:
“Mae gwaddod diwylliannol Spartacus yn parhau yn y modd y mae’n dal i ysbrydoli ffilm, teledu a chyfryngau eraill. Hon yw’r unig Gynhadledd o’i math, sydd yn archwilio’r ffilm allweddol hon, unrhyw fan yn y byd. Dewch i ymuno â ni!”
Bydd y gynhadledd, yn dod ag ysgolheigion a lladmeryddion o amrywiol gefndiroedd disgyblaethol ledled y byd at ei gilydd i archwilio’r ffilm, trafod ei heffaith ac ystyried ei safle o fewn gwaith Stanley Kubrick yn gyffredinol, yn ogystal â'r diwylliant gweledol a chymdeithasol-wleidyddol ehangach.
Ymhlith y pynciau a fydd yn cael eu trafod mae gwreiddiau’r ffilm, yr hyn a ddylanwadodd arni, y cynhyrchu, ei hestheteg, ei themâu, yr hyn y mae’n yn ei gynrychioli, y cyhoeddusrwydd fu amdani, sut y cafodd ei derbyn, ei hetifeddiaeth, a pherthynas y ffilm â gweddill gwaith Kubrick a Douglas.
Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal gan Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrîn, Prifysgol Bangor. Gallwch fynychu yn rhad ac am ddim a gall cyfranogwyr gofrestru yma: https://shu.zoom.us/meeting/register/tJwkf-2grT0sGtBwpzFVbzCKtfKiQyz00l_v