Symudodd yr Athro Thomas o Brifysgol Bangor i Brifysgol Helsinki ym mis Hydref. Cyn iddo symud, roedd wedi gwasanaethu fel Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, ac fel Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.
Mae enwau lleoedd newydd yr Antarctig yn nodi dau gan mlwyddiant Darganfod Antarctica.
Mae'r enwau lleoedd hyn yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo dealltwriaeth o Antarctica, ei hamddiffyn a’i rheoli dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, ac sy’n llawn haeddu cael sylw i’w cyflawniadau, ochr yn ochr â rhai'r archwilwyr cynnar.
Gwaith tîm ar y rhew
Mae'r rhai sy'n cael eu cydnabod heddiw, ar 3 Rhagfyr, yn cynrychioli gwyddonwyr blaenllaw yr Antarctig yn y Deyrnas Unedig, neu'r rhai sydd wedi cyfrannu at roi gwell dealltwriaeth i ni o'r cyfandir, ac nad ydyn nhw hyd yma wedi cael eu hanrhydeddu ag enw lle.
“Mae hon yn anrhydedd annisgwyl a gostyngedig, sy’n cydnabod fy nghyfraniad cymharol fach at ymchwil i rew môr” meddai’r Athro David N. Thomas.
“Mae fy math o ymchwil yn seiliedig ar waith tîm ac mae cymaint o gydweithwyr, criwiau llongau, cefnogaeth logisteg wedi gwneud fy ngwaith yn bosibl. Mae fy niolch yn fawr iddyn nhw bob amser.” O bwys arbennig y mae Stathys Papadimitriou, Louisa Norman, Hilary Kennedy a Gerhard Dieckmann, Christian Haas, Gerhard Kattner a'r ddiweddar Sigi Schiel o Sefydliad Alfred Wegener.”
Rhewlif Thomas yn ymuno ymuno â Phenrhyn Fogg yn dathlu gwyddonwyr Bangor
Dywedodd Pennaeth presennol yr Ysgol, yr Athro John Turner:
“Mae David yn un o grŵp dethol iawn o wyddonwyr ac archwilwyr pegynol i gael rhewlif wedi’i enwi ar eu hôl yn Antarctica, ac ar ran yr Ysgol Gwyddorau Eigion, hoffwn longyfarch David ar yr anrhydedd prin ac arwyddocaol hon sy’n cydnabod cyfraniad ei ymchwil.
Mae'n arbennig o berthnasol bod “Rhewlif Thomas” yn agos at ‘Benrhyn Fogg’ neu ‘Fogg Headland’ a enwyd ar ôl GE (Tony) Fogg. Roedd Tony nid yn unig yn ffrind a mentor i David, roedd hefyd yn Gadeirydd Sefydledig Bioleg y Môr ym Mangor rhwng 1971 a 1985, swydd y bu David ynddi rhwng 2006 a 2020.
Mae'n gyflawniad gwych cael dau wyddonydd o Fangor ymhlith y rhai sy'n cael eu hanrhydeddu trwy gael eu rhoi ar fap y cyfandir gwirioneddol ryngwladol hwn.'
Symudodd David Thomas i Fangor ym mis Gorffennaf 1996 ac yn ystod yr amser hwnnw, cwblhaodd bedwar o'i chwe daith i’r Antarctig ym 1997, 1998, 2004/05 a 2006.
Yn gyffredinol mae enwau'n cynnwys term generig, sy'n disgrifio'r nodwedd sy'n cael ei henwi, ac enw penodol, a all fod yn ddisgrifiadol, ar thema hanes, gwyddoniaeth neu ddiwylliant yr Antarctig, neu ar ôl unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaus i wyddoniaeth yr Antarctig, neu wasanaeth nodedig arall yn ymwneud ag Antarctica.