Mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa wych i ddod yn ganolbwynti ddyfodol ynni gwyrdd y Deyrnas Unedig, yn ôl gwyddonydd blaenllaw sy’n arwain Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor.
Yn y fantol mae £525 miliwn ar gyfer cenhedlaeth newydd o adweithyddion niwclear bach (SMR) y mae modd eu defnyddio i gynhyrchu isotopau meddygol yn ogystal â phŵer ac mae miliynau eraill ar gael at ynni'r gwynt, y llanw, yr haul a hydrogen.
Dywed yr Athro Bill Lee fod gan y rhanbarth bopeth sydd ei angen i'w wneud yn ganolbwynt creu ynni’r wlad ac mae prosiect Wylfa Newydd yn cyniwair eto gyda diddordeb gan gwmni mawr maes pŵer o'r Unol Daleithiau, Westinghouse.
Mae gan Wylfa a Thrawsfynydd drwyddedau niwclear, mae gan Brifysgol Bangor fuddsoddiad newydd sylweddol mewn swyddi niwclear arbenigol ac mae statws Môn fel ynys ynni yn cael ei ategu gan allu peirianyddol o'r radd flaenaf yng ngogledd ddwyrain Cymru a'r potensial i greu miloedd o swyddi â chyflogau uchel.
Dywedodd yr Athro Lee: “Y ffaith amdani yw bod gennym ddwy drwydded ar gyfer safleoedd niwclear yma ac nid oes yr un ohonynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
“Mae safleoedd gogledd Cymru yn well na'r rhai mewn mannau eraill - mae safle'r Wylfa'n enfawr ac mae ganddo fynediad da i'r môr er mwyn dod â chyfarpar trwm i mewn ac mae mwy o botensial i wneud pethau gwahanol yno nag yn unman arall.
“Yma yng ngogledd Cymru mae gennym hefyd gymuned sy'n gefnogol i'r diwydiant niwclear
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi siarad am yr agenda codi lefel ac felly dylent gael eu gweld yn cefnogi’r rhanbarth hwn gyda phrosiectau a all greu swyddi o ansawdd uchel a chyflogau da.”
“Gallai'r consortiwm o'r Unol Daleithiau gamu i'r adwy yn yr Wylfa, wedi i Hitachi-GE gamu o'r neilltu, gyda phrosiect i adeiladu cwpl o adweithyddion mawr yno ac er y gallai gymryd blwyddyn neu ddwy i wireddu hynny mae yno gyfleoedd eraill posib hefyd.
“Y drws nesaf i'r Wylfa, mae potensial mawr i safle Wylfa Newydd a bron i 300 hectar o le ar gyfer cenhedlaeth newydd o Adweithyddion Modiwlaidd Bach fel y rhai a oedd yn yr arfaeth gan gonsortiwm UKSMR o dan arweiniad Rolls-Royce er bod diddordeb hefyd gan gwmnïau mawr eraill y maes, fel Battery U Eingl-Iseldireg a NuScale Power o UDA.
“Mae Trawsfynydd yn opsiwn fel safle ar gyfer Adweithydd Modiwlar Bach ond mae yno botensial hefyd i godi adweithydd i gynhyrchu isotopau meddygol i feddygaeth niwclear ar gyfer diagnosio a thrin canserau.
“Gallai Adweithydd Radioisotop Meddygol ac Ymchwil (MRRR) o'r fath ynghyd â chyfleusterau prosesu cyfagos gyflenwi radio-fferyllfeydd yn y Deyrnas Unedig a thramor.
“Byddai cynnal MRRR, cyfleusterau prosesu a chanolfan hyfforddi ar yr un safle yn fodd i ddatblygu defnyddiau newydd mewn meddygaeth ac mewn mannau eraill ar gyfer isotopau radio a gwella hyfforddiant a gallu'r Deyrnas Unedig yn y maes hwn.
“Ar hyn o bryd mae’r isotopau hyn yn cael eu mewnforio yn bennaf o Ewrop a De Affrica a byddai cyfleusterau yn Nhrawsfynydd yn cyd-daro â nod Prifysgol Bangor o benodi darlithydd mewn Meddygaeth Niwclear a gyda’r gwaith y mae’n ei gynllunio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru.”
Mae'r Athro Lee, un o brif wyddonwyr niwclear y Deyrnas Unedig, yn credu y gall Gogledd Cymru elwa o fuddsoddiad pellach gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn mathau eraill o bŵer gwyrdd wrth i'r rhanbarth ddod yn un o hybiau ynni di-garbon y Deyrnas Unedig.
Dywed: “Rydym hefyd yn edrych ar gynhyrchu ynni'r gwynt, yr haul a'r llanw yn ogystal â chynhyrchu ynni hydrogen gwyrdd trwy ganolfannau ymchwil rhanbarthol sydd yn yr arfaeth fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru.
“Mae gan y rhanbarth eisoes ddigon o ynni carbon isel mewn ffermydd gwynt ar y tir ac yn y môr a chynlluniau i gynhyrchu mwy fyth o ynni'r gwynt yn y môr at y dyfodol, nifer o brosiectau ynni'r llanw o Ynys Môn ar arfordir y gogledd hyd at Fostyn.
“Mae'r pethau hynny i gyd yn yr arfaeth ac mae'n allweddol cydgysylltu'r cyfan fel bod gennym gymysgedd o ynni'r gwynt, y llanw, trydan dŵr a niwclear a bod hynny'n hyblyg fel ein bod ni'n parhau i gynhyrchu pŵer pan nad yw'r gwynt yn chwythu na'r haul yn tywynnu.”